Ein Dyfrffyrdd Gwych

  Mae’n Flwyddyn y Môr yng Nghymru ar hyn o bryd felly dyma amser perffaith i archwilio ein dyfrffyrdd….a gallwch wneud hynny mewn mwy o ffyrdd nag y byddech wedi meddwl. Gan fod ein Safle Treftadaeth Y Byd yn brif atyniad i’n dyfrffyrdd, mae’n hawdd anghofio am weithgareddau eraill y gallwch roi cynnig arnynt ar […]

 

Mae’n Flwyddyn y Môr yng Nghymru ar hyn o bryd felly dyma amser perffaith i archwilio ein dyfrffyrdd….a gallwch wneud hynny mewn mwy o ffyrdd nag y byddech wedi meddwl.

Gan fod ein Safle Treftadaeth Y Byd yn brif atyniad i’n dyfrffyrdd, mae’n hawdd anghofio am weithgareddau eraill y gallwch roi cynnig arnynt ar y dŵr.


Mynd mewn cwch camlas a dynnir gan geffyl ar hyd y gamlas

 

Beth am gerdded neu feicio ar hyd llwybr y gamlas?

Os ydy hynny’n swnio fel gormod o waith caled pan ydych ar eich gwyliau…
beth am deithio ar gwch camlas a dynnir gan geffyl ar hyd Safle Treftadaeth y Byd? Mae’n ffordd berffaith o deithio ar hyd y gamlas sydd dafliad carreg o dref brydferth Llangollen yn Nyffryn Dyfrdwy, mae’n weithgaredd addas i bobl o bob oed a bydd yn siŵr o’ch ymlacio yn llwyr.

 

Archebwch eich lle

Llanogllen Canal
Llangollen Wharf – Horsedrawn Boats

Rafft dŵr gwyn i lawr yr Afon Dyfrdwy

 

Os hoffech weld a phrofi pŵer yr Afon Dyfrdwy mewn ffordd fwy anturus, gallwch fynd i lawr yr afon hyfryd hon mewn caiac neu ar fwrdd padlo. Wrth i chwaraeon dŵr ddod yn fwyfwy poblogaidd fel atyniad gallwch weld pam bod hwn yn weithgaredd perffaith ar gyfer diwrnod gwlyb (gan y byddwch yn gwlychu beth bynnag!)

Mae llawer o ddarparwyr chwaraeon dŵr yn ardal Llangollen felly rydych yn siŵr o ddod o hyd i’r gweithgaredd anturus perffaith a fydd yn rhoi cic i’ch adrenalin ar eich gwyliau nesaf.

 

Stand Up Paddle Board UK

Llangollen Outdoors

 

Byddwch yn ddewr a cherddwch dros y ‘Nant yn y Nen’

 

Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte wedi’i dynodi yn Safle Treftadaeth Y Byd UNESCO ac mae ar agor i unrhyw un sy’n ddigon dewr i gaiacio, beicio, cerdded neu fynd mewn cwch camlas drosti.

A hithau’n 307m o hyd a 38m o uchder nid oes unrhyw syndod bod rhywun yn teimlo braidd yn ofnus wrth groesi’r safle treftadaeth y byd rhyfeddol hwn, ond cewch eich gwobrwyo â golygfa drawiadol o Ddyffryn Dyfrdwy a chroesi’r Afon Dyfrdwy nerthol.

 

Darganfyddwch mwy

 

Gwyliwch arddangosiad tân gwyllt rhyfeddol ‘O dan y Bwâu’

 

“Y DIGWYDDIAD GORAU YNG NGOGLEDD CYMRU!” – Gwobrau Twristiaeth Croeso Cymru 2018!

Mewn noson o gerddoriaeth a golau mewn awyrgylch teuluol, mae ‘O dan y Bwâu’ yn dathlu Safle Treftadaeth Y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a’r Gamlas 11 milltir a adeiladwyd gan Thomas Telford!

Bydd cae chwarae’r Bont, sydd ar waelod pileri’r draphont ddŵr sy’n sefyll 126 troedfedd uwchben, yn cael ei drawsnewid ar gyfer noson o bicnic yn y parc ar nos Wener 20 Gorffennaf!

Nestled under the towering 126ft pillars is the Bont playing field which will be transformed into a picnic in the park style evening on Friday 20th July!

Gwelwch y digwyddiad unigryw yma

 

Undernaeth the Arches - Wrexham
Underneath the Arches Firework Display 2017

Ewch i weld y rhaeadr ym Melin y Nant

 

Coetir yn Wrecsam yw lleoliad Melin y Nant ac mae’n barc hyfryd i bobl o bob oed fynd am dro yn ogystal â chŵn (ond cofiwch ddod â thennyn). Mae digon o feinciau ar gael i orffwys ar hyd y llwybr gwastad felly gall y teulu cyfan fwynhau’r amgylchedd trawiadol.

Mae’r Ganolfan Ymwelwyr wedi’i lleoli mewn coetir hynafol prydferth ar lan yr afon Clywedog hyfryd. Ym Melin y Nant mae Llwybr Dyffryn Clywedog sy’n troelli am 6.5 milltir trwy gefn gwlad godidog Pyllau Plwm y Mwynglawdd, trwy Goed Nant a Choed Plas Power, lle gellir gweld Clawdd Offa, heibio i Weithfeydd Haearn a Chanolfan Dreftadaeth y Bers, ystad drawiadol Erddig ac ymlaen i Felin y Brenin yn Wrecsam.

Gyda’i raeadr trawiadol, dyma’r lle perffaith i ddianc oddi wrth straen bywyd a dychwelyd i natur.

Visit Nant Mill

 

Darganfod Parc Gwepra

 

Mae Parc Gwepra yn goetir hynafol llawn bywyd gwyllt a hanes. Credir bod y gair Gwepra yn tarddu o ‘Gwy’ – dŵr a ‘bre’ – bryn, neu Gwybre fel y byddai wedi cael ei alw. Mae’r enw Gwepra wedi newid sawl gwaith dros yr 800 mlynedd diwethaf. Rhai amrywiadau yw:- Gwybre, Weppra, Gwepre, Wepper, Wepra, Gweppra a Weppir.

Crëwyd yr argae a’r rhaeadr gan breswylwyr Fictoraidd yr Hen Blas. Yn wreiddiol roedd dŵr yn cael ei anfon o’r fan hon i dyrbin a oedd yn cynhyrchu trydan i’r Plas. Maen nhw bellach yn ychwanegu at harddwch ac awyrgylch yr ardal ac yn sŵn cefndirol dymunol wrth fynd am dro hamddenol ar y penwythnos.

Nid oes cyfuniad mor gyfoethog o nodweddion mewn unrhyw barc arall yn y rhanbarth. Yn y parc mae’r maes chwarae am ddim gorau yn y rhanbarth i blant, dau gae pêl-droed, erwau o deithiau cerdded prydferth mewn coedwigoedd, pwll pysgota wedi ei reoli’n dda a Chanolfan Ymwelwyr fodern gyda staff i’ch helpu i fwynhau eich ymweliad.

Darganfod Parc Gwepra