Mae Llanelwy – sydd â phoblogaeth o tua 4,000 – wastad wedi ystyried ei hun fel dinas, ond nid oedd gweddill Prydain yn ymwybodol o hynny nes i’r Frenhines roi anrhydedd dinesig i’r dref yn ystod ei Jiwbilî Diemwnt.
Pellter: 1 milltir /1.6 km gan gynnwys taith gerdded ar lan yr afon
Pa mor anodd yw’r llwybr?: Gweddol hawdd dringo i fyny’r High Street, gall llwybr glan yr afon fod yn fwdlyd
Amser yn cerdded: 1 awr
Man cychwyn: Maes parcio i’r de o’r eglwys gadeiriol LL17 ORD
Cludiant cyhoeddus: Traveline Cymru 0800 464 0000,
Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol 03457 484950
Eglwys
Gadeiriol Llanelwy
Dyma’r gadeirlan hynafol leiaf ym Mhrydain – dim ond 182 troedfedd o hyd a 68 troedfedd o led. Ond nid yw hyn wedi ei atal rhag mynd i drafferthion. Wedi’i sefydlu gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif, mae’r eglwys gadeiriol wedi dioddef ymosodiadau dro ar ôl tro – cafodd ei difrodi’n wael gan Edward I yn 1282, ei llosgi gan Owain Glyndŵr yn 1402 a’i defnyddio fel stabl gan Bengryniaid yn ystod y Rhyfel Cartref. Ond drwy waith ailadeiladu ac adfer parhaus, mae ei “hurddas a’i mawredd” fel y’i disgrifiwyd gan Dr Johnson, yn parhau. Ei thrysor mwyaf yw Beibl William Morgan o’r 16eg ganrif. Mae arddangosiadau rhyngweithiol yn adrodd hanes yr adeilad hynod, tra bod Caffi’r Cyfieithwyr yn cynnig diodydd, brechdanau, cawl a chacennau blasus.
Cofeb Dau
Gyfieithydd
Adeiladwyd y tŵr Gothig ysblennydd hwn gan y Fictoriaid i ddathlu 300 mlwyddiant ers cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. O’u cilfachau â chanopi, mae delw wyth ysgolhaig yn syllu allan ar dir y gadeirlan – gan gynnwys yr Esgob William Morgan, a gyfieithodd y Beibl yn 1588 a helpodd i achub un o ieithoedd hynaf Ewrop. Mor fyw a hoff oedd y gwaith hwn fel ei fod wedi parhau yn eang nes diwedd yr 20fed ganrif. Mae gan yr eglwys gadeiriol gopi gwreiddiol a gaiff ei arddangos, ac mae Morgan ei hun, a fu farw yn ddyn tlawd yn 1604, wedi’i gladdu o dan yr allor uchel.
Tŷ y Brodyr
Powell
Cymerwch gamau i lawr at High Street a throwch i’r chwith.
Mae’r tŷ, sydd bellach yn salon harddwch, yn dwyn carreg â’r dyddiad 1745, ond mae hyn yn stori o gerddoriaeth yn fwy nag o bensaernïaeth. Hwn oedd man geni’r brodyr George a Felix Powell, y daeth eu cân “Pack up your troubles in your old kit-bag” yn hynod boblogaidd yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn eironig, roedd George yn heddychwr ac yn gwrthod ymladd, ond teithiodd Felix o amgylch ffosydd y Ffrynt Gorllewinol gyda’u cân galonogol. Ymhellach i lawr High Street ar y chwith, yn union cyn yr eglwys, mae’r Elusendai Barrow a adeiladwyd ym 1680 gan yr Esgob Barrow ar gyfer “wyth gweddw tlawd o gymeriad da”.
Eglwys y Plwyf
Datblygodd Llanelwy o amgylch mynachlog ar lan yr afon Elwy, wedi’i sefydlu gan Sant Cyndeyrn, a elwir hefyd yn Mungo, yn 560AD – a’i adael yng ngofal ei hoff ddisgybl, Sant Elwy. Yn gwbl haeddiannol, mae’r eglwys wedi ei chysegru i’r ddau arwr hwn o’r dref ers canol y 12fed ganrif. Adeiladwyd yr adeilad presennol ar ben sylfeini hyˆn yn 1524, a chafwyd estyniad yn fuan wedyn yn arddull adeiladau nodweddiadol Sir Ddinbych. Mae gan yr adeilad do trawstiau gordd gwych, wedi’u haddurno ag angylion ar yr ochr ddeheuol hyˆn. Ychwanegodd y pensaer anorchfygol, Syr George Gilbert Scott, y porth, y cwt clychau a’r festri yn 1872.
