Pwy sydd ddim yn mwynhau Sgod a Sglods?! Fe fydd mis Ionawr yn adeg gwych i fynd i’ch bwyty lleol a mwynhau’r pryd clasurol yma gyda ‘sypreis’ a fydd yn cael ei weini gan gogyddion gwych ein rhanbarth.
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, fe fydd partneriaeth twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, sydd yn cynnwys Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, yn cynnal eu her bwyd flynyddol, ac eleni maent yn cefnogi thema farchnata Blwyddyn y Môr 2018 gan Croeso Cymru.
Nod yr her ydi codi ymwybyddiaeth am y bwyd gwych sydd ar gael yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr yn ystod cyfnod sydd fel rheol yn dawelach yn y calendr bwyd. Caiff bwytai sydd yn cymryd rhan eu hannog i gyflwyno naill ai ‘’Sgod a Sglods’ gyda Sypreis’, neu bryd Tir a Môr (bydd y cig yn dod o fferm leol).
Fe fydd yr Her Bwyd Môr yn cael ei gynnal rhwng 15 Ionawr a 11 Chwefror 2018, a bydd y prydau’n cael eu hysbysebu ar fyrddau prydau arbennig y bwytai a fydd yn cymryd rhan. Fe fydd prydau o’r 3 sir yn cael eu beirniadu gan banel o feirniaid cudd, a bydd y 3 pryd sydd yn cael eu sgôr uchaf yn cael eu gwahodd i gystadleuaeth goginio arbennig ddiwedd mis Chwefror.
Gall bwytai sydd eisiau cymryd rhan ddysgu mwy ar dudalen Facebook Gogledd Ddwyrain Cymru, neu trwy gysylltu â tourism@wrexham.gov.uk. Fe gynhelir digwyddiad i’w lansio ar 10 Ionawr, ac wedi hynny bydd rhestr o gystadleuwyr swyddogol yn cael ei chyhoeddi.