Sefydlwyd y cigydd G R Evans yng Nghorwen yn ôl yn 1938 gan Gwilym a Gwyneth Evans, ers hynny symudodd y busnes i Siop y Frenhines yn 1980 ac mae wedi sefydlu ei hun fel cigydd dibynadwy, siop delicatessen a siop bwyd rhew ble mae cig eidion, cig oed a phorc yn cael ei ffynonellu’n lleol a’i ladd yn eu heiddo eu hunain. Maent hefyd yn gwerthu ystod o bastai cig, lasagne, quiche, pasta’r bwrthyn a cholslo yn ogysal â chaws, pate, wyau a iogwrt. Maent yn cymryd archebion Nadolig nawr, felly archebwch nawr!
Lleolir yng nghanol Llangollen, mae Siop Ogi a Bwydydd Cain Llangollen yn cyflenwi ac yn gweini bwydydd moethus ffres a diodydd drwy’r flwyddyn ac i bobl leol y dref a llawer o ymwelwyr sy’n ymweld bob blwyddyn. Maent yn ymfalchïo yn y cynnyrch lleol o’r ansawdd gorau ble bynnag bo’n bosibl, a adlewyrchir yn ein hystod i beis, rholiau selsig, porc peis, ogis Cymreig, wyau selsig, cacennau, hufen ia Cymreig, siocled, cyffug, brechdanau, cawsiau, jamiau, marmalêd, mwstard, cwrw a seidr, jin a gwirodydd a llawer mwy. Allwch chi ddim ymweld â Llangollen heb flasu Ogi Cymreig enwog, gyda sawl dewis o gig a llysieuol.
Mae’r Parlwr Hufen Iâ Red Boat ym Mhrestatyn yn un o’r pump sydd ganddynt ar draws Gogledd Cymru, felly mae’r perchnogion Tony a Lyn yn gwybod digon am yr hufen iâ a sorbet gorau. Mae’r parlyrau yn cynnwys ystod o du mewn modern a threftadaeth ac maent yn fannau gwych i gwrdd a mwynhau hufen iâ blasus neu goffi blasus Eryri. Roeddent yn falch o gael eu henwebu yn un o’r 17 lle gorau i gael hufen iâ ar draws y DU i gyd ac maent wedi ennill Gwobr Great Taste 2020 am yr hufen iâ Tiramisu.
Y Granar busnes arlwyo a leolir yn Ninbych sy’n gwneud prydau parod, a ddarperir yn unigol yn ogystal â chacennau dathlu a the prynhawn. Gallwch archebu cacennau pwrpasol fel yr un uchod.
Mae cigydd Prestatyn sydd wedi ennill gwobrau, wedi’i leoli ar y Stryd Fawr, yn cynnig dosbarthu am ddim i’r ardal leol cyn belled ag Abergele a Thalacre ar unrhyw archeb ar-lein dros £15. Mae Nick a’i dîm yn gwerthu ystod eang o gig, llysiau a phopeth arall y byddech yn ei ddisgwyl gan gigydd o ansawdd uchel.
Mae Hufen Iâ Chilly Cow yn gwneud hufen iâ sydd wedi ennill gwobr yn defnyddio llaeth ffres o’i gwartheg Brown o’r Swistir ar eu fferm ger Rhuthun. Mae’r fferm wedi bod yn eiddo i’r teulu ers dros 40 mlynedd ac mae wedi’i lleoli yng ngodre Bryniau Clwyd. Maent yn cynnig potiau unigol 120ml i gael blas ar hufen iâ Chilly Cow neu botiau mwy 500ml i fynd adref …. os bydd yn cyrraedd mor bell â hynny!! Maent yn cyflenwi llawer o fusnesau lleol a rhanbarthol gyda’u hufen iâ moethus ac mae’r nifer sy’n stocio’r hufen iâ yn tyfu bron mor gyflym â’r borfa mae’r gwartheg yn ei fwyta!…. Gallwch ddod o hyd i’r stociwr agosaf ar ei gwefan.
Mae Siop fferins y pentref ar y stryd fawr yn Rhuddlan hefo rhywbeth arbennig iawn i fyny eu llewys eleni eto hefo cyflenwadau arbennig gan Gorrach. Mae Speedy, Marmalêd a’r holl gorachod direidus yn ôl, byddant yn ymweld â chi am tua 20 munud a bydd yr hen a’r ifanc yn mwynhau cymryd rhan yn yr holl hwyl a ddaw un o’r Corachod hyn y Nadolig hwn. Byddant yn eich gadael gyda rhodd hudolus i wneud eich Nadolig yn fwy hudol. Mae ymweliadau yn costio £40 ac eithrio Noswyl Nadolig ble bydd ymweliadau yn costio £50. Mae’r rhodd yn cynnwys bwyd carw, ceiniog siocled ac ychwanegiadau dewisol. Ar gyfer gwybodaeth archebu cliciwch ar y dudalen facebook. Bydd y Corach yn gwisgo gorchudd wyneb a gallwch fod yn sicr y bydd Marmalêd, pennaeth Iechyd a Diogelwch (!) yn dod â digon o hylif diheintio!
Peidiwch ag anghofio, ynghyd â’r holl weithgareddau a phrofiadau siopa pwrpasol hyn, fod trefi Sir Ddinbych yn cynnig parcio am ddim ar ôl 3pm, sydd tua’r un adeg ag y daw rhai o’n tirnodau’n fyw gyda sioe oleuadau hardd i gyd wedi’i chyfuno i gynnig profiad Nadoligaidd am ddim i chi wrth i chi archwilio ein siopau ar y stryd fawr.