Dyfrffordd Treftadaeth y Byd

Gydag 11 milltir o Ddyfrffordd Camlas Treftadaeth Byd dyma daith berffaith i unrhyw gwpwl neu deulu sydd am gerdded neu feicio. Ond mae’r atyniadau cyfagos hyn yn esgus perffaith i wyro oddi ar lwybr treftadaeth y byd ac archwilio Gogledd Ddwyrain Cymru. Rhaeadr y Bedol   Y lle gorau i ddechrau eich taith yw Rhaeadr […]

Llangollen
Tref Hanesyddol Llangollen – World Heritage Site

Gydag 11 milltir o Ddyfrffordd Camlas Treftadaeth Byd dyma daith berffaith i unrhyw gwpwl neu deulu sydd am gerdded neu feicio. Ond mae’r atyniadau cyfagos hyn yn esgus perffaith i wyro oddi ar lwybr treftadaeth y byd ac archwilio Gogledd Ddwyrain Cymru.


Rhaeadr y Bedol

 

Y lle gorau i ddechrau eich taith yw Rhaeadr y Bedol. Adeiladwyd y gored odidog a thawel hon gan Thomas Telford (y dyn a gynlluniodd y draphont ddŵr) i bwrpas tynnu Afon Dyfrdwy i’r gamlas. Er ei bod yn gwneud ei gwaith yn wych, mae wir yn ychwanegu at harddwch y dirwedd o gwmpas ac mae’n llecyn perffaith ar gyfer picnic teuluol.

 

Abaty Glyn y Groes

 

Gyda thaith ymchwil fechan fe allwch weld adfeilion Abaty Glyn y Groes. Gyda’r safle yn cael ei adeiladu yn 1201 mae wedi goroesi 8 canrif i ddod yn un o’r abatai gaiff ei ddiogelu orau yng Nghymru gyfan, mae’r pwll pysgod ar gyfer y mynachod yn parhau yn llawn o ddŵr!

Mae’r abaty wedi goroesi bywyd anodd iawn gan iddo ddioddef tân difrifol ac ymosodiadau niferus. Mae’n lle perffaith i ymlacio a gwylio’r byd yn mynd heibio gan fod y safle yng nghanol Dyffryn Dyfrdwy.

 

Llangollen

 

Mae tref Llangollen yn rhan ddeheuol Sir Ddinbych.

Gyda chynifer o bethau i’w gweld ac i’w gwneud yn y dref, dyma’r lle gorau i aros ac archwilio ar eich taith treftadaeth byd. Os oes gennych ddiddordeb yn hanes y dref yna Plas Newydd yw’r lle perffaith i glywed straeon am Ladis Llangollen ac i fynd am baned o de a thamaid o gacen haeddiannol yn yr ystafelloedd te. Amseru eich gwyliau i gyd-fynd ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yw’r ffordd orau o ymgolli nid yn unig yn niwylliant Cymru ond yn niwylliannau bywiog o bob cwr o’r byd.

Os ydych yn mwynhau chwaraeon antur yna Llangollen hefyd yw’r lle i chi. Gyda chynifer o weithgareddau chwaraeon dŵr i roi cynnig arnynt ar y gamlas ac Afon Dyfrdwy, fe gewch yr hwb yr ydych ei angen o ran adrenalin ar eich ymweliad nesaf.

Ac os ydych wedi blino cerdded llwybr y gamlas yna gallwch neidio ar gychod wedi’u tynnu gan geffylau a gorffwys eich traed wrth deithio ar hyd y gamlas.

 

Stand-up paddle-boarding on the Llangollen Canal
Stand-up paddle-boarding ar Gamlas Llangollen

Castell Dinas Brân

 

Nid yw’r un daith i Langollen yn gyflawn heb ymweliad â Chastell Dinas Brân. Gyda llwybr i’r brig sydd wedi ei gynllunio’n dda, nid yw mor ddrwg ag y tybiwch. Eich gwobr am gyrraedd y copa yw golygfa odidog banoramig o Ddyffryn Dyfrdwy a thu hwnt, yn ogystal â throsolwg o gamlas treftadaeth y byd (fel y gallwch weld faint sydd yna i fynd!) ac mae hyn yn ei wneud yn berffaith ar gyfer hunlun Instagram.

Gyda’r safle wedi ei enwebu ar gyfer Tirnod y Flwyddyn ar gyfer 2018 gan Gylchgrawn Country Living, mae hyn yn ddigon o brawf nad yw hwn yn safle i’w golli.

 

Traphont Ddŵr Pontcysyllte

 

Uchafbwynt y daith yw Traphont Ddŵr Pontcysyllte. Mae’n her ynddo’i hun i weld a ydych am fentro i groesi’r strwythur trawiadol hwn.

Wedi ei chynllunio a’i hadeiladu gan Thomas Telford a William Jessop, roedd y draphont ddŵr yn strwythur oedd o flaen ei hoes. Gyda Pontcysyllte yn golygu ‘y bont sy’n cysylltu’ mae’n cysylltu’r gamlas â phob ochr i’r dyffryn. Y safle hwn yw trysor safle treftadaeth y byd ac mae’n brofiad unigryw y dylai pob ymwelydd ei brofi.

Gallwch gerdded ar draws y ffrwd yn yr awyr os hoffech wneud hynny (neu os ydych yn ddigon dewr) neu arbedwch eich coesau eto drwy fynd ar daith hamddenol mewn cwch drosodd drwy logi cwch am y diwrnod o un o’r busnesau ym Masn Trefor. Yr unig beth hanfodol sydd angen i chi ddod gyda chi…..yw eich camera.

 

World Heritage site Pontcysyllte Aqueduct early morning sunshine and mist Routes To the Sea project Images by Craig Colville photographer Copyright held by Denbighshire County council
Safle Treftadaeth y Byd Traphont Dwr Pontcysyllte

 Parc Gwledig Tŷ Mawr

 

Ar ôl cyffro’r draphont ddŵr yna Parc Gwledig Tŷ Mawr yw’r lle perffaith am damaid o ginio. Gyda gweithgareddau llawn hwyl i bob oed gan gynnwys parc i blant, anifeiliaid, ardaloedd picnic, llwybrau cerdded a chanolfan ymwelwyr.

Pam na arhoswch am ginio a syllu ar brydferthwch Dyffryn Dyfrdwy.

 

Castell y Waun

 

Un o’r atyniadau mwyaf sydd ger camlas treftadaeth y byd yw Castell y Waun.

Mae’r castell wedi ei leoli ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ger tref hyfryd Y Waun, ac mae’r lle perffaith i deulu archwilio un o’r cestyll sydd mewn cyflwr da yng Nghymru. Gyda gerddi godidog, hanes rhyfeddol a digwyddiadau’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, rydych yn sicr o ganfod rhywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau.

 

Chirk Castle, Chirk
Chirk Castle, Chirk