Fel rhan o’r Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2022 cyntaf, bydd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cynnal wythnos lawn o weithgareddau a digwyddiadau awyr dywyll i ddathlu ein hawyr dywyll warchodedig. Cynhelir yr ŵyl rhwng 19 a 27 Chwefror ledled y wlad.
Mae awyr y nos yn un o bleserau gaeaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae llygredd golau’n yn DU ac Ewrop, ond yma yng Nghymru mae cannoedd o leoedd i brofi harddwch ein awyr tywyll. Erbyn hyn mae gan Gymru rwydwaith o Warchodfeydd Awyr Tywyll Rhyngwladol a Pharciau Awyr Tywyll y mae seryddwyr wedi’u nodi’n lleoedd gorau yn y byd i weld sêr. Mae ein AHNE gyda thelesgopau, siartiau, camerâu ac offer arall, a fydd yn cefnogi digwyddiadau Awyr Tywyll trwy’e blwyddyn.
Mae pwysigrwydd tywyllwch o ansawdd da yn ddeublyg. I ddechrau, mae tua 60% o’n bywyd gwyllt yn dod yn fyw yn y nos ac mae astudiaethau wedi dangos bod golau artiffisial yn y nos yn cael effeithiau negyddol – weithiau’n farwol – ar lawer o greaduriaid (gan gynnwys bodau dynol) sy’n effeithio ar ymddygiadau fel maeth, patrymau cysgu, atgenhedlu a diogelwch rhag ysglyfaethwyr. Hoffem sicrhau bod awyr y nos yn yr AHNE yn cael ei gadw fel y gall ein bywyd gwyllt ffynnu yn eu cynefinoedd naturiol, gan fyw yng nghylchoedd naturiol nos a dydd.
Yn ail, ychydig o leoedd sydd ar ôl lle gall pobl gael gwir ganfyddiad o’r nos a’i awyr syfrdanol yn llawn sêr. Mewn gwirionedd dim ond 2% o bobl sy’n byw yn y DU fydd yn profi awyr wirioneddol dywyll. Rydym yn ffodus ein bod mewn sefyllfa lle gall ymwelwyr fynd yn hawdd i lefydd sydd ag ychydig iawn o lygredd golau o’r ardaloedd poblog o’u cwmpas, sy’n golygu y gall seryddwyr, selogion, beirdd ac ysgolheigion fel ei gilydd fwynhau un o’r sioeau mwyaf ysblennydd ar y Ddaear.
I ddechrau’r wythnos gyffrous hon o ddigwyddiadau nefol, rydym yn annog selogion sêr o bob oed i fynd i’r gerddi cefn neu i Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll AHNE i gael synnu ar awyr y nos!
Ar noson glir, mae nifer o ryfeddodau yn aros amdanoch yn yr awyr. Gallwch weld galaeth 2½ miliwn o flynyddoedd goleuni i ffwrdd gyda’ch llygaid eich hunain, ac wrth ddefnyddio binocwlars, gallwch weld craterau ar y lleuad! Mae nifer o ffyrdd o fod yn rhan, beth am gasglu blancedi y tu allan a chreu man cyfforddus i edrych ar y sêr, gwyliwch yr awyr yn newid fel mae’r haul yn nosi, neu osodwch babell yn eich gardd i chwilio am sêr wib!
Gallwch gofrestru fel gwyliwr sêr AHNE neu gefnogwr busnes a chael canllaw poced am ddim a phecyn gwybodaeth awyr dywyll wedi’u hanfon at eich drws.
Ymunwch ag un o’n sgyrsiau ar-lein.
Ydych chi wedi bod eisiau gwybod mwy am ein hawyr godidog? Ehangwch eich dealltwriaeth o bwysigrwydd awyr dywyll drwy ymuno â ni mewn un o’n sgyrsiau ar-lein gyda’r nos:
Ar ddydd Sadwrn, 19 Chwefror byddwn yn cynnal ‘Ein Hawyr Dywyll’ – ymunwch â Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll Gogledd Cymru, a dysgwch pam bod ein hawyr dywyll yn bwysig a beth rydym yn ei wneud ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i’w gwarchod.
Ar ddydd Sul, 20 Chwefror gallwch fynychu ‘Pryfaid Nosol ac Awyr y Nos’ – ymunwch â Rochelle Meah i ganfod effaith llygredd golau ar ymddygiad, cyfeiriad a gweithgarwch nosol pryfaid cop a gwyfynod.
Dewch i ddigwyddiad rhad ac am ddim
Gall ein hamserlen gyffrous o ddigwyddiadau eich helpu i archwilio’r awyr nos! Mae’n digwyddiadau am ddim, ond mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw. Ewch ar ein tudalen Eventbrite i weld ein amserlen lawn a rhagor o fanylion ar sut i fynychu. Yn ystod yr wythnos gallwch:
- Canfod Moel Famau yn y tywyllwch gyda noson gyffrous yn gwylio’r sêr! Ymunwch â Rob Jones, seryddwr lleol am noson o wylio’r sêr yn y parc gwledig hyfryd hwn. Archwilio cyfrinachau a gwyddoniaeth awyr y nos, dysgu sut i adnabod cytserau a chael eich cyfareddu gan harddwch a dirgelwch ein bydysawd anhygoel.
- Ymgasglwch o amgylch y tân gyda Fiona Collins, storïwr lleol am daith fer a noson o adrodd straeon o dan y sêr.
- Ymweld â’r Planeteriwm yn Neuadd Bentref Cilcain am sesiwn rhyngweithiol i archwilio cyfrinachau a gwyddoniaeth awyr nos. Tra fyddwch yno, ymunwch â phrynhawn cyffrous o grefftau seryddiaeth!
- Helpu gosod trap gwyfynod symudol ym Mhlas Newydd yn Llangollen, i weld pa wyfynod nosol sy’n bresennol yn Nyffryn Dyfrdwy. Yn ystod y nos gallwch roi cynnig ar adeiladu eich blwch ystlumod eich hun, er mwyn helpu i gadw ein bywyd gwyllt nosol! Ymunwch â ni y bore drannoeth i ganfod unrhyw rywogaethau a gafodd eu dal dros nos.
Mae’r ffotograffiaeth sy’n eiddo i Bartneriaeth Gogledd Ddwyrain Cymru a gymerwyd fel rhan o
Prosiect ffotograffiaeth Gaeaf Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru gan Craig Colville.