Y diweddaraf am Coronafeirws

Cyfnod atal y coronafeirws.

Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at
Reoliadau Coronafeirws Canllawiau.

Archwiliwch Wrecsam

 

Mae sicr yn fwy i Wrecsam nag a welwch. Ac mae yn bendant ddigon o antur i’n gweld ni drwy’r Flwyddyn Antur. Boed yn daith fwyd, diwrnod yn y rasys, neu ychydig o therapi siopa, mae Wrecsam yn aros i groesawu ymwelwyr gydag digon o amrywiaeth at ddant pawb.

Mae Wrecsam yn gartref i’w safle Treftadaeth y Byd UNESCO ei hun, Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte <https://www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk/cy/>, 11 milltir o gamlas hardd a’r draphont syfrdanol a gynlluniwyd gan Thomas Telford. Gallwn hefyd frolio Cae Rasio enwog Bangor Is-Coed, 2 eiddo gogoneddus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, anturiaethau moduro oddi ar y ffordd, ac ystod wych o lety, bwytai a chaffis.

Mae’r cefn gwlad yn wych hefyd – er enghraifft, mae Dyffryn Ceiriog  hardd yn cynnig ei hun at y teithiau cerdded mwyaf trawiadol, neu hyd yn oed taith merlod os hoffech.

Mae harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Rhiwabon a Mynydd Esclusham, Dyffryn Dyfrdwy a Chastell y Waun wedi eu cydnabod yn ffurfiol gan eu cynnwys o fewn Ardal o Harddwch Naturiol ac Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae’n dangos bod Wrecsam wirioneddol yn cynnwys rhai o dirweddau harddaf y DU.

Rhywbeth i bawb, rydym yn hoffi meddwl. Yn sicr, ni fyddai ymweliad i Ogledd Ddwyrain Cymru yn gyflawn heb weithgareddau ac antur, p’un a yw’n ysgafn neu’n llawn adrenalin, yn Wrecsam!

Two women dining in a Wrexham town centre restaurant

Canol Tref Wrecsam

Os yw siopa yn mynd â’ch bryd, yna gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cynnig ar ganol tref Wrecsam. Mae’r enwau mawr yn byw yn Nôl yr Eryrod, lle byddwch nid dim ond yn dod o hyd i’r gorau o’r brandiau stryd fawr, ond hefyd sinema, bowlio deg, llu o fwytai a chaffis a digon o barcio.

Mae Wrecsam hefyd yn gartref i nifer o farchnadoedd, a siopau unigol llai, felly rydych chi’n sicr o ddod o hyd i rywbeth arbennig os mai anrheg rydych chi’n chwilio amdano.

Amgueddfa Wrecsam yw’r lle i ddarganfod hanes cyffrous y rhanbarth, a lle gallwch gwrdd â Dyn Brymbo, ein preswylydd ein hunain o’r Oes Efydd. Mae yna hefyd gaffi gwych yno!

Gyda nifer o gysylltiadau rheilffyrdd a bysiau, mae’n hawdd iawn ymweld â chanol tref Wrecsam. A tra byddwch chi yno, galwch i mewn i’r Ganolfan Groeso – maent bob amser yn gwybod y gorau o ddigwyddiadau lleol a’r digwyddiadau diweddaraf! Mae’r Ganolfan Groeso wedi ei lleoli ar Stryt y Lampint, neu ffoniwch 01978 292015.


Trevor Basin and Pontcysyllte Aqueduct against a blue sky

Traphont Ddŵr Pontcysyllte

Yn ne Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae Traphont Ddŵr hardd Pontcysyllte. Mae’n rhan o 11 milltir o safle Treftadaeth y Byd UNESCO sydd hefyd yn cynnwys Camlas Llangollen a Thraphont Ddŵr y Waun. Wedi’i leoli rhwng pentrefi Trefor a Froncysytlle, mae’r strwythur urddasol yn sefyll 38 metr oddi ar y ddaear, ac yn cario camlas Llangollen dros Afon Dyfrdwy.

Gallwch groesi ar droed, neu neidio ar gwch cul – naill ffordd neu’r llall mae’r golygfeydd dros y dyffryn yn ddramatig, ac ar yr uchder y byddwch chi arno, yn syfrdanol. Peidiwch ag anghofio eich camera, ni fyddwch am golli’r cyfle i dynnu llun.

