Mae tref farchnad fechan Corwen wedi mwynhau statws uwch na’r disgwyl am ganrifoedd lawer. Gyda’i safle strategol wrth droed Mynyddoedd y Berwyn ger troad eang yn yr Afon Dyfrdwy, mae saint o’r chweched ganrif, byddinoedd goresgynnol ac amddiffynnol, porthmyn a theithwyr coetsis Fictoraidd wedi ymweld â’r dref yn eu tro.
Pellter: 0.6 milltir /1km heb gynnwys Coed Pen y Pigyn
Pa mor anodd yw’r llwybr?: Cymharol wastad ac eithrio’r ddringfa gymedrol ddewisol i Goed
Amser yn cerdded: 45 munud
Man cychwyn: Maes parcio Y Lôn Las LL21 ODN
Cludiant cyhoeddus: Traveline Cymru 0800 464 0000,
Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol 03457 484950
Dôl Corwenna
Ewch i gyfeiriad yr arwydd werdd ar ochr ddwyreiniol y maes parcio a dilynwch y llwybr.
Peidiwch â chael eich twyllo. Efallai bod Dôl Corwenna yn edrych fel parc bach hardd yng nghanol Corwen (ac mae o). Ond mae hefyd yn safle ecolegol a fwriadwyd i brofi effeithiau newid hinsawdd. Wrth i amodau newydd amlygu eu hunain, bydd y dolydd gwair a blodau gwyllt a’r blodau yn y Calendr Hinsawdd yn dangos y newid i dirwedd Cymru. Mae gan y Berllan Gymunedol bwrpas yr un mor bwysig – gan roi cynhaeaf o afalau, gellyg, ceirios ac, wrth gwrs, Eirin Dinbych i’r dref eu rhannu.
Rheilffordd
Dreftadaeth
Roedd Corwen wedi bod yn aros am y trên am bron i 50 mlynedd pan gyrhaeddodd o’r diwedd yn 2014. Daeth yr estyniad gwerth £1 miliwn i Reilffordd Dreftadaeth Llangollen-Corwen â sŵn croesawus caniad y trên a hisian stêm i’r dref am y tro cyntaf ers toriadau Beeching ym 1965. Rŵan gallwch deithio am 10 milltir gogoneddus o’r platfform newydd i Langollen heibio i orsafoedd Carrog, Glyndyfrdwy a Berwyn, gan ddilyn glannau’r Afon Dyfrdwy ar eich ffordd. Dyma un o deithiau rheilffordd prydferthaf Prydain.
Yn ôl yn y ddôl, ewch ar hyd y llwybr ar y chwith. Trowch yn sydyn i’r chwith yn y maes parcio i ymuno â’r ffordd sy’n dod â chi at yr A5 London Road.
Corwen Manor
Gwnaeth ffordd Thomas Telford o Lundain i Gaergybi, yr ydych ar fin ei chroesi, Corwen yn fan aros pwysig i deithwyr rhwng Lloegr a’r Iwerddon yn yr 19eg ganrif. Yn anffodus ni allai pawb fforddio pris coets fawr – neu hyd yn oed dorth o fara. Adeiladwyd Corwen Manor fel tloty ym 1840 i roi cartref i 150 o dlodion o saith plwyf, dynion mewn un adain a merched yn y llall. Mae bellach yn ganolfan grefftau a chaffi. Gyferbyn, lle mae siop gyfleustra erbyn hyn, roedd adeilad a alwyd yn Gorffwysfa’r Crwydriaid ar un adeg. Yma roedd crwydriaid yn ennill eu bwyd a’u llety drwy dorri canpwys o gerrig y dydd – dydi hynny ddim yn swnio fel llawer o orffwys.
Hen Orsaf
Heddlu Corwen
Codwyd Hen Orsaf Heddlu Corwen, wrth ymyl y Capel Wesleaidd hyfryd, ym 1871 i gynnig pedair cell, fflatiau ar gyfer cwnstabl a llys. Yn ffodus, mae digon o le yn yr adeilad hardd rhestredig Gradd II oherwydd bod gan y preswyliwr cyntaf, y Rhingyll Hugh Williams, ddim llai na 10 o blant. Roedd yn orsaf heddlu a llys hyd nes y 1970au ac mae bellach wedi cael ei droi’n llety hunan-arlwyo a gwely a brecwast moethus.
