Y diweddaraf am Coronafeirws

Cyfnod atal y coronafeirws.

Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at
Reoliadau Coronafeirws Canllawiau.

Archwilio Sir y Fflint

 

Archwiliwch drefi diddorol fel yr Wyddgrug gyda’i marchnad stryd a’i gŵyl fwyd a diod; Treffynnon cartref Ffynnon Santes Gwenffrewi, un o Saith Rhyfeddod Cymru; Y Fflint a’i chastell canoloesol a’i marchnad; a Chaerwys, yr ystyrir fel un o’r trefi lleiaf sydd â Siarter Frenhinol.

Mae llawer o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol fel yr adeilad rhestredig Graddfa 1, Llyfrgell Deiniol Sant, ym Mhenarlâg. Dyma lyfrgell breswyl orau Prydain, a sefydlwyd gan y gweinidog William Gladstone yn 1889. Ewch i ymweld ag Abaty Dinas Basing ger Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, cymysgedd ddiddorol o felinau a chronfeydd dŵr sy’n dangos y gorffennol diwydiannol.

Yr Wyddgrug

Mae’r Wyddgrug yn cynnig traddodiad, diwylliant, ac awyrgylch fywiog i ymwelwyr. O eglwysi hanesyddol a thrysorau cyn-hanesyddol i siopau cyfoes yn amrywiol o boutiques bach i enwau’r stryd fawr, mae’r Wyddgrug yn lle delfrydol i’r teulu cyfan – profiad siopa gwahanol bob dydd o’r wythnos.

Clwyd Theatr Cymru yw theatr fwyaf cynhyrchiol Cymru. Mae yno hefyd sinema, oriel gelf, ystafell ddatganiad, siop lyfrau a bwyty. Yn ogystal â bar sydd â golygfa sy’n berfformiad ynddo’i hun www.clwyd-theatr-cymru.co.uk.

Tref wych i ymweld â hi.

Y Fflint

Dyma lle cychwynnodd y cyfan. Yn 1277 cychwynnodd prosiect adeiladu mwyaf uchelgeisiol Ewrop y canoloesoedd yma yn Y Fflint. Adeiladwyd Castell Y Fflint gan Edward I, mae wedi ei baentio gan Turner ac wedi ei ddisgrifio gan Shakespeare. Bachwch eich camera er mwyn ei anfarwoli ymhellach.

Mae’r Fflint hefyd ar ganol Llwybr Beicio Cenedlaethol 5.

Treffynnon

Na hidiwch am un o Saith Rhyfeddod Cymru. Mae Ffynnon Santes Gwenffrewi, sy’n rhoi i Dreffynnon ei henw, yn unigryw yn y byd. Mae’r ffynnon hon, sy’n iachusol yn ôl pob sôn, wedi bod yn safle i bererindodau di-dor ers 1,300 o flynyddoedd. Roedd hi’n enwog erbyn y cyfnod y gwnaeth Brenin Harri’r V gerdded yma o’r Amwythig er mwyn diolch am ei fuddugoliaeth yn Agincourt.

Ymweld â Glannau Dyfrdwy

Glannau Dyfrdwy yw’r enw a roddir i gytref o drefi a threfi diwydiannol yn bennaf yn Sir y Fflint a Swydd Gaer ar ffin Cymru-Lloegr ger stribyn camlas yr Afon Dyfrdwy sy’n llifo o Gaer i Aber Afon Dyfrdwy. Mae’r rhain yn cynnwys Cei Connah, Shotton, Queensferry ynghyd â phentrefi a threfi cyfagos.

Talacre

Mae’r traeth yma yn hynod boblogaidd. Mae tonnau dŵr glân Môr Iwerddon yn torri ar filltiroedd o draethau euraidd. Mae Traeth Talacre yn lle gwych i gerdded beth bynnag fo’r tywydd. Edrychwch am geidwad y goleudy. Atgynhyrchiad o ddur gwrthstaen o’r ysbryd sy’n cerdded y safle.

Traeth Talacre. Lle gwych i gerdded beth bynnag fo’r tywydd!

Penarlâg

Sefydlwyd Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg gan y gŵr fu’n Brif Weinidog bedair gwaith, William Ewart Gladstone. Gyda 32,000 o’i lyfrau ei hun. Bellach mae’n Gofeb Genedlaethol i’w fywyd a’i waith. Ac yn goron ar y cyfan, mae’n edrych fel Hogwarts.