photo of waymarker Clwydian range and dee valley AONB

Gyda Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam dan gyfyngiadau clo lleol, sy’n golygu bod rhaid i breswylwyr aros yn eu hardaloedd eu hunain nes clywir yn wahanol, penderfynwyd ei bod yn adeg wych i edrych ar ragor o weithgareddau lleol. Yr wythnos hon fe wnaethon ni holi Paul Hughes; cafodd ei eni a’i fagu yn Sir Ddinbych, ac mae wedi bod yn arwain teithiau cerdded wythnosol ar gyfer yr elusen iechyd meddwl Mind ers 9 mlynedd.

Pryd wnaethoch chi ddechrau’r teithiau cerdded Paul, ac ers faint maent wedi cael eu cynnal?

Bron i 9 mlynedd erbyn hyn.  Fel rhan o Gwrs Arweinydd Grŵp Cerdded, roedd gofyn i mi arwain teithiau cerdded, ac roedd yr unig daith oedd ar gael yng Nghorwen ar y pryd yn cael ei chynnal gan Becky Roberts o’r tîm atgyfeirio ymarfer corff, ac fe adawodd i mi ymuno, daeth yn rhy brysur i barhau, felly fe wnes i gymryd yr awenau, yn fuan iawn wedi hynny roeddwn yn ffodus i gael y cyfle i wirfoddoli gyda Mind Dyffryn Clwyd ac fe wnes i hynny am 6 mlynedd, a nawr rydw i’n cael fy nhalu i wneud!

Sut beth yw wythnos arferol, a sut ydych chi’n cynllunio’r llwybr?

Rydw i’n cynnal 4 taith gerdded yr wythnos ar hyn o bryd, ar fore Mawrth rydym yng Nghorwen ac yn Rhuthun yn y prynhawn. Rydym yng Nghorwen ddyddiau Mercher, ac ar ddyddiau Gwener rydym yn Llangollen!  Rydym yn bwriadu ychwanegu 4 taith gerdded arall yr wythnos, 3 gyda’r tîm atgyfeirio ymarfer corff a thaith yn Ninbych.

Rydym wedi cerdded bob taith ymlaen llaw ac wedi cynnal asesiad risg cyn cychwyn, ac rydw i’n penderfynu ar y diwrnod lle rydym yn mynd o bwy sy’n dod a’r tywydd!

Pa fath o adborth ydych chi’n ei gael gan y mynychwyr?

Mae’r adborth yn gadarnhaol o hyd, ac mae’r cerddwyr i gyd yn bobl ffantastig.  Maent yn sylweddoli’r effaith gadarnhaol mae cerdded yn ei gael, nid yn gorfforol yn unig, ond yn feddyliol ac yn ysbrydol hefyd. Cerdded i mi yw’r ffordd orau o ymarfer eich corff.

Beth allwn ni gyd ddysgu am gerdded ac iechyd meddwl?

Mae gwaith cynyddol o dystiolaeth wyddonol ar fuddion cerdded a’r cyswllt gydag iechyd meddwl cadarnhaol.  I mi, pan rydw i’n cael diwrnod gwael, rydw i’n mynd allan ac mae Natur yn tynnu fy meddwl oddi ar bethau negyddol, rydw i’n gweld blodau, adar, cymylau, golygfeydd godidog ac rydych yn clywed synau natur, a cyn i chi sylwi, mae’r meddyliau negyddol wedi diflannu ac wedi cael eu disodli gan rai cadarnhaol.

Os yw pobl eisiau cymryd rhan, sut maent yn cysylltu?

Ffonio – 07770 124874

E-bost – paulhughes451@sky.com

Swyddfa Mind –  01745 812461

*walker in Denbighshire

Paul yn edmygu’r golygfa.

A oes modd dod â chŵn da?

Wrth gwrs!

 

Un cwestiwn i orffen, pwy ddyfeisiodd lluniau ‘today’s post’?

Ffrind o Amwythig uwchlwythodd lun o ffens a’i roi ar Facebook a’i alw’n ‘post of the day’! Roeddwn yn meddwl ei fod yn ddoniol iawn, a gan ei fod mor boblogaidd rydym wedi cael pyst o bob cwr o’r byd gan fod llawer o’r cerddwyr yn teithio’n eang ac anfon lluniau i mi o byst o le bynnag maent yn y byd.

At the end of the interview Paul  shines with passion for the area and  walking, he  concluded “We truly live in what can best be described as a “walkers paradise”, within an hour you can be climbing mountains in Snowdonia, walking on the fantastic moors and hills of the Berwyn’s, Aran’s, Arenig’s and Clwydian hills, the Fantastic Wales Coastal Path and Offas Dyke path, the trails of the Dee Valley Way, Tegid Way, Clwydian Way, Hiraethog Trail and the stunning North Berwyn Way!<}0{> Ar ddiwedd y cyfweliad, roedd Paul llawn angerdd am yr ardal a cherdded, ac fe orffennodd
“Rydym wir yn byw mewn lle fel gellir ei ddisgrifio orau fel “paradwys cerddwyr”, o fewn awr, fe allwch fod yn cerdded Eryri, cerdded ar rosydd anhygoel a bryniau’r Berwyn, Aran, Arenig a Chlwyd, Llwybr Arfordir Cymru a llwybr Clawdd Offa, llwybrau Dyffryn Dyfrdwy, Tegid, Clwyd a Hiraethog, yn ogystal â Ffordd anhygoel Gogledd Berwyn!<0} Gallwch fod yn cerdded drwy Goetiroedd gwych, megis Coed y Brenin, Coedwig Llandegla a Choed Pen y Pigyn! A llynnoedd arbennig Brenig, Alwen, Tegid ac Efyrnwy i enwi ond rhai, a theithiau cerdded glan yr afon hefyd ar hyd Afon Ddyfrdwy, Alwen, Clywedog a Chlwyd! Rydym yn lwcus o gael byw mewn lle anhygoel a phrydferth.”

Mae Paul hefyd yn Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych ac yn ymddangos yn rhai o’n ffilmiau, os ydych yn angerddol am Sir Ddinbych neu’n wir yn chwilfrydig i ddysgu ychydig mwy am y sir brydferth hon ac y ganddwch ddiddordeb mewn dod yn llysgennad, cliciwch yma.

Mae modd i ni deithio o fewn sir ein cyfyngiadau clo lleol o hyd, felly cymerwch fantais o’r ardaloedd cerdded lleol hynny neu cysylltwch â Paul os hoffech chi daith gerdded dywys, mae llawer i ddewis ohonynt.

photo of walking group in North East Wales