Trowch i’r chwith wrth ymyl Tŷ’r Eglwys ac ewch i’r fynwent drwy’r fynedfa ochr.
Eglwys Sant Mael
a Sant Sulien
Sefydlodd Sant Mael a Sant Sulien eu heglwys yma yn y chweched ganrif, ond mae’r adeilad presennol yn dyddio o’r 1200au. Mae maen hir cynhanesyddol wedi’i adeiladu i mewn i’r porth wrth y fynedfa ac i’r de mae siafft yr hyn a allai fod yn groes bregethu o’r nawfed ganrif. Y tu mewn mae bedyddfaen a allai fod yn 1,000 o flynyddoedd oed. Yn y cefn, y tu ôl i fariau, cerfiwyd croes ar y lintel uwchben drws yr offeiriad – honnir ei fod yn farc a wnaed pan hyrddiodd Owain Glyndŵr ei ddagr i lawr o ochr bryn Pen y Pigyn mewn cynddaredd.
Gadewch y fynwent wrth y giât dro fetel tuag at y gorllewin (chwiliwch am garreg fedd Owen Owen y gyrrwr injans tua’r chwith).
Coed Pen y Pigyn
Os ydych am fynd ar y daith ddewisol i Goed Pen y Pigyn, trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr troed ar ben Mill Street. Mae’n rhaid mynd i fyny’r allt, ar lwybr glaswelltog a charegog – ond mae’r golygfeydd yn ysblennydd. Fel arall, trowch i’r dde tuag at ganol y dref.
Wrth i chi ddringo trwy goedwig dderw Coed Pen y Pigyn, sy’n gynefin i sawl rhywogaeth o ystlumod, byddwch yn mynd heibio i daith gylchol Llwybr y Dagr i’r chwith a chylch cerrig yr Orsedd atmosfferig a godwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1919. Ar ben y llwybr, 800 troedfedd uwchben y dref a gyda’r Afon Dyfrdwy yn ymestyn o’ch blaen chi yn un rhuban, mae heneb garreg i ddathlu priodas Tywysog Cymru yn 1863.
Gwesty Owain
Glyndŵr
Mae blaen Gwesty Owain Glyndŵr, gyda’i bortico Eidalaidd, yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif – blynyddoedd ffyniannus i Gorwen, diolch i welliannau eithriadol Thomas Telford i’r ffordd o Lundain i Gaergybi. Mae’n llawer hŷn at y tu mewn, gan ei fod yn wreiddiol yn fynachlog ar dir yr eglwys.
Yma, ym 1789, y cynhaliwyd yr eisteddfod gyhoeddus gyntaf yng Nghymru – traddodiad a arweiniodd at ŵyl ddiwylliannol fawreddog Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Yn llai llawen, dywedir fod y gwesty yn gartref i ysbryd gwraig a brofodd ddiwedd trist i’w charwriaeth â mynach.
Cerflun o Owain
Glyndŵr
Dyma fo: arwr mwyaf Cymru a hoff fab Corwen. Dadorchuddiwyd y cerflun efydd gwych hwn o Owain Glyndŵr yn 2007 i nodi’r foment ym 1400 pan y cyhoeddodd mai ef oedd Tywysog Cymru a dechrau gwrthryfel cenedlaethol yn erbyn rheolaeth Lloegr. Yn fuan roedd yn goruchafu ar lawer o Gymru, ond, o dan bwysau gan y darpar Harri V, dechreuodd ei wrthryfel bylu ac erbyn 1415 roedd wedi diflannu, ond ni chafodd fyth ei ddal. Dethlir “tad y Gymru fodern” ar 16 Medi bob blwyddyn ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr.
O’r Sgwâr, ewch ar hyd y llwybr rhwng siop y cigydd a’r caffi i ddychwelyd i’r maes parcio.