Gan ein bod ni bellach yn gallu teithio a chrwydro ymhellach oddi cartref, yn rhan o’n Cynllun Rheoli Cyrchfan newydd yn Sir Ddinbych, roeddem ni am rannu’r Cod Cefn Gwlad diweddaraf gyda chi i sicrhau eich bod yn mwynhau ymweld yn ddiogel.
Da byw a gofal anifeiliaid
Cofiwch y gall beth rydych chi’n ei wneud effeithio ar fywydau a bywoliaeth pobl eraill. Byddwch yn ystyriol o bobl sy’n gweithio yng nghefn gwlad. Er enghraifft, dilynwch gyfarwyddiadau’r ffermwr pan mae anifeiliaid yn cael eu hel a’u symud. Mae hyn yn helpu i gadw pawb yn ddiogel.
Gadewch giatiau ac eiddo fel yr oeddent neu ddilyn cyfarwyddiadau neu arwyddion. Os ydych mewn grŵp, gofalwch fod y person olaf yn gwybod beth i’w wneud â’r giatiau. Mae ffermwyr yn cau giatiau i gadw anifeiliaid mewn un lle neu’n eu gadael ar agor i anifeiliaid allu nôl bwyd a diod. Peidiwch ag ymyrryd â pheiriannau fferm, ceffylau na da byw. Os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth yn poeni anifail fferm, ceisiwch roi gwybod i’r ffermwr.
Rhowch ddigon o le i anifeiliaid gwyllt, da byw a cheffylau. Gallant ymddwyn mewn ffordd annisgwyl, yn enwedig os oes ganddynt anifeiliaid bach, a gallech gael eich brifo. Peidiwch â bwydo da byw, ceffylau nac anifeiliaid gwyllt. Gall wneud niwed iddynt.
Teithio a pharcio yng nghefn gwlad
Gall traffig ar ffyrdd gwledig fod yn beryglus i bobl a bywyd gwyllt. Arafwch a gyrrwch yn ofalus ar ffyrdd gwledig. Gofalwch nad ydych chi’n rhwystro adwyon na ffyrdd at dai a ffermydd wrth barcio. Sicrhewch fod cerbydau’r gwasanaethau brys yn gallu pasio a pheidiwch â pharcio ar ymylon ffyrdd.
Ystyriwch adael eich car gartref wrth fynd i gefn gwlad. Gallech ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ar wefan Traveline.
Cymerwch bwyll a byddwch ar wyliadwriaeth lle mae llwybr yn croesi rheilffordd. Mae canllawiau am ddefnyddio croesfannau gwastad yn ddiogel ar wefan Network Rail.
Cerddwch i gyfeiriad y traffig a dilynwch Reolau’r Ffordd Fawr wrth gerdded ar ffordd heb balmant.
Byddwch yn glên, dwedwch helo, rhannwch y lle
Wrth dreulio amser yn yr awyr agored, fe allwch chi ddod ar draws pobl ac anifeiliaid eraill. Arafwch neu stopiwch i geffylau, cerddwyr a da byw wrth yrru neu feicio. Rhowch ddigon o le iddynt bob tro.
Rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a rhai ar gefn ceffyl ar lwybrau ceffylau.
Dylai beicwyr a rhai ar gefn ceffyl barchu diogelwch cerddwyr, ond dylai cerddwyr hefyd ofalu nad ydynt yn eu rhwystro neu’n eu peryglu.
Dilynwch arwyddion lleol a chadw at lwybrau wedi’u marcio
Defnyddiwch fapiau ac arwyddion lleol i ddod o hyd i’ch ffordd. Ewch â map nei siart a chwmpawd gyda chi a gofalwch eich bod yn gwybod sut i’w defnyddio. Erbyn hyn, efallai bod mapiau papur yn cael eu cyfrif yn ddiangen, ond maent yn ysgafn a dydi’r batri ddim yn darfod! Am ganllawiau syml i ddarllen map a defnyddio cwmpawd, cymerwch gip ar y canllaw i ddechreuwyr ar http://getoutside.ordnancesurvey.co.uk.
Cadwch at lwybrau wedi’u marcio, hyd yn oed os ydynt yn fwdlyd, oni bai fod mynediad ehangach ar gael, fel ar dir mynediad agored. Mae hyn yn helpu i warchod cnydau a bywyd gwyllt.
Dysgwch yr arwyddion a’r symbolau sy’n cael eu defnyddio yng nghefn gwlad. Maen nhw’n eich helpu i ddod o hyd i lwybrau i wahanol ddefnyddwyr trwy gefn gwlad. Yn yr AHNE, rydym wedi gweld mwy o feicwyr yn defnyddio llwybrau cerdded dros y cyfnod clo. Mae llwybrau cyhoeddus sydd â saeth felen yn dangos eu bod ar agor i gerddwyr a rhai sy’n defnyddio cyfarpar symudedd, ac mae llwybrau ceffylau sydd â saeth las ar agor i feicwyr a rhai ar gefn ceffyl yn ogystal â cherddwyr a phobl â chyfarpar symudedd.
