Heddiw, cefais wahoddiad i fynd i sesiwn wyllt-grefft gan gynllun llysgenhadon Cyngor Sir Ddinbych. Cawsom groeso gan Jamie, a symudodd i’r ardal ddwy flynedd yn ôl i fyw ac i sefydlu The Wild Bushcraft Company, a’i gi del, Brew. Roedd Jamie, sy’n wreiddiol o’r Alban, yn warden ar Loch Lomond cyn dechrau busnes tebyg yn gweithio gyda grwpiau ieuenctid yn Hampshire gyda’i wraig o Gymru, Sheena, saith mlynedd yn ôl.
Rhannwyd ein bore’n dair sgil – cynnau tân, pobi bara yn yr awyr agored a thaflu bwyelli. Roeddwn i’n awyddus i weld sut y byddai’r tair sgil hon yn gysylltiedig. Roedd mwy o waith cynnau tân nag yr oeddwn i wedi’i feddwl. Yn gyntaf, dangosodd i ni sut i gasglu golosged i gynnau tân o risgl bedw arian, sef y taniwr naturiol, mae’n debyg, oherwydd yr olewon naturiol sydd yn y rhisgl. Yna, dangoswyd inni sut i gasglu amryw feintiau o briciau tân (maint matsien, pensel a bys bawd) er mwyn bwydo’r tân unwaith mae wedi’i gynnau. Roedd profiad Jamie o weithio gyda grwpiau’n amlwg o weld ei amynedd gyda’n grŵp ni wrth i ni gael trafferth cynnau’r tân. O’r diwedd, fe gydiodd y fflamau ac roedd pawb yn cymeradwyo wrth i ni osod y sypiau taclus o briciau ar ben y fflamau main yn ofalus. Ni fyddaf i’n cymryd fy matsis yn ganiataol byth eto!
Yna, dangoswyd i bob grŵp sut oedd creu daliwr tuniau er mwyn berwi dŵr i gael paned haeddiannol iawn.
Roedd hi wedyn yn bryd i ni dorchi llewys er mwyn pobi bara. Gan ddefnyddio rysáit syml a brigyn i’w goginio dros dân agored, yn fuan iawn, roedd gennym ni dorth o fara tenau. Profiad braf iawn oedd sgwrsio o amgylch y tân agored, gan grasu ein bara’n ara’ deg ymysg canu’r adar a sŵn trên stêm yn y pellter, gyda phwniad ysgafn gan Brew bob hyn a hyn, a oedd am i mi daflu ei frigyn.
Cyn i ni adael, rhoddodd Jamie (gydag arlliw o Rollo o Vikings) wers sydyn i ni ar daflu bwyelli, a oedd yn rhoi rhyw foddhad rhyfedd, er bod pob un ohonom ni angen ymarfer tipyn mwy cyn y byddai gennym ni siawns o daro llygad y tarw.
Os hoffech chi roi cynnig ar unrhyw un o’r gweithgareddau hyn neu wersylla yn y gwyllt, ewch i’r wefan i weld prisiau ac i archebu.