Mae Fforwm a sefydlwyd i gadw busnesau twristiaeth yn gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd eleni.

Bydd Tîm Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn darparu diweddariad ar weithgareddau a gynlluniwyd i hyrwyddo’r rhanbarth. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle gwych i fynychwyr rwydweithio a rhannu eu profiadau o redeg busnes yn y sir.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher, 9 Tachwedd yn Oriel House, Llanelwy. Cofrestru o 10.30am. Mae’r fforwm yn dechrau am 11am.

Dywed Peter McDermott, y Rheolwr Twristiaeth, “byddwn yn trafod y blaenoriaethau ar gyfer Cynllun Rheoli Cyrchfan nesaf Sir Ddinbych ac felly byddem yn annog cymaint o fusnesau twristiaeth â phosibl i fynychu er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn cwmpasu barn y sector dros y 3 blynedd nesaf. Mae’r fforwm hefyd yn ffordd wych o gwrdd pobl o’r un anian a chael gwybod mwy am gymryd rhan wrth hyrwyddo’r ardal i ymwelwyr.”

Bydd Croeso Cymru hefyd yn cynnal gweithdy ymgysylltu rhanbarthol ar 9 Tachwedd yn Oriel House, Llanelwy rhwng 2pm a 4pm ar Flwyddyn Chwedlau 2017 – mae’r digwyddiad hwn yn agored i fusnesau twristiaeth o Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

I archebu lle yn y Fforwm a gweithdy Croeso Cymru, anfonwch e-bost at: twristiaeth@sirddinbych.gov.uk, dros y ffôn: 01824 706223 neu drwy: www.denbighshiretourismforum.eventbrite.co.uk