Yn dilyn diwedd cyfnod cloi, mae rhai o’n safleoedd allweddol wedi bod yn orlawn.
Mae Loggerheads wedi gosod toiledau dros dro ac yn gofyn i bobl ddod â newid i’r maes parcio, ond rydym yn annog pobl i wirio cyn iddynt ymweld. Mae’r rhan fwyaf o feysydd parcio yn llawn erbyn 10am ac mae ffyrdd yn cael eu blocio gan barcio anghyfrifol felly pam na ewch i am â rhywle yr un mor brydferth ond ychydig llai adnabyddus. Cadwch fyny gyda’n newyddion, cyfarwyddyd a gwybodaeth parcio diweddaraf drwy ddilyn tudalennau cyfryngau cymdeithasol yr AHNE.
Dyma rai syniadau o deithiau gyda gwahanol raddau o anhawster, cliciwch ar y dolenni ar gyfer teithiau cerdded y gellir eu lawrlwytho ac argraffu.
Llanferres i Maeshafn (4 milltir o goetir, clogwyni a ffermdir rholio.)
Gronant (3 milltir o dywod, môr a bywyd gwyllt)
Cadair Berwyn (10 milltir o gerdded crib, rhostir a golygfeydd panoramig.) Os ydych yn ceisio cerdded a thirweddau mwy heriol hyn ewch i Adventure Smart am ganllawiau diogelwch.
Liberty Hall (8 milltir o rostir gyda golygfeydd eang, coetir a cherdded glan afon)
Ymelwch yn ddiogel ac yn gyfrifol. Cadwch eich cŵn ar dennyn ac ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Dylech bob amser edrych ar y tywydd a gwisgo dillad ac esgidiau ymarferol. Dyma cynghor gan yr AHNE ynglŷn ag ymweld yn ddiogel yn ystod y pandemig.a gwyliwch y fideo yma am ymweld â’n safleoedd yn gyfrifol.
Cliciwch yma am fwy o syniadau cerdded.
Byddem wrth ein boddau’n clywed am llefydd rydych chi’n hoff o cerdded ac eu cynnwys mewn erthyglau yn y dyfodol, felly cysylltwch â ni isod.