Ydych chi awydd her cerdded a fydd yn eich galluogi i weld y bywyd gwyllt amrywiol ar hyd Afon Clwyd fel mae’n llifo i lawr cwrs 35 milltir i’r môr, mae hwn yn berffaith i chi.

Yr her hon yw’r Llwybr perffaith i’r Môr.

Clwydian Range
Dyffryn Clwyd

Fel rhan o Flwyddyn y Môr yng Nghymru yn 2018 bydd y gyfres hon o heriau yn mynd â chi o gyflwyniad yn Llyn Brenig i amryw o bwyntiau ar hyd Afon Clwyd wrth iddi lifo ar hyd cwrs 35 milltir, gan ollwng 1,200 troedfedd i draeth enwog y Rhyl.

Gallwch orffen gwahanol ran o’r her bob mis gan ddechrau o fis Mai at fis Medi a dod yn ymwelydd rheolaidd i Ogledd Cymru wrth i chi archwilio ei dirwedd hyfryd. Mae’r teithiau cerdded yn darparu her a gallwch brofi eich hun wrth fod dan arweiniad a gofal arweinwyr arbenigol.

Bydd gwahanol fywyd gwyllt i’w weld ar hyd y ffordd ac efallai y byddwch yn ddigon lwcus i weld rhywogaeth y mae’r afon yn adnabyddus amdano, sef brithyll y môr, neu’r Sewin yn lleol.

Gyda phob rhan o’r her wedi’i harwain gan swyddog cefn gwlad profiadol, gallwch gael mewnwelediad mwy o’n bywyd gwyllt hyfryd wrth i chi fynd tua’r arfordir.

I gael gwybod amseroedd a mannau cyfarfod, ffoniwch Barc Gwledig Loggerheads ar 01824 712757


Dadansoddiad

 

Mae’r her yn digwydd dros 5 mis, a dyma ddadansoddiad bach o’r gwahanol gamau a’r ardal bydd pob cam yn ei chwmpasu.

 

Cyflwyniad Llyn Brenig – Dydd Iau 10 Mai

Rhan Ardal Brenig o Felin-y-Wig – Dydd Gwener 8 Mehefin

Rhewl, Clywedog, Milltiroedd Cymunedol – Dydd Iau 12 Gorffennaf

Brwcws, Dinbych, Llwybr Hiraethog – Dydd Iau 16 Awst

Llyn Morol – Dydd Iau 12 Medi

 

Marine Lake
Llyn Morol, Y Rhyl