Mae Sul y Tadau yn agosáu ar 17 Mehefin (Gobeithio nad ydych chi wedi anghofio!). Mae’n anodd iawn i rai ohonom wybod beth i’w gael i’n Tadau ar eu diwrnod arbennig…. nid yw brecwast yn y gwely yn ddigon y dyddiau hyn!
Felly, isod mae ychydig o syniadau i chi i wneud y diwrnod yn un arbennig ar gyfer y mathau gwahanol o Dadau!
Defnyddiwch y safle sylwadau isod er mwyn rhannu eich lleoliad perffaith yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Tadau Hanes
Os yw eich Tad yn ymddiddori mewn hanes, yna Gogledd Ddwyrain Cymru yw’r lleoliad perffaith iddyn nhw. Bydd taith i Blas Newydd yn Llangollen yn ei alluogi i ddysgu am Ferched Llangollen a chael cinio Sul y Tadau yn yr ystafelloedd te (gyda neu heb gacen!).
Byddai taith i Garchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre yn berffaith i gael hanes yr holl gyfnodau gan fod y Carchar yn cynnwys hanes y system garcharu yn ystod y rhyfel a chyn hynny, ac yna tŷ ffrâm pren Nantclwyd y Dre sy’n eich tywys trwy 7 cyfnod y tŷ sydd wedi ei leoli o fewn tref hanesyddol a phrydferth Rhuthun.
Neu bydd mynd ar daith i Wrecsam yn rhoi cipolwg gwir i chi o’r dref yn Amgueddfa Wrecsam. I’r rhai hanesyddol mwy crefyddol ewch ar daith i ffynnon Santes Gwenffrewi ac yfed ychydig o’r ysbryd yno ac efallai mynd i drochi yn nŵr y ffynnon. Byddai egwyl fach olaf, distaw yn Llyfrgell Gladstone yn ffordd berffaith o ymlacio gyda llyfr da, ar ddiwedd diwrnod blinedig, wedi’i leoli o fewn llyfrgell hanesyddol Penarlâg.
Tadau Anturus
Ydy eich Tad yn anturus? Wel, dyma’r lle i chi. Beth am archebu diwrnod o Syrffio Barcud ar hyd arfordir y Rhyl, gan nad oes unrhyw beth gwell na dysgu gweithgaredd dŵr newydd ar draeth canmoliaethus gyda hyfforddwr gwych. Neu am weithgaredd dŵr mwy ymlaciol, ewch am dro i Langollen er mwyn padl-fyrddio ar hyd camlas safle treftadaeth y byd sy’n mynd drwy’r dref. Gyda nifer o ddarparwyr megis ‘Llangollen Outdoors’ neu ‘Stand Up Paddle-boarding’ rydych chi’n sicr o gael lle ac efallai gallwch ddod o hyd i ostyngiadau Sul y Tadau.
Neu ewch i weld Dyffryn Dyfrdwy mewn ffordd wahanol gyda gweithgareddau dŵr gwyn megis rafftio dŵr gwyn ar Afon Dyfrdwy neu gerdded ceunentydd trwy Ogledd Ddwyrain Cymru, i gael diwrnod anturus ar gyfer Tad anturus.
Tadau Bwyd
Efallai mai’r anrheg orau y gallwch roi yw’r anrheg o fwyta yn un o’r niferoedd o fwytai anhygoel yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Am brofiad bwyd arfordirol ewch i Fwyty 1891 newydd sydd wedi ei adeiladu gyda Theatr Pafiliwn newydd ei addasu yn y Rhyl, er mwyn mwynhau golygfa o’r môr wrth fwyta. Neu am Ginio Sul y Tadau gallwch ymweld â ‘Cafe R’ yn nhref marchnad Rhuthun (sy’n cynnal gostyngiad Sul y Tadau).
Er mwyn bwyta mewn steil ewch i Fwyty Seren Michelin Tyddyn Llan yn Llandrillo, sydd wedi’i leoli o fewn harddwch Dyffryn Dyfrdwy ac yn gartref i Owain Glyndŵr, er mwyn cael profiad bwyta sy’n enwog yn genedlaethol. Neu efallai sbwylio’ch Tad trwy brynu Byrgyr Bison o Siop Fferm Ystâd Rhug a phori trwy rhai o’r cynnyrch lleol maent yn gwerthu yn y siop i gofio am eich taith.