Deuddeg o fwytai yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn dathlu Blwyddyn y Môr!

I ddathlu ‘Blwyddyn y Môr’ Cymru 2018 – Mae’r tîm Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi rhoi her i fwytai lleol i gynllunio pryd o fwyd a fydd yn dathlu morlinau hyfryd y rhanbarthau, dyfrffyrdd mewndirol epig a chynnyrch lleol gwych. O ddydd Llun nesaf ymlaen, bydd deuddeg bwyty a chaffis yn yr ardal yn gweini […]

I ddathlu ‘Blwyddyn y Môr’ Cymru 2018 – Mae’r tîm Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi rhoi her i fwytai lleol i gynllunio pryd o fwyd a fydd yn dathlu morlinau hyfryd y rhanbarthau, dyfrffyrdd mewndirol epig a chynnyrch lleol gwych.

O ddydd Llun nesaf ymlaen, bydd deuddeg bwyty a chaffis yn yr ardal yn gweini eu dehongliad o bysgodyn a sglodion clasurol (ond gyda sypreis!) neu eu platiau tir a môr – i gyd yn cael eu hysbrydoli o’r thema “Blwyddyn y Môr” ac yn gweithio gyda chynhyrchwyr lleol lle bo’n bosibl.

Mae’r her wedi cael ei gefnogi gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn dilyn llwyddiant heriau bwyd yn y blynyddoedd blaenorol (…cofiwch yn ôl i Her Pastai Gogledd Orllewin Cymru 2017 a Her Byrgyr Wrecsam yn 2015!)

Mae’n rhaid i’r bwytai sy’n cymryd rhan weini eu platiad ar fwrdd arbennig o ddydd Llun nesaf ymlaen tan 11 Chwefror – ac yn ystod y cyfnod hwn, bydd disgwyl iddynt hyrwyddo Blwyddyn y Môr drwy eu platiad, a bydd pob un yn cael ymweliad gan ddau giniawyr cudd a fydd yn rhoi marc i’r platiad ar y cyflwyniad a’r blas, a hefyd am ymwybyddiaeth y staff o Flwyddyn y Môr.

Yn dilyn hyn, bydd y tri busnes sy’n sgorio fwyaf yn mynd yn ben ben mewn cystadleuaeth coginio ar 16 Chwefror – ac wedyn bydd y platiad buddugol yn cael ei ddewis.  Bydd y tîm buddugol yn cael tarian, ynghyd â’r cyfle i weini eu platiad mewn gwyliau bwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac yn cael eu cynnwys yn y wasg genedlaethol mewn perthynas â’r byd bwyd yng Nghymru.

Wrth drafod yr her, dywedodd Rheolwr Cyrchfan Cyngor Sir Ddinbych Peter McDermott, sy’n rhan o’r Tîm Marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru;

“Mae’n wych gweld amrywiaeth eang o gystadleuwyr eto eleni – ac mae’n pwysleisio ymhellach y lefel gwych o greadigrwydd sydd gan ein cogyddion yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ynghyd ag argaeledd cynnyrch lleol gwych!  Rydym yn gobeithio yn ystod y mis nesaf, y bydd pobl ar draws y rhanbarth a rhai sy’n ymweld â’r ardal yn mwynhau mynd i lefydd newydd a thrio’r platiad Blwyddyn y Môr ym mhob lleoliad”.

Busnesau sydd yn cymryd rhan yn yr Her Bwyd Môr, Blwyddyn y Môr 2018 yw;

  1. Gales Llangollen (platiad o’r môr a’r tir fydd bol porc Pen y Lan, tatws stwnsh saffrwm, saws Americanaidd, langwstîn, ac wy sofliar)

 

  1. Old Wives Tales Corwen (‘Porc a Chragen Gymreig’ – Porc wedi’i farinadu, padell wedi serio â garlleg a sinsir. Cymysgedd o bysgod cregyn, wedi chwysu mewn gwin gwyn, ar wely o sglodion cartref, wedi’u ffrio mewn olew had rêp. Wedi’i gyflwyno mewn pot wedi’i taenellu gyda phersli a choriander)

 

  1. Fat Boar yr Wyddgrug (Lwyn ganol porc wedi’i lapio mewn Prosciutto, paprika wedi’i fygu, risoto corgimwch a tsioriso, bresych deiliog gyda menyn, bisque corgimwch)

 

  1. Druid Inn (‘OMC! Oh Mr Cod’ – Penfras Supreme, Tatws Parmentier, Piwrî Pys, Tameidiau cytew a charamel finegr brag.

 

