Darganfyddwch Sir Ddinbych a’i 5 taith er mwyn profi ein Bwyd a Diod, Arfordir, Treftadaeth, Diwylliant ac ein Cefn Gwlad hyfryd gyda’r llyfryn defnyddiol yma.
Cefn gwlad
Llangollen
Mae prif gyrchfan dŵr gwyn Cymru yn Nyffryn Dyfrdwy yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.
Parc Gwledig Moel Famau
Dyma’r copa uchaf ym Mryniau Clwyd, a Thŵr y Jiwbili yn goron arno, ac mae’n codi uwchben rhostir grug ysblennydd.
Parc Gwledig Loggerheads
Canolfan cefn gwlad annwyl gan lawer wedi’i hamgylchynu gan glogwyni calchfaen esgynnol a llwybrau glan afon atmosfferaidd.
Arfordir
SC2
Parc dŵr anhygoel y Rhyl sydd werth miliynau ac arena chwarae dan do cyffrous sy’n denu 350,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Y Rhyl
Crwydrwch weddill y Rhyl: harbwr 700 oed, llyn morol unigryw gyda rheilffordd fach a theatr boblogaidd gyda 1,000 o seddi.
Prestatyn
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cwrdd â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ger Canolfan y Nova ar lan y môr, gyda thwyni Gronant heb eu difetha i gyfeiriad y dwyrain.
Treftadaeth
Llangollen
Ewch ar gwch a gaiff ei dynnu gan geffyl, ewch ar daith ar drên stêm, ewch i weld Merched Llangollen.
Carchar Rhuthun
Mae “Cyweirdy” Fictoraidd yn arswydus ac atmosfferaidd.
Castell Dinbych
Caer uchel gyda hanner milltir o waliau’r dref a golygfeydd anhygoel.
Castell Rhuddlan
Ewch i weld y castell symudodd Brenin Edward I afon ar ei gyfer.
Diwylliant
Sinema’r Scala, Prestatyn
Yr holl ffilmiau poblogaidd diweddaraf a dangosiadau opera a theatr byw.
Theatr y Pafiliwn, y Rhyl
Lleoliad cyffrous sydd newydd ei adnewyddu ar gyfer drama, comedi a chyngherddau.
Canolfan Grefft Rhuthun
Canolfan arweiniol Cymru ar gyfer y celfyddydau cymhwysol – gyda chaffi gwych.
Y Capel, Llangollen
Oriel gelf gyfoes wych tu mewn i Ganolfan Groeso.
Bwyd a diod
Bwyty 1891
Bwyty theatr uchelgeisiol a gellid dadlau mai dyma’r golygfeydd gorau o’r môr sydd i’w
cael yn y Rhyl.
Bwyd a Diod Bryniau Clwyd
Mae Caffi Florence ym Mharc Gwledig Loggerheads yn lle gwych i ddechrau.
Ystâd Rhug
Ystâd organig gyda’i siop fferm, bwyty a siop bwyd parod ei hun ar ochr y ffordd.
Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy
Bwyd a Diod
Mae Llangollen wrth ganol y fenter bwyd lleol hon – edrychwch am y logo.