Ydych chi erioed wedi bod ar wyliau glampio? Mae gogledd-ddwyrain Cymru yn rhan delfrydol o’r byd i wneud hyn a dyma restr fer er mwyn cael gwyliau glampio perffaith yn Nyffryn Dyfrdwy.
Cynhyrchwyd y rhestr hon gan y flogwraig o’r DU, Monica Scott o ‘The Travel Hack’ pan ddaeth i archwilio gogledd-ddwyrain Cymru yn ystod ei thaith.
Aros
Mae tref farchnad Llangollen yn ganolbwynt perffaith i’ch gwyliau glampio. Mae The Forge yng Nghorwen wedi’i leoli yn ddwfn yng nghanol Dyffryn Dyfrdwy ac mae’n darparu profiad glampio ardderchog.
Mae yno dair pabell cloch ac amrywiaeth eang o weithgareddau i’r teulu megis crefft llwyni a sgiliau goroesi a fydd yn mynd â chi yn ôl at natur ac yn gwneud eich ymweliad â gogledd-ddwyrain Cymru ychydig yn fwy unigryw. Gweler y prisiau amrywiol ar eu gwefan.
Pethau i’w gwneud yn Llangollen
Mae Llangollen yn dref farchnad hyfryd yng nghanol Dyffryn Dyfrdwy. Y lle gorau i ddechrau yw crwydro strydoedd a siopau lleol y dref (i brynu’ch anrhegion yn gynnar!) ac archwilio rhai o’r bryniau a mwynhau’r golygfeydd.
Amser cinio (a phwdin!)
Mae bwyty Corn Mill wedi’i leoli ar ymyl afon Dyfrdwy sy’n taranu trwy ganol y dref. Mae’n fwyty cain ond clyd ac mae’r fwydlen wych yn ei wneud yn lle da am ginio a phan fydd yr haul yn gwenu gofalwch eich bod yn cyrraedd yn gynnar er mwyn cael sedd ar y decin i gael mwynhau sŵn yr afon.
I bwdin, beth am hufen iâ yn y Candy Cottage ger y bont? Mae digonedd o hufen iâ a melysion blasus ar gael yma.
Er mwyn llosgi’ch cinio ewch i lawr at lwybr glan yr afon sy’n arwain at barc lle gall y plant redeg o gwmpas wrth i chi eistedd yn ôl a mwynhau sŵn yr afon.
Uchafbwyntiau Llangollen
Peidiwch â methu safleoedd treftadaeth mwyaf poblogaidd yr ardal. Gallwch ddewis o Blas Newydd, Castell y Waun ac Abaty Glyn y Groes sydd i gyd yn agos at Langollen.
Neu os hoffech siwrnai ychydig yn fwy anturus gallech neidio ar y Trên Stêm o Langollen i Gorwen ac yn ôl a mwynhau prydferthwch Dyffryn Dyfrdwy (bydd y plant yn meddwl eu bod ar eu ffordd i Hogwarts!)
Neu bydd cerddwyr y teulu yn mwynhau cerdded y llwybr byr i fyny at Gastell Dinas Bran. Mae yno olygfa ryfeddol o’r dref farchnad a’r tirlun cyfagos a byddwch yn sylweddoli pam yr adeiladwyd y castell ar y bryn oherwydd ei werth strategol ac hefyd oherwydd yr olygfa ryfeddol a oedd i’w gweld trwy’r ffenestri. Cofiwch fynd â chamera os ydych yn mynd i fyny at Gastell Dinas Bran…. byddwch yn difaru os anghofiwch chi!
Mae Llangollen hefyd yn ddechrau i safle treftadaeth y byd sy’n ymestyn am 11 milltir. Mae’n cychwyn o Raeadr Y Bedol ac os ydych yn ddigon dewr gallwch ddilyn llwybr yr holl ffordd o Swydd Amwythig a chroesi tirlun gogledd Cymru heb gamu oddi ar safle treftadaeth y byd. Gallwch groesi’r ‘Afon yn yr Awyr’ yn ogystal â Traphont Ddŵr ryfeddol Pontcysyllte er mwyn sicrhau’r ‘hunlun’ gorau erioed i ddangos i’ch ffrindiau ar ôl mynd adref.