Os yw taith ysgafn ar gwch yn mynd â’ch bryd, gallwch fynd ar daith cwch gul neu hyd yn oed llogi eich cwch eich hun am ddiwrnod neu egwyl hirach. Siawns gallem i gyd elwa o arafu cyflymder i lawr bob hyn a hyn, a does dim lle gwell i wneud hynny.

Os mai beicio yw eich diddordeb, gallwch logi beiciau o Fasn Trefor i archwilio’r gamlas (edrychwch am y gwaith celf hyfryd yn maes parcio Reeds Yard ac yno fe welwch HireCycles2Go) – a naill ai fynd i Langollen i gael blas ar yr holl bethau mae’r dref hanesyddol yn gallu cynnig, neu ewch i dwnnel ‘Darkie’ yn y cyfeiriad arall a dod i’r Waun.

I gael gwybod mwy am y trysor hwn yn ein coron, ewch i https://www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk/cy/


People walking on a pathway beside a canal boat and a viaduct

Y Waun

Am dref fechan, mae gan y Waun lawer i’w gynnig

Ei thraphont ddŵr hardd iawn ei hun gan Thomas Telford (oes, mae gan Wrecsam 2 draphont ddŵr yn agos iawn at ei gilydd. Lwcus ydym ni). A traphont gan Henry Robinson, sy’n rhedeg ochr yn ochr ag ef – cofiwch godi llaw ar y teithwyr trên wrth iddynt basio!

Nid porth i Loegr yn unig yw’r Waun. Mae’n cynnig mynediad rhwydd at Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ac i un o’r dyffrynnoedd harddaf yng Nghymru – Dyffryn Ceiriog.

Ychydig uwchben y pentref mae Castell y Waun, trysor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a adeiladwyd gan Edward I. Mae’r gaer ganoloesol ysblennydd yn lle perffaith i farchogion dewr archwilio cyrtiau a daeargelloedd, fforwyr dewr i grwydro tiroedd a pharcdir i chwilio am guddfannau a llecynnau manteisiol neu yn syml edrych ar yr ystafelloedd teulu ac amgylchoedd moethus. Ar gyfer y rhai sy’n chwilio am ffordd amgen o weld y parcdir, mae Castell y Waun yn gartref i Segtrek, sy’n eich galluogi i wibio eich ffordd o gwmpas ar Segway!


Children eating ice cream in Bangor-on-Dee

Bangor Is-Y-Coed

Lle trawiadol ar Afon Dyfrdwy, mae modd dod i Fangor Is-coed drwy bont garreg ganoloesol gefngrom.

Mae pysgota ar yr afon, golff gerllaw, a rasio ceffylau dim ond ychydig gannoedd o lathenni o ganol y pentref. Ynghyd â rhai llefydd gwych i fwyta neu fynd am ddiod.

Ddim yn bell i ffwrdd mae Parc Gwyliau a Phentref Manwerthu Plasau. Nid yn unig y mae hwn yn safle teithiol arobryn, mae’n cynnig detholiad gwych o siopau, bwytai, caffis a chyfleusterau chwarae, ac mae’n werth ymweld ag ef.


Holt

Wel, nid yw’n fan gwirio mewn gwirionedd. Ond croeswch ychydig gamau o Holt ar draws Hen Bont y Ddyfrdwy a byddwch mewn gwlad arall – Lloegr. Mae strwythurau hynafol nodedig eraill yn cynnwys adfeilion castell Holt ac Eglwys Sant Chad, un o’r ychydig enghreifftiau sydd wedi goroesi o ddylunio canoloesol wedi mynd o’i le yn ddifrifol. Mae ei thywodfaen yn frith o amhureddau, ei ffenestri yn rhy fawr ac un o’i bwtresi yn y lle anghywir. Mae’n dal i edrych yn hyfryd, fodd bynnag, ac mae golygfa wych ohoni o ardd gwrw tafarn Peal O’ Bells.

Mae Holt hefyd yn gartref i ganolfan arddio a bwyty ffantastig, lle os ydych yn dewis y mis cywir, mae’r cynnig ‘dewis-eich-hun’ yn llawer o hwyl!