Gallai ‘tocyn rhodd profiad’ fod yn anrheg berffaith i rywun arbennig sydd gan bopeth y Nadolig hwn.
Mae gan Sir Ddinbych ystod o chwaraeon antur a gweithgareddau awyr agored i’w cynnig a’r gaeaf hwn gallwch roi anrheg wahanol i rywun neu gael yr holl offer maent ei angen ar gyfer y flwyddyn newydd.
Mae Caroline Dawson, wnaeth sefydlu SUP Paddle Adventures, ysgol SUP Academi Sgiliau Dŵr achrededig a leolir yn Loggerheads, yn cynnig tiwtoriaeth sefyll i fyny ar badlfwrdd, teithiau arfordirol a sesiynau diogelwch.
Mae hi hefyd yn padlo’n gystadleuol ac yn ddiweddar daeth yn ail yn Her Great Glen Cyfres SUP Prydain Fawr yn yr Alban.
Dywedodd Caroline: “Fy angerdd yw antur a hoffwn gynnig mwy na gwers sylfaenol yn unig i gwsmeriaid, rwy’n cynnig siocled poeth neu fwg o gawl wrth y dŵr yn aml. Mae wedi bod yn wych gweld pobl yn dod i sesiynau, yn arbennig yn dilyn y pandemig, mae gweld padlwyr yn chwerthin a chael hwyl unwaith eto yn wych.”
Mae padlfyrddio yn cynnwys cyfranogwyr yn defnyddio padl wrth sefyll neu’n penlinio ar badlfwrdd.
Dywedodd Caroline: “Mae padlfyrddio wedi tyfu’n sylweddol dros y 12 mis diwethaf, mae’n boblogaidd iawn. Mae Sir Ddinbych yn ardal dda iawn ar gyfer chwaraeon antur, maent yn boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr ac mae yna gymaint o fusnesau yn cynnig ystod eang o chwaraeon antur.
“Mae’n bwysig iawn cefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y Nadolig hwn, mae’n helpu i gefnogi’r economi yn Sir Ddinbych ac mae yna gymaint i’w gynnig.”
Ychwanegodd: “Mae hwn yn amser perffaith o’r flwyddyn i gael rhywbeth gwahanol i rywun arbennig sydd gan bopeth. Allwch chi ddim rhoi pris ar atgof gyda rhywun arbennig, profiad newydd neu ddysgu sgil newydd. Mae’n rhywbeth arbennig a hudol. Fel llawer o fusnesau antur rydym yn gwerthu tocynnau rhodd ar ein gwefan ac yn gallu eu haddasu ar gyfer unrhyw un o’n sesiynau.”
Mae Caroline a ProAdventure Llangollen ymysg nifer o fusnesau annibynnol sy’n cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol a gynhelir gan Gyngor Sir Ddinbych i annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.
Agorodd ProAdventure yn 1991 ac mae’n fanwerthwr antur awyr agored arbenigol sy’n gwerthu popeth o bebyll tipi, offer byw yn y gwyllt, dillad ac offer awyr agored ar gyfer coginio a byw’n gyfforddus yn yr awyr agored anhygoel.
Mae Peter Carol yn rhedeg y busnes gyda’i wraig Lesley sy’n arweinydd mynydd hyfforddedig, arweinydd canŵ cymwys a hyfforddwr Cerdded Nordig.
Dywedodd Peter sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn hyfforddiant antur awyr agored a gwyliau: “Mae Chwaraeon Antur yn boblogaidd iawn yn Sir Ddinbych ac rydym yn ei weld yn tyfu. Mae yna hefyd gefn gwlad godidog i bobl fynd i fforio.
“Mae nawr yn amser gwych i baratoi ar gyfer y flwyddyn newydd, neu i’r sawl sy’n brofiadol yn yr awyr agored, gallwch drwsio, golchi neu baratoi offer gyda’r cyflenwadau sydd gennym yn y siop. Mae’r cynnyrch rydym yn eu gwerthu yn dangos ein cariad at gerdded, gwersylla, diwylliant Sgandinafaidd a byw yn yr ardd gefn.
“Rydym hefyd yn gwneud dewisiadau prynu gofalus tra’n cymryd effaith amgylcheddol a wneir gan gynnyrch ac mae hyn yn cynnwys dewisiadau ar yr hyn rydym yn ei werthu ac o ble rydym yn ei brynu, dod o hyd i drydan adnewyddadwy a defnyddio golau LED drwy’r siop.
“Mae gennym gymuned fusnes sy’n cefnogi chwaraeon yma yn Llangollen a byddem yn annog siopwyr i edrych ar eu stryd fawr leol y Nadolig hwn a meddwl y tu allan i’r blwch wrth chwilio am anrhegion.”
Gall siopwyr helpu drwy rannu profiadau a chynnyrch da ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod i bobl eich bod wedi siopa’n lleol y gaeaf hwn ac yn argymell fod pobl eraill hefyd yn #CaruBusnesauLleol.
Gallwch gymryd rhan yma.