Mae 2017 yn Flwyddyn Chwedlau yng Nghymru
Rydym yn dathlu ein gorffennol arwrol, y presennol a’r dyfodol gydag atyniadau, digwyddiadau a gweithgareddau mewn amryw o leoliadau chwedlonol.
Lonely Planet yn enwi Gogledd Cymru fel un o’r 10 rhanbarth uchaf i ymweld â hi yn yr holl fyd eleni. Mewn gwirionedd mae Gogledd Ddwyrain Cymru yn rhannu ffin gyda Sir Amwythig a Sir Gaer. Felly, os ydych yn teithio o’r tu allan i Gymru, byddwch yn ein gofod agored eang, yn archwilio ein cestyll, bwyta ein bwyd blasus ac yn teimlo’r wefr yn ein gwyliau ymhen dim.
Ar gyfer yr holl ddigwyddiadau diweddaraf, cysylltwch ag un o’n Canolfannau Gwybodaeth Ymwelwyr. Gallant eich helpu i drefnu llety hefyd – a rhoi gwybod am unrhyw beth arall yr hoffech wybod.
Ymhobman yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae straeon i’w hadrodd. Mae rhai yn wir a rhai – wel, efallai mai chwedlau ffug ydynt. Sy’n ffordd arall o ddweud bod iddynt wahanol fath o wirionedd.
Maent yn rhan o’n tirwedd. Rhan o pwy ydym ni.
Ond wrth i chi deithio o amgylch Gogledd Ddwyrain Cymru, ni fyddwch ond yn gweld y straeon hyn yn ein cestyll a’n heglwysi, ein hafonydd troellog a’n gweundir agored, ein theatrau a galerïau celf. Byddwch yn eu canfod ynoch chi eich hun hefyd.
Ysgrifennwch eich stori eich hun. Gwnewch eich taith yn un chwedlonol. Dyma 12 syniad epig i ddechrau arni
Gwyliwch ein ffilmiau fer sy’n tynnu sylw at rai o’n profiadau arbennig a’r cyfan o fewn pellter byr o’r ffin. Oherwydd nid ydym yn eich gwahodd i ymgolli yn ein straeon yn unig. Rydym am i chi wneud eich straeon eich hun. A gall y ffilmiau hyn roi ychydig o syniadau i chi.
Blwyddyn y Chwedlau Sir Ddinbych. Mae’r ffilm wedi cael ei gynhyrchu fel rhan o Croeso Cymru Blwyddyn ymgyrch Chwedlau ac yn arddangos yr hyn sydd i’w gynnig yn y Sir.
Llangollen-Tirwedd y Chwedlau. Mae’r ffilm yma wedi ei gynhyrchu gan @Needle Films ar gyfer menter rhwng Siambr Fasnach Llangollen a’r Pwyllgor Cittaslow a Gyngor Tref Llangollen.