Bedd Dic
Aberdaron
Hap a damwain oedd bod y dyn crwydrol, “Dic Aberdaron”, enw go iawn Richard Jones, wedi marw yn Llanelwy yn 1843. Treuliodd y dyn diddysg hwn, a oedd yn fab i adeiladwr cychod, ei fywyd yn crwydro Cymru a Lloegr, yn droednoeth a’i wallt yn hir, yn cario telyn, llawer o lyfrau a chath. Gallai siarad 14 o ieithoedd, gan gynnwys ieithoedd hynafol y Dwyrain Canol, a bu’n treulio blynyddoedd yn ysgrifennu geiriadur Cymraeg-Hebraeg-Groeg. Yn anffodus, ni chyhoeddwyd y geiriadur erioed – Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth sydd â’r unig gopi – a bu farw yn ddyn siomedig. Fe welwch ei garreg fedd ar ei ben ei hun ger pen y rheiliau yng nghornel dde-orllewin y fynwent.
Obelisg
H M Stanley
Ganed y fforiwr Fictoraidd, Henry Morton Stanley, yn Ninbych ac fe’i magwyd yn y tloty yn Llanelwy, ac yn ddiweddarach cafodd ysbyty ei enwi ar ei ôl. Llwyddodd i ddianc o’i “boenydfa” yn y diwedd, a rhedodd i ffwrdd i’r môr – gan wasanaethu ar y ddwy ochr yn Rhyfel Cartref America. Tra’n gweithio fel newyddiadurwr, llwyddodd i olrhain y cenhadwr o’r Alban, David Livingstone, yn ddwfn yng Nghanolbarth Affrica, a’i gyfarch drwy ddweud: “Dr Livingstone, I presume?” Yn ddiweddarach, dyfeisiodd gynlluniau gyda’r Brenin Leopold II o Wlad Belg i harneisio adnoddau naturiol y Congo. Mae golygfeydd o’i fywyd dadleuol yn troelli o amgylch yr obelisg trawiadol hwn, yn ogystal â chopi bach o ddelw o’r Congo.
Pont Elwy
Trowch i’r chwith gyferbyn â’r gysgodfan bws i mewn i’r parc, ac yna’n syth i’r dde i ddilyn y llwybr troed at y bont.
Efallai bod y bont hon o galchfaen a thywodfaen dros yr Afon Elwy yn Heneb Gofrestredig, ond nid dyma’r un wreiddiol. Mae’r un wreiddiol ymhellach i lawr yr afon, wedi’i gwneud o bren ac yn dueddol o gael ei difrodi gan lifogydd. Felly, yn tua 1770, cafodd pensaer Carchar Rhuthun, Joseph Turner, y syniad o ddylunio pont gain bum bwa, yn rhychwantu cyfanswm o 65 metr – yn ddigon llydan i ymdopi pan fydd yr afon ar ei huchaf. Trowch i’r chwith am Blas Ro neu cerddwch o dan y bont i weld Comin Llanelwy.
Plas Ro
Mae Afon Elwy a’i llif cyflym yn cynnwys digon o frithyll, eogiaid a phennau lletwad, sydd yn eu tro yn denu crëyr glas a glas y dorlan – hyd yn oed dyfrgwn o bryd i’w gilydd. Felly, mae’r daith gerdded dewisol hon ar lan yr afon yn cynnig cyfle bythgofiadwy. Hyd yn oed os bydd y creaduriaid bach yn teimlo’n swil, rydych yn siwˆ r o weld eirlysiau, blodau’r gwynt, briallu, briallu Mair neu felyn Mair y gors, yn dibynnu ar y tymor. Heb sôn am y goeden bren fwyaf prin ym Mhrydain: y Boplysen Ddu. Dim ond 2,000 o’r coed gosgeiddig crwm hyn sydd ar ôl ym Mhrydain, a chawsant eu defnyddio i wneud fframiau nenffyrch ers talwm. Mae gan Blas Ro rai o’r sbesimenau gorau yn y wlad.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud nawr yw dilyn eich camau yn ôl at eich car.