Llwybr Clawdd Offa: Llangollen i Llandegla gan Potty Adventures

Rydym i gyd yn gwybod bod Gogledd Cymru yn wlad yr anturwyr. Ac yng Ngogledd Ddwyrain Cymru mae gennym ddarn hir o Lwybr Clawdd Offa. Dilynwch deithiau Potty Adventures ar eu 4 taith gerdded, gan ddechrau gyda Llangollen i Landegla. Llangollen i Landegla   Gan ddechrau eich taith yn nhref brydferth Llangollen yn Nyffryn Dyfrdwy, […]

Rydym i gyd yn gwybod bod Gogledd Cymru yn wlad yr anturwyr. Ac yng Ngogledd Ddwyrain Cymru mae gennym ddarn hir o Lwybr Clawdd Offa.

Dilynwch deithiau Potty Adventures ar eu 4 taith gerdded, gan ddechrau gyda Llangollen i Landegla.

Gwelwch blogiau llawn Potty Adventures

Gwelwch Llwybr Clawdd Offa

840

Llangollen i Landegla

 

Gan ddechrau eich taith yn nhref brydferth Llangollen yn Nyffryn Dyfrdwy, bydd y daith gyntaf yn golygu troedio 13 milltir er mwyn cyrraedd y llinell derfyn yn Llandegla.

Efallai eich bod chi’n meddwl bod 13 milltir yn hir, ond dyma’r dirwedd hawddaf i fynd i’r afael ag ef ar y daith gyfan. Felly, gallwch ymlacio a phwyllo ar y daith hon, gan y byddwch yn sicr o stopio ar hyd y daith er mwyn tynnu lluniau’r olygfa. Yr olygfa gyntaf byddwch eisiau ei dynnu yw’r gamlas boblogaidd sy’n mynd drwy’r dref, a byddwch yn mynd heibio nifer o siopau lleol (perffaith i gael anrheg neu hufen iâ, wnawn i ddim dweud wrth unrhyw un!)

Wrth gerdded ychydig ar hyd y gamlas byddwch yn dod ar draws Dyfrbont Pontcysyllte sydd yn atyniad sydd raid ei weld yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r afon yn yr awyr yn bont er mwyn i’r gamlas groesi Dyffryn Dyfrdwy ac yn Safle Treftadaeth Y Byd. Dyma’r ail olygfa i’w dynnu ar eich taith.

Eich stop nesaf fydd y ‘Castell ar y Bryn’. Mae Castell Dinas Brân yn safle a chastell poblogaidd iawn yng Nghymru, yn nodedig oherwydd ei leoliad. Mae wedi’i leoli ar fryn yng nghanol Dyffryn Dyfrdwy ac yn rhoi golygfa 360 o’r dirwedd fythgofiadwy. Gall y ddringfa i fyny fod yn dipyn o her (pam gwneud pethau rhy hawdd?!) ond mae’r wobr yn werth bob cam wrth i chi ddiweddaru eich cyfrif Instagram gyda llun ohonoch chi fel Brenin neu Frenhines y Castell.

Eich lleoliad nesaf yw World’s End. Wrth gymryd eich amser i ddod lawr Castell Dinas Brân byddwch yn dechrau gweld newid yn y dirwedd wrth i chi ddod mewn i rostir grug World’s End. Gan ddilyn y llwybr byddwch yn cyrraedd coedwig hudol Llandegla, lle cewch dynnu llun eich golygfa olaf ar y daith, hun-lun gyda’r coed talog.

Unwaith i chi gyrraedd pentref Llandegla rydych chi wedi gorffen eich taith gyntaf. Amser i ymlacio a magu nerth yn un o’r tafarndai lleol a pharatoi ar gyfer yr antur nesaf.

 

Read more on this Journey