Tri Bwyty Gogledd Ddwyrain Cymru i Gystadlu yn Rownd Derfynol Her Bwyd Blwyddyn y Môr!
Dros y pedair wythnos diwethaf, mae deuddeg bwyty a chaffi yn y rhanbarth wedi gweini eu dehongliad nhw o’r pysgodyn a sglodion clasurol (ond gyda thro ynddo!) neu eu seigiau pysgod a chig – y cyfan yn cael eu hysbrydoli o’r thema ‘Blwyddyn y Môr’ a gweithio gyda chynhyrchwyr lleol lle bo’n bosibl.
Ar ôl derbyn yr adroddiadau gan giniawyr dirgel, bydd y Fat Boar Wrecsam, y Royal Oak, Bangor-Is-y-Coed a Gales yn Llangollen yn coginio eu saig ar gyfer panel o feirniaid ddydd Gwener yma ym Mwyty’r Hafod, Coleg Cambria.
Mae 18owns y balchder Cetaidd, y crafancau cranc enfawr a saws Perl Las wedi profi’n boblogaidd iawn gyda chiniawyr tra bod saig ‘surf & slurp y Royal Oak yn cynnwys porc brwysiedig a chregyn gleision yn boblogaidd hefyd. Roedd Gales yn Llangollen hefyd yn agos at y tri uchaf gyda saig surf & turf gwych yn cynnwys porc Pen y Lan, stwnsh saffron, saws Americanaidd, langwstîn ac wy sofliar.
Ar ôl gweini’r bwyd ddydd Gwener – bydd panel o feirniaid a wahoddwyd yn dewis yr enillydd a bydd prif gogydd yn derbyn tlws, ynghyd â’r siawns i weini eu saig mewn gwyliau bwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac ymddangos yn y wasg genedlaethol am olygfa bwyd Cymru.
Mae’r her wedi’i chefnogi gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru yn dilyn llwyddiant heriau bwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
Yn siarad am y cystadleuwyr yn y rownd derfynol, ychwanegodd Rheolwr Cyrchfan Cyngor Wrecsam, Joe Bickerton, rhan o dîm Marchnata Gogledd Ddwyrain Cymru;
“Mae gennym dair saig wych yn cystadlu yn y gystadleuaeth ddydd Gwener. Fodd bynnag, yn y pen draw mae’r tîm yn dymuno cydnabod ymdrechion cyfunol y deuddeg bwyty dros y mis diwethaf i weithio gyda chynhyrchwyr lleol, dathlu Blwyddyn y Môr a chynnig croeso rhagorol i’r ciniawyr – llawer ohonynt wedi ymweld i flasu’r seigiau a gobeithio yn parhau i gefnogi’r busnesau annibynnol hyn.”
The Royal Oak, Bangor on Dee
Gales of Llangollen
The Fat Boar, Wrexham
Mae’r lluniau uchod o’r tri saig terfynol (lluniau gan The Ginger Pixie Photography)