Defnyddiwch giatiau, camfeydd neu fylchau yn nherfynau caeau lle gallwch chi. Gall dringo dros waliau neu ffensys terfyn greu difrod a pheryglu da byw.
Cysylltwch â’r awdurdod lleol os ydych chi’n meddwl bod arwydd yn anghyfreithlon neu’n gamarweiniol. Er enghraifft, arwydd ‘preifat – dim mynediad’ ar lwybr cyhoeddus.
Gwarchod yr amgylchedd
Mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i warchod cefn gwlad a mannau agored ar gyfer cenedlaethau heddiw a rhai’r dyfodol. Gofalwch am natur – peidiwch ag achosi difrod na’i amharu. Gadewch gerrig, planhigion a choed fel y maen nhw a gofalwch nad ydych chi’n amharu ar fywyd gwyllt, gan gynnwys adar sy’n nythu ar lawr. Peidiwch ag amharu ar adfeilion na safleoedd hanesyddol – mae ein treftadaeth yn natur a’r amgylchedd adeiledig yn bwysig.
Ewch â’ch sbwriel adref – peidiwch â gadael eich ôl
Cofiwch ddod â bag gyda chi i fynd â’ch sbwriel a’ch gwastraff bwyd adref, defnyddiwch finiau cyhoeddus neu ailgylchu lle bo modd. Mae sbwriel yn sbwylio harddwch cefn gwlad a gall fod yn beryglus i fywyd gwyllt a da byw. Mae gollwng sbwriel a thipio gwastraff yn droseddau.
Cymerwch ofal gyda barbeciws a pheidiwch â chynnau tân
Byddwch yn ofalus gyda fflamau agored a sigaréts. Dim ond mewn ardaloedd lle mae arwyddion yn dweud bod caniatâd i farbeciws y dylech chi ddefnyddio rhai. Diffoddwch eich barbeciw bob tro a gofalwch fod y lludw’n oer a’ch bod yn cael gwared â’r cwbl yn gyfrifol. Gall tanau fod mor ddinistriol i fywyd gwyllt a chynefinoedd ag y maen nhw i bobl ac eiddo.
Mae tanau dan reolaeth yn cael eu defnyddio gan dirfeddianwyr i reoli llystyfiant, yn enwedig ar rostir rhwng 1 Hydref a 15 Ebrill. Ffoniwch 999 os ydych chi’n gweld tân heb neb yno i’w reoli.
Cadwch gŵn dan reolaeth ac yn eich golwg bob amser
Mae cefn gwlad, parciau a’r arfordir yn llefydd gwych i’ch ci gael gwneud ymarfer corff ond mae angen ystyried defnyddwyr eraill a bywyd gwyllt.
Cadwch eich ci dan reolaeth yn effeithiol a gofalu ei fod yn cadw draw oddi wrth fywyd gwyllt, da byw, ceffylau a phobl eraill oni bai fod gwahoddiad iddo fynd atynt. Dylech:
- bob amser gadw eich ci ar dennyn neu dan reolaeth ac mewn golwg
- bod yn hyderus y bydd eich ci’n dychwelyd atoch wrth alw arno
- gofalu nad yw eich ci’n crwydro oddi ar y llwybr neu o ardal lle mae gennych hawl i fynediad
Edrychwch ar yr arwyddion lleol bob amser gan fod rhai sefyllfaoedd pan mae’n rhaid cadw eich ci ar dennyn drwy’r flwyddyn neu am gyfnod. Gall rhai ardaloedd hefyd wahardd cŵn yn gyfan gwbl, heblaw am gŵn cymorth. Bydd arwyddion yn dweud wrthoch chi am unrhyw gyfyngiadau lleol.
Ble bynnag y byddwch chi, mae’n arfer da cadw eich ci ar dennyn o amgylch da byw a chofio, er nad ydych chi efallai yn gallu gweld da byw neu fywyd gwyllt fel adar sy’n nythu ar lawr, fod posib’ iddynt fod yno’r un fath.
Ar dir mynediad agored ac ar yr arfordir, mae’n rhaid i chi gadw eich ci ar dennyn o amgylch da byw. Rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, mae’n rhaid cadw eich ci ar dennyn ar dir mynediad agored, hyd yn oed os nad oes da byw ar y tir. Mae’r gyfraith yn dweud hynny.
Gall ffermwr saethu ci sy’n mynd ar ôl neu’n ymosod ar dda byw. Efallai na fydd rhaid iddynt dalu iawndal i berchennog y ci.
