Busnes teuluol yw Powells Jewellers Prestatyn gyda thair cenhedlaeth o brofiad yn gwerthu gemwaith syfrdanol yn eu siop helaeth ar y Stryd Fawr ym Mhrestatyn. Maen nhw’n gwerthu Clogau, Diamonfire, Swarovski a Chlobo. Ewch i edrych ar eu gwefan am syniadau anrhegion hyfryd.

 

 

 

 

 

 

Mae gan Cherry Tree Country Clothing sydd wedi ei lleoli ar Lôn Parcwr yn Rhuthun ddewis da o wisgoedd gwledig, dillad hela, dillad a chyfarpar awyr agored ac esgidiau ar gyfer pob achlysur!   Ar gyfer unrhyw fath o ofynion hela, cerdded, heicio, merlota, cerdded cŵn a theithio, bydden nhw’n fwy na pharod i’ch helpu i ddewis yr offer gorau gyda’u blynyddoedd lawer o brofiad.   Mae ganddyn nhw hefyd ddewis gwych o gotiau mynd â’r ci am dro, siacedi hela, welingtons, esgidiau cerdded a llawer mwy.   Darllenwch fwy amdanyn nhw a gweld pam bod angen dillad brethyn arnoch chi bob amser yn fan hyn. 

 

Mae  Blooming Gorgeous Floristry wedi ennill cystadleuaeth Siop Flodau’r Flwyddyn yng Ngwobrau Manwerthu Annibynnol Cymru 2019. Fe’i sefydlwyd yn 2018 gan y perchnogion Ed a Pete, ac maen nhw’n siop flodau annibynnol wedi’u sefydlu yn Mphrestatyn. Gallwch hyd yn oed archebu eich coeden Nadolig a gofyn iddyn nhw ei danfon atoch chi.

Mae  Trefor Jones Ruthin a sefydlwyd yn 1977 yn fusnes teuluol sy’n arbenigo mewn dillad dynion.  Fe’u lleolir ychydig i lawr y bryn o Sgwâr Sant Pedr yn Rhuthun. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth gynhwysfawr o nwyddau o’r safon uchaf gan wneuthurwyr blaenllaw Prydeinig a Chyfandirol, yn amrywio o’r traddodiadol i’r modern. Mae yno hefyd ddewis eang o Barbour i Ddynion a Merched.

 

Mae Let’s Paint Pottery Celf a Chrefft Prestatyn yn fusnes teuluol sy’n cynnig gweithgareddau creadigol ar gyfer unrhyw grŵp oedran mewn amgylchedd hamddenol. Dyma’r lle perffaith i chi ddod i dreulio amser arbennig yn gwneud rhywbeth gwahanol, tra’n ymlacio a dianc rhag prysurdeb arferol bywyd bob dydd. Yn Let’s Paint Pottery gallech chi – gynnal partïon i blant neu oedolion, peintio darlun o law a throed eich babi, cynnal digwyddiad meithrin tîm, trefnu ymweliad grŵp neu ddiwrnod allan o’r ysgol/clwb a llawer mwy. Rŵan yn cynnig Let’s Make a Bear.  Dewch draw i greu eich tedi eich hun a mynd â fo adref gyda chi ar y diwrnod. Mae danteithion blasus ar gael tra byddwch chi’n peintio.  Cewch fwynhau wafflau, crempogau, hufen iâ ac mae bar topins.

Mae Pine and Oak direct yn Rhuthun ar agor 7 niwrnod yr wythnos ac maen nhw wedi bod yn helpu pobl i ddewis dodrefn ar gyfer eu cartrefi ers dros 35 o flynyddoedd bellach. Nhw yw’r unig warws dodrefn pinwydd a derw sefydledig yng Ngogledd Cymru ac maen nhw’n arddangos y gorau mewn dodrefn modern, traddodiadol, i’r ystafell fyw, ystafell fwyta a’r ystafell wely. Maen ganddyn nhw hefyd amrywiaeth eang o soffas, cadeiriau, yn enwedig cadeiriau sy’n mynd yn ôl.  Maen nhw’n adnabyddus am eu cadeiriau sy’n mynd yn ôl, gan gynnwys brand gwych Sherborne, ac maen nhw’n cynnig dod i’ch tŷ gyda chadair i chi roi cynnig arni cyn prynu

Mae Elevate your sole  ar Stryd Fawr Prestatyn yn siop esgidiau bwtîc annibynnol, gydag amrywiaeth gwych o esgidiau a ffasiwn ar gyfer oedolion o bob oedran. Maen nhw’n gwerthu Rieker, Ruby Shoo Shoes Seasalt a Skechers.

Busnes teuluol yw PinkyBlu Baby ar Stryd Fawr Prestatyn. Mae yno amgylchedd cyfeillgar a ffasiynol, sy’n gwerthu arddulliau dillad traddodiadol a modern i blant hyd at saith oed gyda llawer o eitemau unigryw. Mae PinkyBlu wedi dewis eu stoc yn ofalus ac mae’n cynnwys Sarah Louise, Mintini, Aurora Royal, Blues Baby, Dr Kidd, Little Darlings, Fabrique All Portugal, Tia London a Piccola Speranza ac maen nhw’n archebu stoc o frandiau newydd a ddewiswyd yn ofalus yn rheolaidd.

Busnes teuluol yw PinkyBlu Baby ar Stryd Fawr Prestatyn. Mae yno amgylchedd cyfeillgar a ffasiynol, sy’n gwerthu arddulliau dillad traddodiadol a modern i blant hyd at saith oed gyda llawer o eitemau unigryw. Mae PinkyBlu wedi dewis eu stoc yn ofalus ac mae’n cynnwys Sarah Louise, Mintini, Aurora Royal, Blues Baby, Dr Kidd, Little Darlings, Fabrique All Portugal, Tia London a Piccola Speranza ac maen nhw’n archebu stoc o frandiau newydd a ddewiswyd yn ofalus yn rheolaidd.

Peidiwch ag anghofio, ynghyd â’r holl weithgareddau a phrofiadau siopa pwrpasol hyn, fod trefi Sir Ddinbych yn cynnig parcio am ddim ar ôl 3pm, sydd tua’r un adeg ag y daw rhai o’n tirnodau’n fyw gyda sioe oleuadau hardd i gyd wedi’i chyfuno i gynnig profiad Nadoligaidd am ddim i chi wrth i chi archwilio ein siopau ar y stryd fawr.