Yma yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, rydym wedi meddwl am bum profiad ymwelwyr unigryw allai ychwanegu ychydig o gyffro i’ch gwyliau hanner tymor wrth i ni fentro’n araf allan o’r cyfnod clo diweddar.
1) Wyddech chi ein bod yn gartref i le sydd wedi’i achredu â Statws Safle Treftadaeth y Byd? Mae hyn yn golygu ei fod yn le o ‘werth cyffredinol eithriadol i ddynoliaeth gyfan’. Fe rown ni funud i chi fyfyrio ar hynny. Y safle dan sylw yw Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte a gafodd y statws anhygoel hwn yn 2009. Mae’r safle 11 milltir o hyd yn ymestyn o Raeadr y Bedol hyfryd o hudolus, ar hyd y gamlas gyda’i hargloddiau a’i thwneli, i gampwaith peirianyddol ysblennydd Thomas Telford, sef Traphont Ddŵr Pontcysyllte ei hun, sydd ond 12 troedfedd o led, ond yn hawlio teitl y draphont ddŵr hiraf yn y DU. Mae hi mor syfrdanol heddiw ac yr oedd yn ôl pan y’i cwblhawyd ym 1805. Beth am ymweld â’r hwyaid yng nghanolfan ymwelwyr Basn Trefor, beicio neu gerdded ar hyd y llwybr halio, mwynhau rhywbeth bach i’w fwyta yn yr ystafell de neu, os ydych chi’n teimlo’n ddigon dewr, cerdded ar hyd y draphont ddŵr 126 troedfedd o uchder i weld y golygfeydd bendigedig dros frigau’r coed – cofiwch fynd â’ch camera gyda chi.
2) Mae ein traeth gwobrwyedig a naws hiraethus ein trefi glan môr yn anodd eu curo i blant bach a mawr. Mae popeth y mae angen i chi ei wybod am ein traethau i’w weld yma.
3) Ewch am dro hyfryd drwy’r gerddi ac ar hyd rhodfa’r afon ym Mhlas Newydd, Llangollen, sef cartref hynod ddiddorol Ladis Llangollen o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Mae’r ystafell de gyfan ar agor, gyda man dan orchudd i chi gael cinio yn yr awyr agored.
4) Agorwyd Rheilffordd Fach y Rhyl gyntaf ym 1911 ac mae ymwelwyr wedi bod yn gwirioni arni ers dros ganrif. Mae’r trên stêm yn cylchu Marine Lake a dydi Pont y Ddraig eiconig yn harbwr y Rhyl ond taith gerdded fer i ffwrdd. Cliciwch yma i weld yr amserlen a’r prisiau.
5) Yn olaf, ond nid leiaf, mae Nantclwyd y Dre, sef tŷ ffrâm goed hynaf Cymru.
Ers adeiladu’r annedd gwreiddiol ym 1435, mae wedi cael ei drawsnewid sawl gwaith gan bum canrif o berchnogion. Mae hyn wedi’i arddangos yn fedrus gyda phob ystafell wedi’i haddurno yn arddull gwahanol gyfnod yn y gorffennol, gan gynnig cipolwg unigryw i’r gwahanol gyfnodau. Yn ei hanfod, gallwch deithio drwy amser o un ystafell i’r nesaf, gan ddychmygu bywydau’r preswylwyr blaenorol.
Nid y tu mewn yw’r unig beth sydd i’ch denu chi i’r atyniad unigryw hwn, fe allwch chi hefyd archwilio Gardd yr Arglwydd, sy’n gartref i ddau o gychod Gwenyn Duon Cymreig, ac sydd wedi’i phlannu â dychymyg a chywirdeb hanesyddol. Maen nhw’n cynnal digwyddiad ‘planhigion â phwrpas’ yn aml, sy’n eich dysgu am goginio a defnyddiau meddygol y planhigion. Ffilmiwyd y rhaglen arddio boblogaidd ‘Garddio a Mwy’ yma’n ddiweddar, a gallwch wylio’r bennod honno yma.
Felly p’un ai yw uchderau heriol yn eich cyffroi, byd natur yn eich ysbrydoli neu deithio drwy amser yn un o’ch uchelgeisiau, Gogledd Ddwyrain Cymru yw’r lle i chi. Cofiwch rannu eich profiadau ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #gogleddddwyraincymru – rydym wrth ein boddau’n clywed am eich anturiaethau.
Ysgrifennwyd y blog hwn fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfannau Cyngor Sir Ddinbych 2021.