Mae hi wedi bod yn gyfnod pryderus i bob busnes a mwy fyth i’r rheiny sydd yn dibynnu ar dwristiaeth i dalu’r biliau, mae hi wedi bod yn galonogol gweld sut mae busnesau lleol wedi bod yn addasu’r hyn maent yn ei wneud i helpu’r gymuned ac i helpu eu hunain.

Rwy’n byw yn ne Sir Ddinbych ym mhentref gwledig Llandrillo ac mae hi wedi bod yn galonogol gweld sut mae busnesau wedi bod yn addasu.

Mae Julie a Mark yn Dudley Arms wedi addasu i greu gwasanaeth prydau parod ar benwythnosau, felly gallwch gael gafael ar bei stêc a chwrw blasus Julie, hyd yn oed os oes rhaid i chi fynd ag ef gartref i’w fwyta.

Mae Rivercatcher, sydd ag adeiladau gwyliau moethus ar gyrion y pentref yn cynnig archebu hyblyg pan fydd Cymru ar agor ar gyfer ymwelwyr eto.

Ond y stori fwyaf calonogol yw stori Chris a Caroline Richards a gymerodd yr awenau i Fwyty Berwyn ym mis Chwefror.  Ychydig o wythnosau i mewn i’w menter newydd, cawsant fygythiad o lifogydd ar ôl i lannau’r Afon Ceidiog fyrstio ar ôl wythnosau o law trwm, a llai na mis wedyn roedd rhaid iddynt gau oherwydd Covid-19. Mae hi wedi bod yn amser heriol iawn iddynt, fodd bynnag maent wedi bod yn ailaddurno eu bwyty i baratoi ar gyfer ei ailagor ac maent yn cadw’n bositif, bob amser yn gwenu ac yn codi llaw pan fyddwch yn mynd heibio.  Mae Chris wedi peintio safle bws y pentref a oedd eisiau ychydig o sylw, a chafodd ychydig o’r paent ei gyfannu gan breswylwyr lleol, gan eu roi yng nghalon y gymuned.

Dywedodd Caroline ‘Mae’r pentref wedi bod yn groesawus iawn, a’r gymuned wedi helpu yn arbennig pan roeddem mewn perygl o gael llifogydd. Rydym wrth ein bodd â bywyd y pentref a methu aros i ddechrau masnachu eto.’  A ninnau hefyd Caroline.

Caroline and Chris Richards perchnogion newydd y Berwyn Restaurant, Llandrillo.

 

Os oes gennych chi unrhyw straeon ysbrydoledig i’w rhannu gyda ni, cysylltwch â ni yma.