When you see someone putting on his Big Boots, you can be pretty sure that an adventure is going to happen.’ A.A. Milne.
Mae Adventure Smart UK yn wefan sydd wedi’i chynllunio i helpu pobl sydd am fwynhau’r awyr agored yn ddiogel. Mae’n eich annog i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth, i wybod eich terfynau drwy gadw at weithgareddau a lleoliadau o fewn eich parth cysur. I amddiffyn y cymunedau a bod yn barod i ddod o hyd i rai amwynderau a busnesau lleol wedi cau. Mae’n nhw’n eich atgoffa i gadw’ch pellter yn enwedig mewn ardaloedd gorlawn, gan golchi eich dwylo ac osgoi cyffwrdd â gatiau a chamfeydd os yn bosib.
Mae ganddo hefyd 3 cwestiwn byr i weld os ydych yn ddiogel i gychwyn ar eich antur.
- Oes gennych yr offer cywir?
- Ydych chi’n gwybod sut fydd y tywydd drwy’r dydd?
- Ydych chi’n hyderus bod gennych chi’r wybodaeth a’r sgiliau cywir ar gyfer y diwrnod?
Os byddwch yn sgorio 3/3, i ffwrdd â chi, a cael diwrnod gwych!