Bob dydd ar ôl 3pm o 21 Tachwedd tan 31 Rhagfyr bydd modd parcio am ddim ymhob maes parcio’r Cyngor.

Unwaith eto mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal y fenter hon i geisio annog mwy o bobl i siopa ar y stryd fawr wrth i ni nesáu at y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

 

Bydd y fenter Am Ddim ar ôl Tri ar gael yn y meysydd parcio canlynol:

  • Corwen – Lôn Werdd
  • Dinbych – Lôn Ffynnon Barcer, Ward y Ffatri, Lôn y Goron, Lôn y Post a Stryd y Dyffryn
  • Llangollen – Heol y Farchnad, Stryd y Dwyrain, Stryd y Plas a Heol y Felin
  • Prestatyn – Stryd Fawr Isaf, Rhodfa’r Brenin, yr Orsaf Drenau
  • Rhuddlan – Stryd y Senedd
  • Y Rhyl – Canol, Ffordd Morley, Stryd Dwyrain Cinmel, y Llyfrgell (baeau anabl yn unig), Neuadd y Dref, y Tŵr Awyr a’r Orsaf Drenau
  • Rhuthun – Stryd y Farchnad, Heol y Parc, Iard Crispin, Troed y Rhiw, Stryd Rhos a Sgwâr San Pedr
  • Llanelwy – Lawnt Fowlio

Nid yw maes parcio preifat Neuadd Y Morfa, Y Rhyl yn gynwysedig yn y fenter.

Meddai’r Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd: “Rydym ni’n falch iawn o allu cynnig y fenter ‘Am Ddim ar ôl Tri’ eto eleni.

“Mae ar gymunedau angen ein cefnogaeth fwy nag erioed eleni, ac felly rydym ni’n gobeithio y bydd pobl a busnesau yn manteisio ar y cynllun hwn drwy ddefnyddio meysydd parcio canol tref y Cyngor i barcio am ddim.

“Mae’r cynllun Am Ddim ar ôl Tri yn cefnogi ymgyrch #CaruBusnesauLleol y Cyngor, sy’n amlygu pwysigrwydd siopa’n lleol.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn annog mwy o bobl i ymweld â chanol ein trefi a gweld beth sydd ar gael yno. Mae gan fusnesau Sir Ddinbych amrywiaeth o gynnyrch a gwasanaethau ac mae ganddyn nhw rywbeth at ddant pawb. Beth am #CaruBusnesauLleol a chefnogi ein cymunedau gyda’n gilydd?”