Bore heddiw mynychais ddigwyddiad Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych yng Nghoedwig Clocaenog – am ddechrau da i’r wythnos. Roedd y goedwig yn ei anterth hydrefol, a chawsom gyfnod o dywydd sych mwyn a oedd yn berffaith ar gyfer gweithgaredd y bore a oedd dysgu am waith Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru yn Sir Ddinbych. Roedd hwn yn amseriad gwych gan y tîm twristiaeth gan ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Gwiwer Goch!
I ddechrau rhoddodd Becky Clews-Roberts, y Parcmon Gwiwer Goch grynodeb o’r sefyllfa bresennol yn yr ardal. Mae Clocaenog ynghyd ag Ynys Môn a rhai ardaloedd yng Nghanolbarth Cymru wedi dod yn bwyntiau ffocal ac yn rhan o’r Cynllun Cadwraeth Llywodraeth Cymru i annog cynnydd o’r boblogaeth gwiwer goch brodorol.
Mae gan Glocaenog rostir agored ar un ochr yn fan perffaith ar gyfer y boblogaeth gwiwerod llwyd sydd yn cynyddu, ynghyd â’r rhaglen rheoli Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r wiwer lwyd yn draean yn fwy na’r wiwer goch brodorol ac oherwydd hyn mae ganddynt y gyfradd llwyddiant uwch i ddod o hyd i fwyd. Mae’r gwiwer lwyd hefyd yn cario firws y mae ganddynt imiwnedd eu hunain iddo ond mae’n angheuol i’r gwiwerod coch. Mae 5 miliwn o wiwerod llwyd yn y DU o’i gymharu â 140,000 o wiwerod coch, gyda 120,000 ohonynt yn byw yn yr Alban. Yn ddiddorol iawn mae gan yr Alban boblogaeth uchel o felaod coed sydd yr anifeiliaid rheibus uchaf yn y DU – felly gall ychydig o gydberthyniad rhwng y ffaith hon a rheoli i drosfeddiannu gwiwerod llwyd yn yr Alban.
Ydych chi’n gwybod os ydych yn dal gwiwer lwyd yn y DU, ei fod yn anghyfreithlon i chi ei ryddhau yn ôl i’r gwyllt a dylech ei ladd? Na, doeddwn i ddim chwaith.
Rhan o waith Becky yw lledaenu hyn a ffeithiau eraill am wiwerod, mae’n ymweld ag ysgolion a chlybiau i siarad ac hefyd yn cynnal cyrsiau i wirfoddolwyr sydd eisiau bod yn rhan o hyn. Er mwyn cael mwy o ddata am weithgaredd gwiwer goch, mae Becky a’i gwirfoddolwyr wedi rhoi 35 camera llwybr mewn ardaloedd adnabyddedig. Mae’r camerâu yn cael eu sbarduno gan synhwyrydd symudiad a dangosodd Becky luniau da iawn i ni a dynnwyd yng Nghlocaenog. Mae’r gwirfoddolwyr yn dysgu sut i lawrlwytho’r lluniau o’r camerâu a’u monitro bob chwe wythnos, hefyd maent yn cael eu hannog i fod yn ynghlwm yn rheolaeth o’r gwiwerod llwyd. Mae Becky yn gobeithio ar ôl i’r prosiect tair blynedd ddod i ben, bydd etifeddiaeth o wirfoddolwyr i gynnal y gwaith a ddechreuwyd yn barod.
Roeddem yn cerdded o amgylch y goedwig ac edrych ar rai o’r camerâu a gweld pa mor hawdd oedd lawrlwytho’r lluniau, y broblem fwyaf oedd cofio lle oeddynt i gyd, gan fod pob coeden yn edrych yn un fath! Roedd pob camera gyda stôr o gnau cyll yn syth gyferbyn er mwyn ceisio denu ymweliad gan y wiwer goch cywrain. Gwelsom gaws llyffant lliwgar a ffyngau oren anghyffredin a oedd yn sefyll allan ar lawr mwsoglyd y goedwig. Mae gan y goedwig ymdeimlad tawel a heddychlon ac nid yw’n dweud dim wrthych chi am y frwydr rhwng y da a’r drwg, rhwng y brodorol a’r ymyrwyr!
Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn neu am wirfoddoli (mae lle ar gwrs dydd Sadwrn yma!) i’w weld ar Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru neu os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn llysgennad neu fynychu’r digwyddiad llysgennad nesaf ewch i’r dudalen hon.