  1. Fat Boar Wrecsam (stecen ribeye Celtic Pride 18owns, crafangau cranc mawr, saws Perl Las. Tatws Gardd Covent troellog brau, tomato wedi’i rostio â halen Môn a chylchoedd nionod mewn cytew Wrexham lager)
  2. Lot 11 (Brechdan Rîff a Bîff agored – Stecen ffolen ar y radell, Madarch wedi’i ffrio, Corgimwch mewn lemon a Mayonnaise Basil ar Surdoes wedi’i dostio)

 

  1. Croes Howell (“pysgodyn a sglodion” crand – wrap ffiled penfras mewn tatws brau. Piwrî pys a mintys, saws Tartar awyrog, darnau cytew prosecco a chrisb lemon)

 

  1. Royal Oak Bangor-Is-y-Coed (surf & slurp – platiad cynnes y gaeaf a fydd yn eich cynhesu tu fewn.Porc wedi’i frwysio a Chregyn Gleision)

 

  1. Lemon Tree Wrecsam (pysgodyn a sglodion gyda sypreis – lwyn penfras wedi’i ffrio mewn paprika, trio o lysiau, sglodion. Amrywiaeth o bys a saws hufennog Tartar a lemon cynnes)
  2. Holt Lodge (Ein henw yw Chip n Fin – bydd y platiad yn cael ei weini mewn papur newydd mewn siâp cwch sydd yn adlewyrchu thema’r môr. Bydd pennawd y papur newydd gan The Leader (yn Wrecsam) ac yn cynnwys storïau syth o’r wasg ar Gymru, ac yn cynnwys penawdau megis “There’s No Plaice Like Holt Lodge.” Yn y cwch bydd hadog, lleden a chregyn gleision.

Bydd y platiad yn cael ei weini â Phys Crand a bydd elfen o Bys Ffrengig iddo, felly cânt eu galw yn Peas de Gallois, sydd yn golygu pys Cymru. Bydd y pys wedi cael eu coginio gyda chennin, stribed o facwn, letys gen a menyn garlleg).

  1. Hafod Restaurant, Coleg Cambria, Wrecsam – (O’r Môr a’r Tir); Dau oen Llysfasi, brandade penfras hallt, llysiau gwyrdd y gwanwyn, vierge saws cocosen gyda jus rhosmari a chyrynsen goch.

 

  1. The Alyn, Rossett – Salmons got Sole. Mae’r platiad yn cynnwys Eog a Lleden mewn cytew, sglodion mawr mewn Gel Lemon a Phiwrî Pys Llinyn Tatws, gyda garnais Lemon golosgedig a blagur pys.

 

LLUN WEDI’I ATODI:

  1. Cogyddion o’r bwytai sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad lansio – Holt Lodge Hotel, dydd Mercher 10 Ionawr 2018.

 

Bydd llun o bob platiad a thîm ar gael o ddydd Iau, 18 Ionawr ymlaen.

NODIADAU I OLYGYDDION;

Cyfleoedd yn bodoli ar gyfer cyfweliadau gydag unrhyw leoliad – cysylltwch â joe.bickerton@wrexham.gov.uk i gael argaeledd a samplau o’r platiau.

Mae’r gystadleuaeth coginio yn agored i’r wasg a bydd cyfweliadau gyda’r cogydd/ trefnydd o 11.00am dydd Gwener, 16 Chwefror 2018. Bydd y beirniadu yn dechrau am 12.30pm tan 2.00pm.

Beth yw blwyddyn y môr?

Yn 2018 rydym yn dathlu morlin hyfryd Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i gael profiadau newydd ar hyn ein glannau, gyda digwyddiadau ac atyniadau arbennig yn cael eu trefnu drwy’r flwyddyn.

Mae’n adeiladu ar lwyddiant

  • Blwyddyn Antur 2016 a oedd yn canolbwyntio ar anturiaethau llawn adrenalin, llenyddol a choginiol.
  • Blwyddyn y Chwedlau 2017 a oedd yn dathlu hanesion o’r gorffennol, presennol a dyfodol Cymru.

Mae Blwyddyn y Môr 2018 yn parhau â’n gwaith o herio canfyddiadau Cymru drwy hyrwyddo

  • ein cynnyrch, digwyddiadau a phrofiadau anhygoel,
  • ein pobl, lleoedd ac arferion

… mae popeth yn gwneud Cymru yn lle nodedig i ymweld.

Beth yw cyllid ymgysylltu twristiaeth rhanbarthol?

Mae grant o £40,000 gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cymru wedi cael ei sicrhau i dynnu sylw at gynnig twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, ac mae rhan ohono yn ariannu’r digwyddiad hwn i gefnogi bwytai lleol.

Mae’r partner arweiniol, Cyngor Sir Ddinbych, ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint, wedi ymuno â phrosiect ‘Llwybrau i’r Môr’ yn ystod ‘Blwyddyn y Môr 2018’ Croeso Cymru, ac maent wedi cael cyllid o Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cymru 2017-2019.