Mae adran olaf y pedwar blog a ysgrifennwyd am Lwybr Clawdd Offa yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn ymestyn o Ruallt yr holl ffordd i dref arfordirol Prestatyn. Mae’r llwybr i’r môr yn cynnwys Llechweddau Prestatyn, traeth baner las Prestatyn, traeth hardd Talacre a’r ŵyl gerdded flynyddol boblogaidd a gynhelir ym Mhrestatyn.

Dilynwch olion traed Potty Adventures drwy orffen eich taith ar hyd Llwybr Clawdd Offa ar lan y môr!

Gweld y blog llawn

Dyma’r rhan olaf o’r gyfres pedair rhan ar Lwybr Clawdd Offa gan Potty Adventures, sy’n rhychwantu tirwedd Gogledd Ddwyrain Cymru. O Langollen i Landegla, Llandegla i Bodfari a Bodfari i Rhuallt.

Nid oes llawer o bobl yn gwybod am y pentref bychan o’r enw Rhuallt, ac mae’n bosibl eich bod chi’n meddwl eich bod wedi cwblhau’r elltydd serth i gyd cyn i chi ddechrau’r adran hon, a bod gweddill y daith ar i lawr tua’r môr…. peidiwch â chodi eich gobeithion!! Mae’r adran hon o Lwybr Clawdd Offa yn siŵr o’ch herio, ond bydd yn hwb enfawr i’ch camau dyddiol ac yn cynnig golygfeydd godidog o Gymru ar ei gorau.

Peidiwch â chael eich camarwain i feddwl y byddwch yn teimlo’n unig ar y llwybr hwn. Mae defaid Cymreig yn enwog ar draws y byd, ac mae ‘na rywbeth llesol am wylio defaid, dydych chi byth yn gallu bod yn siŵr beth sy’n mynd drwy eu meddyliau, a gallwch gael llawer o hwyl yn dyfalu.

Os ydych chi’n ystyried mynd â’ch chi ar unrhyw ran o Lwybr Clawdd Offa, sicrhewch nad ydynt yn cynhyrfu a’ch bod yn eu cadw ar dennyn drwy’r amser. 

Ar ôl i chi fynd heibio’r defaid, bydd y llwybr yn eich arwain drwy ardaloedd tawelach, bydd y dirwedd yn agor allan ac yn cynnig digon o le i blant redeg o gwmpas a mwynhau’r cefn gwlad. Dyma ardal wych i gael picnic, mae’r glaswellt hyfryd yn cynnig lleoliad perffaith i gael seibiant a thamaid i fwyta.

Ar ôl cerdded trwy’r goedwig, byddwch yn dechrau cerdded ar i fyny tua Llechweddau Prestatyn. Os lwyddoch chi i oresgyn yr elltydd serth ym Mryniau Clwyd, ni chewch unrhyw drafferth gyda Llechweddau Prestatyn, sy’n 235 medr / 771 troedfedd o uchder. Ar ôl i chi gyrraedd y pwynt uchaf, bydd eich meddwl a’ch coesau’n falch iawn o weld y diwedd yn agosáu. Yn ogystal â hynny, yn dilyn rhannau heriol iawn o’r llwybr, byddwch yn falch iawn o glywed fod gweddill y daith, o’r diwedd, ar i lawr. Byddwch yn cerdded drwy ganol tref Prestatyn ar gyfer rhan olaf y daith, gan ddilyn y mes a’r polion lampau sy’n eich arwain i’r traeth. Byddwch yn sicr yn haeddu diod neu ddau i ddathlu ar ôl cyrraedd y pwynt hwn.

Mae digonedd o dywod hyfryd ar y Traeth Baner Las hwn, felly gwnewch y mwyaf ohono drwy dreulio gweddill eich diwrnod yn ymlacio ar y traeth i nodi diwedd eich taith gofiadwy. Mae’r traeth hwn yn un o’r 47 o draethau baner las yng Nghymru, sy’n golygu fod gan Gymru fwy o draethau baner las nag unrhyw ran arall yn y DU. Felly, pan fyddwch yn ceisio meddwl am eich gwyliau neu daith gerdded nesaf, cofiwch mai Cymru yw’r ateb!

Sôn am hynny, os oes arnoch chi eisiau treulio rhagor o amser yn yr ardal, mae nifer o draethau ffantastig eraill yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Ein ffefryn ni yw traeth Talacre. Mae’n sicr yn werth ymweld â thraeth Talacre er mwyn gweld y goleudy cofiadwy, y twyni a ddiogelir a’r cyfoeth o dywod hyfryd. Cyngor bach i chi, os ydych chi am weld y traeth ar ei orau, ewch yno yn gynnar yn y bore cyn i neb arall gyrraedd. Yn y gorffennol, rydym wedi mynd â’n cysgodlen a’r stôf gampio hefo ni ac wedi mwynhau brecwast cynnar ar y traeth gan wylio’r haul yn gwawrio. Roeddem wedi bwyta, ymlacio ac ymadael cyn i neb arall gyrraedd.