Mae Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru yn ddathliad 40 diwrnod o brofiadau lleol unigryw yn ymwneud â bwyd, sy’n annog pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i archwilio, profi a blasu’r gorau o’r hyn sydd gan Ogledd Ddwyrain Cymru i’w gynnig.

Mae rhaglen Blas Gogledd Ddwyrain Cymru yn tynnu ynghyd ein tirlun bendigedig a’n treftadaeth gyda chynhyrchwyr bwyd a busnesau lletygarwch ein rhanbarth. Drwy gydol yr Hydref, bydd dros 30 o ddigwyddiadau i chi eu profi ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r prif ddigwyddiadau’n cynnwys digwyddiad tei du rafftio gydag arlwyaeth ar yr Afon Dyfrdwy yn Llangollen, te pnawn mewn llyfrgell brif weinidogol ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint ac gwledd ganoloesol yng ngwisgoedd y cyfnod yn amgueddfa Wrecsam. Ac i gyd-fynd â’r prif cyfleoedd hyn, mae yna hefyd deithiau cefn gwlad tywysedig gyda arlwyaeth, teithiau ffermydd gyda bwyd, a chyfleoedd eraill i fwynhau ffrwyth tymor y cynhaeaf.

I gael rhagor o wybodaeth am y gyfres o ddigwyddiadau ewch i http://tastenortheastwales.org/