Yn ôl ymchwil diweddar mae diwydiant twristiaeth Sir Ddinbych yn ffynnu.

Mae ffigyrau wedi eu cyhoeddi fel rhan o raglen STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor), sy’n ceisio mesur effaith ymwelwyr sy’n aros ac ymwelwyr dydd.

Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Sir Ddinbych ac yn 2016 roedd cyfanswm yr effaith economaidd ychydig yn fwy na £479 miliwn, sef cynnydd o 3.2% o’i gymharu â 2015 a 50% o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.

Yn 2016 roedd nifer yr ymweliadau â Sir Ddinbych, dros nos ac am y diwrnod, bron yn 6 miliwn, sef cynnydd o 1.7% o’i gymharu â 2015 a 23% o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.

Meddai’r Cyng. Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Dyma newyddion gwych i Sir Ddinbych ac rydw i’n falch iawn bod ein diwydiant twristiaeth yn tyfu. Roedd ymwelwyr a oedd yn aros dros nos yn cyfrif am 67% o gyfanswm yr effaith economaidd y llynedd; sy’n dangos pwysigrwydd datblygu llety o ansawdd yn yr ardal.

“Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod Sir Ddinbych yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd ar gyfer ymwelwyr dydd, ac yn 2016 cefnogwyd 6,000 o swydd llawn amser gan wariant twristiaid. Mae hyn yn dangos cyfraniad y sector at ein heconomi leol, sef darparu gwasanaethau i’r gymuned a gwaith i’n preswylwyr.

“Mae manteisio ar ymgyrchoedd marchnata Croeso Cymru, gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu ein Cynllun Rheoli Cyrchfan a phoblogrwydd cynyddol gogledd Cymru fel cyrchfan gwyliau oll yn chwarae rhan bwysig i godi ymwybyddiaeth pobl o’r atyniadau, y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael yn ein sir.”

Meddai Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Cyrchfan Sir Ddinbych: “Mae’n braf gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â’r sir, yn ymwelwyr sy’n aros dros nos ac yn ymwelwyr dydd. Byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd arloesol i ddenu mwy o ymwelwyr, gan amlygu ein hatyniadau cudd a’n gweithgareddau cyffrous – pethau y mae llawer o bobl yn chwilio amdanynt wrth archebu gwyliau.

“Rydym ni ar hyn o bryd yn cwblhau Cynllun Rheoli Cyrchfan 2017-20 mewn partneriaeth â busnesau a grwpiau lleol i sicrhau cynaliadwyedd tymor hir ar gyfer datblygiad twristiaeth yn y sir.”

Mae gogledd ddwyrain Cymru hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn 2016, gyda chynnydd o 1.1% yn nifer yr ymweliadau o’i gymharu â 2015 a chynnydd o 3.4% yn y gwariant. Cafwyd 11.40 miliwn o ymweliadau i ogledd ddwyrain Cymru, gyda gwariant cysylltiedig o bron i £850 miliwn.

Mae adroddiadau STEAM yn rhoi cyfrif misol o berfformiad diwydiant twristiaeth ardal, y mae modd wedyn eu defnyddio i nodi tueddiadau a gweithredu arnynt. Mae ymchwil o’r fath yn hanfodol i sicrhau datblygiad a llwyddiant y diwydiant yn y dyfodol.