Mae nifer o ddeunydd hyrwyddiadau chwedlonol sy’n arddangos rhanbarth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi cael eu rhyddhau yn rhan o ymgyrch Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru.

Mae Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu ffilmiau, siwrneiau chwedlonol a llyfryn digidol i ysgogi ymwelwyr newydd i brofi Gogledd Ddwyrain Cymru.

Fe ariannwyd yr ymgyrch drwy Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol Croeso Cymru, ac mae’r deunydd yn edrych ar gestyll y rhanbarth, yn ogystal â thirwedd, celfyddydau a diwylliant a bwyd a diod, yn ogystal ag adrodd hanes ein ffigurau mwyaf chwedlonol gan gynnwys Owain Glyndŵr a Thomas Telford.

Meddai Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Cyrchfan Sir Ddinbych, “Mae’r hyrwyddiadau yn dathlu ein gorffennol, y presennol a’r dyfodol fel erioed o’r blaen gydag atyniadau, digwyddiadau a gweithgareddau mewn amryw o leoliadau chwedlonol. Cafodd Gogledd Cymru ei enwi yn un o’r deg lle gorau yn y byd i ymweld ag o eleni gan y Lonely Planet, felly rydym yn awyddus i arddangos harddwch Gogledd Ddwyrain Cymru i breswylwyr ac ymwelwyr”.

“Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i wneud y ffilmiau a’r llyfryn, rydym yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli ymwelwyr i ddod i brofi ein holl drysorau cudd.”

Yn gynwysedig yn y deunyddiau newydd y mae 12 taith chwedlonol ledled Gogledd Ddwyrain Cymru, o deithiau cerdded canol dref i lwybrau cerdded hir. Mae gan bob un ei leoliad syfrdanol, a stori i gyd-fynd. Mae’r lleoliadau’n cynnwys Llwybr Arfordir Cymru, Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Ffynnon Gwenffrewi, Coedwig Llandegla, Castell Dinas Bran, Moel Arthur, Tŵr y Jiwbilî, Llwybr Clawdd Offa a llawer mwy.

Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi’r rhanbarth, ac yn ystod 2015, cyfanswm yr effaith economaidd oedd £808m ac fe wnaed dros 11 miliwn o ymweliadau.

Fe fydd y 3 Partneriaeth Cyrchfan yn lansio eu Cynlluniau Rheoli Cyrchfan ar gyfer 2017-20 eleni, er mwyn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud i sicrhau cynaliadwyedd hir dymor i ddatblygu twristiaeth. Fe fydd brand y Gogledd Ddwyrain Cymru yn parhau i fod yn nodwedd allweddol o’r 3 cynllun er mwyn hyrwyddo’r rhanbarth i ymwelwyr a phreswylwyr fwynhau.

I weld y ffilmiau, llyfryn a siwrneiau chwedlonol, ewch i www.gogleddddwyraincymru.cymru