Mae Parlwr Hufen Iâ Red Boat yn fusnes poblogaidd a oedd yn llwyddiannus ers deg mlynedd, ac yn fedrus yn y grefft o wneud hufen iâ gelato cartref ar Ynys Môn. Yn ddiweddar, penderfynon nhw ehangu ac agor eu parlwr ym Mhrestatyn ym mis Mehefin 2019, lle adeiladon nhw sylfaen cwsmeriaid newydd a daethant yn brysurach bob mis. Roedd eu bwydlenni yn cynnig conau hufen iâ a phwdinau retro, cacennau a phrydau sawrus bychain, te gan Brew Tea Co. a choffi gan Poblado.
Unwaith y cafon nhw wybod eu bod angen cau wrth i’r cyfnod clo ddechrau, gwnaethant y penderfyniad o gynnig eu hufen iâ mewn ffurf Bocs Parti i gael ei ddarparu neu ei gasglu’n ddiogel o’u Canolfan yn Llangefni gyda’u fan oergell newydd, Enfys Pride of Anglesey. Wrth iddynt ystyried eu cwsmeriaid ym Mhrestatyn, gwnaethant yn siŵr eu bod yn gallu danfon ar hyd yr A55 i gyd. Roeddent hefyd wedi dechrau gwerthu eu hufen iâ mewn potiau bach 120ml cyfleus ar gyfer busnesau lleol eraill i’w gwerthu. Mae hyn wedi bod yn hynod o boblogaidd a’u Bocsys Parti yw’r ffefryn!
Ers iddynt gael caniatâd i ail-agor, mae eu parlyrau wedi newid cryn dipyn i’r arfer. Yn wreiddiol, bydd eisteddle wedi bod ar gael ac yn galluogi pobl i giwio am hufen iâ. Erbyn hyn, mae eu seddi i gyd wedi mynd, mae systemau un ffordd a chadw pellter cymdeithasol mewn lle, mae hyli diheintio dwylo ar gael wrth y fynedfa, mae cyfyngiad o ddau deulu ar y tro wedi ei roi yn y parlwr, mae nifer y staff wedi ei leihau, mae’r fwydlen wedi cael ei leihau ac wrth gwrs, dim ond bwyd i fynd yw pob dim. Mae hyn yn newid mawr iddynt, gan fod eu parlyrau wedi arfer bod yn llawn pobl, ond mae’n debygol mai dyma yw’r arfer newydd ac maent yn achub ar y cyfle.
Gan fod eu parlyrau yn eithaf clyd, byddant yn parhau i gynnig opsiynau bwyd i fynd yn unig nes ei fod yn ddiogel i adael cwsmeriaid eistedd tu mewn. Mae ymarferion hylendid wedi cynyddu ac maent yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth. Maent yn falch o ddweud eu bod yn parhau i fod mor boblogaidd ag erioed!
Mae croeso i chi gysylltu isod os hoffech gael sylw.