Mae gennym ni gymaint i’w gynnig dros hanner tymor. Beth am fynd allan beth bynnag fo’r tywydd i fwynhau rhyw anturiaethau bach?

O gyn lleied â £7, gallwch archebu taith yn ôl mewn amser ar reilffordd stêm Llangollen i Gorwen.

Llogwch feic o harbwr y Rhyl ac ewch draw i lawr y promenâd tuag at Brestatyn ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 5.

Dringwch i ben bryngaer. Mae gweddillion cadwyn o gaerau o Oes yr Haearn yn ymestyn ar hyd Bryniau Clwyd.

v

Beth am ymweld â threfi gwyliau enwog y Rhyl a Phrestatyn, sy’n cynnig hwyl traddodiadol glan y môr ac atyniadau gwych, gan gynnwys parc dŵr SC2 a TAG Active.  ( wedi cau ar hyn o bryd oherwydd difrodd stormydd dros y penwythnos.)

Gwlychu neu faeddu amdani, neu’r ddau! Rhowch gynnig ar syrffio barcud yn y môr, padl-fyrddio ar hyd Camlas Llangollen neu feicio mynydd yn Oneplanet Adventure yn Llandegla.

Traeth Prestatyn Beach