Mae grant o £40,000 gan Lywodraeth Cymru wedi’i sicrhau i amlygu cynnig twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae’r partner arweiniol, Cyngor Sir Ddinbych, yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint wedi uno i redeg prosiect ‘Llwybrau i’r Môr’ yn ystod thema Blwyddyn y Môr Croeso Cymru yn 2018 ac maen nhw wedi bod yn llwyddiannus i sicrhau cyllid gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol 2017-2019 gan Lywodraeth Cymru.
Nod y prosiect, sy’n cael ei gefnogi gan Barneriaethau Rheoli Cyrchfan y dair sir yw arddangos ac adrodd straeon sy’n ymgysylltu am arfordir y rhanbarth, llwybrau beicio, llwybrau cerdded, beicio mynydd, gweithgareddau awyr agored, tirlun, safleoedd hanesyddol, camlesi ac afonydd yn ogystal â dathlu’r cynnig bwyd.
Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych: “Rwy’n falch iawn o glywed bod partneriaeth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi sicrhau’r cyllid hwn i barhau’r gwaith da wrth hyrwyddo’r rhanbarth i breswylwyr ac ymwelwyr. Rydyn ni’n gwybod bod twristiaeth yn rhan bwysig o economi’r rhanbarth, ac yn ystod 2015 cyfanswm yr effaith economaidd oedd £808m a gwnaed dros 11 miliwn o ymweliadau a bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu economi twristiaeth gynaliadwy ffyniannus. “
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Mae prosiectau arloesol yn allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant twristiaeth yn y dyfodol ac er mwyn denu ymwelwyr i Gymru. Mae’r arian ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn rhan o £2 filiwn o gyllid sydd wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer 38 o brosiectau ar draws Cymru drwy’r Gronfa Cynnyrch Twristiaeth Arloesol ac Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol. Rwy’n hynod falch fod yr arian hwn yn galluogi’r sectorau preifat a chyhoeddus i ddatblygu prosiectau arloesol fydd yn creu galw ac yn gwella’r cynnig i ymwelwyr drwy gefnogi ein blynyddoedd thema.
Caiff amrywiaeth o ddelweddau o ansawdd uchel a ffilmiau byrion yn cynnwys llawer o’n lleoliadau a thirnodau allweddol fel Safle Treftadaeth y Byd a chamlas Pontcysyllte ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Llwybr Arfordirol Cymru eu cynhyrchu.
Gan adeiladu ar lwyddiant Her Fwyd Gogledd Ddwyrain Cymru 2017; caiff Her Fwyd ‘Blwyddyn y Môr’ hefyd ei lansio yn 2018 a fydd yn arddangos ein cynnig bwyd a’n bwytai sy’n gysylltiedig â’n harfordir a’n dyfrffyrdd.
Fe fydd y tair Partneriaeth Rheoli Cyrchfan yn lansio eu Cynlluniau Rheoli Cyrchfan ar gyfer 2017-20 eleni, er mwyn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud i sicrhau cynaliadwyedd hir dymor i ddatblygu twristiaeth. Fe fydd brand Gogledd Ddwyrain Cymru yn parhau i fod yn nodwedd allweddol o’r tri chynllun er mwyn hyrwyddo’r rhanbarth i ymwelwyr a phreswylwyr fwynhau.