Mae The Hand Hotel yn Llangollen wedi bod yn brysur yn ailaddurno ac yn gwneud ychydig o newidiadau anfodol i’w wneud yn ddiogel i’w gwsmeriaid pan fyddant yn ail-agor. Mae 37 ystafell wely wedi cael dodrefn newydd ac maent wedi eu hailaddurno. Mae y Bistro newydd hefo’r byrddau wedi eu gosod 2 fetr ar wahân
Mae ganddynt sgriniau ar gyfer y dderbynfa a’r bar, yn ogystal ag unedau diheintio dwylo ar gyfer gwesteion drwy’r gwesty.
Hefyd byddant yn gosod amseroedd penodol i westeion gael brecwast.
Bydd glanhawyr yn glanhau teclynnau rheoli o bell, goriadau, handlenni drysau a, switshys golau, a’r holl arwynebau yn yr ystafelloedd sydd eisoes yn rhan o’u trefn lanhau ddyddiol. Bydd gan bob gweithiwr offer PPE llawn.
Maent hefyd yn bwriadu codi pabell tu allan i ganiatáu gwesteion i ddefnyddio’r ardal tu allan ym mhob ardal gyda gwresogyddion ac drwy ffôn symudol sy’n caniatáu’r cwsmeriaid i archebu a thalu am fwyd a diod wrth eu byrddau. Maen nhw’n edrych ymlaen at eich cyfarch yn ddiogel cyn bo hir.
Os ydych chi’n fusnes twristiaeth ac os hoffech chi ymddangos yma, cysylltwch â’r ffurflen isod.