Mae’r ŵyl ar ein gwarthaf unwaith eto ac i rai ohonom gall fod yn gyfnod heriol gyda mwy a mwy o bwysau o’r cyfryngau i gael popeth yn berffaith ar gyfer y diwrnod mawr.
Felly beth am ganolbwyntio llai ar yr hyn sydd angen ei wneud ar gyfer y Nadolig a chanolbwyntio mwy ar naws y Nadolig yn lle!
Nid oes dim o’i le ar dorri corneli yma ac acw neu ofyn i eraill eich helpu fel eich bod yn gallu canolbwyntio ar y pethau sydd o bwys i chi. Felly, os ydi hynny’n golygu cytuno gydag eraill na fydd anrhegion eleni, neu i bawb ddod â dysgl o rywbeth gyda nhw os mai acw fyddwch chi’n dathlu’r ŵyl yna ewch amdani, byddai’r rhan fwyaf o bobl yn croesawu hyn. Mae hi wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn felly ni fydd neb yn cwestiynu dim os bydd Nadolig eleni fymryn yn wahanol hefyd.
Felly er eich bod yn debygol o fod yn meddwl am fwynhad pawb arall yr ydych yn ei garu’r Dolig hwn peidiwch ag anghofio am les eich hunain hefyd.
Dyma rai syniadau lleol er mwyn sicrhau eich bod yn hapus y Nadolig hwn.
Mae GRO Ethical – Hair & Beauty Salon yn siop trin gwallt Fegan ym Mhrestatyn sy’n arbenigo mewn cynnyrch a gwasanaethau sy’n gyfeillgar i anifeiliaid, yn gynaliadwy ac yn eco-gyfeillgar. Mae ganddyn nhw far siampŵ hefyd i chi allu llenwi eich cynwysyddion, dwi’n siŵr eich bod yn cytuno bod hyn yn syniad bendigedig.
Mae Denbigh Leisure yn cynnig dewis eang o ddosbarthiadau mewn lleoliadau hamdden ledled Sir Ddinbych yn gweithio i gynnig profiadau i wella lles preswylwyr ac ymwelwyr Sir Ddinbych. Gwyliwch y ffilm hon i weld sut maen nhw’n croesawu pobl yn ddiogel yn ôl i’w gofodau.
Mae Bathing Beauty yn gyfres fegan o gynhyrchion gofalu am y corff gan cyn-fodel o’r enw George sydd wedi symud i Sir Ddinbych ac wedi creu’r gyfres o ofal therapiwtig i’r corff yn seiliedig ar ei phrofiadau hi, gydag enwau gwahanol fel ‘Jones the Bones Muscle and Joint Oil’ i ‘Morpheus sleep enhancing body scrub’. Mae ganddyn nhw ddewis gwych ar gael ar-lein ar gyfer anrhegion Nadolig meddylgar. {0>
Mae Dani yn gweithio yn Ninbych ac yn cynnig triniaethau i’r traed ar gyfer pobl o bob oedran hefo Community Foot Care . Darperir y gwasanaethau gofal traed yn eu clinig yn Hendre, neu mewn lleoliad cymunedol fel neuadd bentref neu yng nghartref eich hunain.
Visage is a family run salon that was established by Julie in 1992. Since then she opened the first private beauty training academy in Wales which is situated next to Visage.<}0{>Mae Visage yn siop trin gwallt deuluol a sefydlwyd gan Julie yn 1992. Ers hynny mae hi wedi sefydlu’r academi hyfforddiant mewn harddwch preifat cyntaf o’i fath yng Nghymru sydd drws nesaf i Visage.<0} Bydd therapyddion Visage bob tro yn eich gwneud chi deimlo’n gartrefol a thawelu eich meddwl ac yn cyflawni’r triniaethau i safon eithriadol o uchel wrth wneud hynny. Hyfforddiant staff parhaus yw’r gyfrinach tu ôl i lwyddiant Visage o’i gymharu â llawer o salonau eraill lle maen nhw’n gwrando ar adborth a chyngor gan gleientiaid yn rheolaidd. Mae’r salon hefyd wedi cymryd cwsmeriaid anabl i ystyriaeth ac mae digonedd o lefydd parcio preifat a diogel. Mae’r rhan fwyaf o’r staff yn siaradwyr Cymraeg. Maen nhw hefyd yn arbenigo mewn hypnotherapi, myfyrdod a thriniaethau distraenio ac adeiladu hyder.
Os nad ydych wedi ymweld â Visage eto yna rydych yn colli allan ar wledd a hanner.
CJ Aesthetics Ltd also in Prestatyn has over 7 years’ experience in the field of facial aesthetics, Carla Jones, RGN, INP is a highly capable and respected advanced aesthetics practitioner, whose passion for the field is reflected in her work.<}0{>Mae gan CJ Aesthetics Ltd also in Prestatyn dros 7 mlynedd o brofiad yn y maes estheteg wyneb, mae Carla Jones, RGN, INP yn ymarferydd estheteg hynod gymwys ac uchel ei pharch, mae ei brwdfrydedd yn y maes yn cael ei adlewyrchu yn ei gwaith.
Mae Saints Health and Fitnessyng Ngallt Melyd yn ganolfan hyfforddiant a ffitrwydd sydd ar agor bob dydd ac yn cynnig hyfforddiant personol a dosbarthiadau dan arweiniad.