Mae’n bleser gennym ni lansio gwasanaeth bws newydd yn Nyffryn Dyfrdwy i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol ni.

Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn daith gylchdro sydd ar gael bob dydd Sadwrn tan ddiwedd mis Hydref 2021. Bydd y gwasanaeth yn cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos gydag atyniadau poblogaidd fel Dyfrbont Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wenffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Y gobaith ydi annog pobl i ymweld â’r atyniadau allweddol yma heb gar, lleihau’r angen am leoedd parcio, a gwneud hi’n haws i’r rheini heb gar deithio i’r llefydd yma; a helpu i leihau tagfeydd yn rhai o ardaloedd prysuraf Dyffryn Dyfrdwy. Bydd y gwasanaeth hefyd yn gyfle i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd archwilio’r ardal ehangach.

Drwy weithio mewn partneriaeth  hefo Cyngor Sir Ddinbych  mae yr AHNE wedi sicrhau bod y gwasanaeth yn ategu’r ddarpariaeth gludiant cyhoeddus bresennol. Mae cysylltu ag amserlenni bysiau o Gorwen a Wrecsam yn gwneud y Gwasanaeth Bws Darluniadwy yn ddewis da i’r rheiny sydd eisiau mynd am dro yn yr ardal.

Mae amserleni isod neu ewch i Ganolfan Groeso Llangollen i nôl taflen wybodaeth.

 

 

Ysgrifennwyd y blog hwn fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfannau Cyngor Sir Ddinbych 2021.