Tynnwch eich ci oddi ar y tennyn os ydych chi’n teimlo dan fygythiad gan dda byw neu geffylau. Peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl i amddiffyn eich ci. Bydd gollwng eich ci’n ei gwneud yn haws i’r ddau ohonoch gyrraedd rhywle diogel.
Baw ci – mewn bag ac mewn bin – mae unrhyw fin gwastraff cyhoeddus yn iawn
Glanhewch faw eich ci bob tro gan ei fod yn gallu achosi i bobl, da byw a bywyd gwyllt fynd yn sâl.
Peidiwch byth â gadael bagiau o faw ci o amgylch y lle, hyd yn oed os ydych yn bwriadu eu codi wedyn. Mae bagiau diarogl a chynwysyddion yn gallu gwneud bagiau o faw ci’n haws eu cario. Os na allwch chi ddod o hyd i fin gwastraff cyhoeddus, ewch ag o adref gyda chi i’ch bin eich hun.
Mwynhewch yr awyr agored
- gwiriwch eich llwybr ac amodau lleol
- cynlluniwch eich antur – byddwch yn ymwybodol o beth i’w ddisgwyl a beth y gallwch ei wneud
- mwynhewch fod allan yn creu atgofion
Mae’r awyr agored yn lle gwych ar gyfer eich lles. Mae’n lle i ymlacio, cael heddwch a gwneud pethau. Beth bynnag rydych chi’n hoffi ei wneud yn yr awyr agored, mi gewch fwy o fwyniant drwy baratoi.
Gwiriwch eich llwybr ac amodau lleol
Gofalwch eich bod yn gwybod eich ffordd a bod gennych y mapiau angenrheidiol. Defnyddiwch fapiau, teithlyfrau neu wefannau cyfredol cyn i chi gychwyn.
Gallwch gael cyngor am weithgareddau arbenigol gan grwpiau hamdden awyr agored. Mae gwefannau fel GetOutside, Visit England neu Visit Britain yn gallu darparu rhestr o’r grwpiau hynny. Gall canolfannau gwybodaeth hefyd roi syniadau a chyngor lleol i chi.
Edrychwch ar amodau’r tywydd, y llanw a dŵr
Edrychwch ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn. Gall amodau newid yn sydyn ar y mynyddoedd ac ar hyd yr arfordir. Peidiwch â bod ofn troi’n ôl os yw’r amodau’n newid pan fyddwch chi allan.
Edrychwch ar amseroedd y llanw cyn gadael i leihau’r risg o gael eich ynysu ganddo. Mae rhai afonydd yn cael eu heffeithio gan y llanw, nid y môr yn unig. Cymerwch ofal ar gerrig llithrig a gwymon.
Edrychwch ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld ansawdd dŵr ac amodau os ydych chi eisiau padlo, nofio neu fwynhau’r dŵr.
Cynlluniwch eich antur – byddwch yn ymwybodol o beth i’w ddisgwyl a beth y gallwch ei wneud
Rhowch wybod i rywun i ble rydych yn mynd a phryd rydych yn disgwyl bod yn ôl. Mewn ardaloedd gwledig, efallai na welwch chi neb am oriau ac mae signal ffôn yn annibynadwy mewn sawl lle.
Chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hun a phobl eraill sy’n eich gofal. Gofalwch fod gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer eich gweithgaredd.
Paratowch am beryglon naturiol, gan gynnwys newid i’r tywydd, i gadw’n ddiogel. Gofalwch eich bod yn mynd â’r dillad a’r cyfarpar cywir ar gyfer eich gweithgareddau.
Byddwch yn hyblyg rhag ofn bod angen i chi newid cynlluniau os yw rhywle’n brysur.
Hawliau a chaniatâd
Mae’r cod hwn yn nodi’r wybodaeth am hawliau gwahanol ddefnyddwyr. Efallai y bydd angen caniatâd perchennog y tir ar gyfer rhai gweithgareddau, gan gynnwys:
- gwersylla
- nofio mewn dŵr croyw
- pysgota mewn dŵr croyw
Mwynhewch fod allan yn creu atgofion.
Mewn cydweithrediad â Chod Cefn Gwlad, fe lansiodd Croeso Cymru ymgyrch ‘addo’ yn gynharach eleni er mwyn i ymwelwyr ddychwelyd yn ddiogel a chyfrifol i Gymru. Rydym yn gofyn i’n trigolion a’n hymwelwyr wneud addewid i Gymru fel ei fod yn lle diogel i bawb ymweld ag o fel mae’r cyfyngiadau’n caniatáu. Cliciwch yma i gael gwybod mwy am wneud addewid i Gymru.
Mae Adventure Smart UK yn wefan sy’n helpu pobl sydd eisiau mwynhau’r awyr agored yn ddiogel. Os ydych chi am wybod mwy, darllenwch ein blog blaenorol.
Ysgrifennwyd y blog hwn fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfannau Cyngor Sir Ddinbych 2021.