Mae llesiant yn flaenoriaeth hollbwysig i gymaint o bobl y dyddiau hyn, ac felly nid oedd yn syndod gweld gymaint o bobl yn ymgymryd â’r her o gerdded neu redeg hyd yn oed ar ein llwybrau cenedlaethol pan oedd cyfyngiadau’r cyfnod clo’n caniatáu hynny.
Rydym yn ffodus iawn o gael gymaint deithiau cerdded eiconig yng Nghymru, a phob un yn unigryw yn ei ffordd ei hun, sy’n golygu fod pob taith yn gyfle gwych i ddarganfod rhywbeth newydd.
Mae Llwybr Clawdd Offa yn aml yn dilyn y clawdd trawiadol y gorchmynnodd y brenin Offa ei adeiladu yn yr 8fed ganrif, ac yn ôl pob tebyg er mwyn gwahanu ei deyrnas ef, Mersia, oddi wrth deyrnasoedd ei elynion, ar diroedd a elwir bellach yn Gymru, a dyna lle cafodd y llwybr ei enw. Mae’r llwybr yn 177 o filltiroedd o hyd. Mae’r llwybr yn cysylltu tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – Dyffryn Gwy, Swydd Amwythig a Bryniau Clwyd/Dyffryn Dyfrdwy, yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Safle Treftadaeth Byd yn Llangollen. Mae’r tirwedd ar y llwybr yn amrywio’n fawr, o afonydd a dolydd i rostiroedd ac ucheldiroedd trawiadol. Yn ogystal â’r Clawdd Offa ei hun, lle cafodd y llwybr ei enw, mae amryw o safleoedd treftadaeth eraill i’w gweld ar hyd y daith, megis Castell Cas-Gwent, Abaty Tyndyrn, Pont Mynwy, Castell Gwyn, Caer Digoll, Dinas Brân a nifer o fryngaerau eraill ym Mryniau Clwyd, a’r mwyaf o’u plith yw Penycloddiau, felly mae modd dadlau fod y llwybr hwn yn adrodd cyfrolau o hanesion, wrth groesi dros y ffin o Loegr ac yn ôl i Gymru dros ugain o weithiau. Gellir cwblhau’r llwybr cyfan mewn oddeutu 12 diwrnod, fel yr amlinellir yn y canllawiau swyddogol. Mae’n gallu bod yn heriol hefyd, gan y byddwch yn esgyn dros 28,000 troedfedd, sydd gyfwerth â dringo Everest. Mae’n bosibl iawn y byddwch hefyd yn dod ar draws casgliad o fywyd gwyllt prin, megis y Grugiar Goch, Gylfinir a’r Cudyll Bach ar eich taith, ac mae rhai o luniau arlunwyr enwog megis Turner ac Wilson wedi’u hysbrydoli gan y dirwedd arbennig hon dros y canrifoedd. Rob Dingle, Swyddog Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa sy’n gyfrifol am waith datblygu a rheoli cyffredinol y llwybr, gan gydweithio gyda’r awdurdodau rheoli sy’n cynnal eu hadrannau nhw o’r tiroedd. Mae Rob yn sicrhau fod y llwybr yn cael ei diweddaru a’r arwyddion yn cael eu cynnal er mwyn helpu pobl i deimlo’n hyderus yn crwydro’r llwybr.
Mae nifer o bobl yn cyfuno Llwybr Arfordir Cymru gyda llwybr Clawdd Offa er mwyn cerdded o amgylch Cymru gyfan. Meddai Rob, ‘mae’r ddau lwybr wedi’u cyfuno yn 1030 milltir o hyd, ac yn cymryd oddeutu 65 diwrnod i’w gerdded, a 25 diwrnod i’w redeg.’ Fodd bynnag, mae llawer o bobl, fel fi, yn dewis ei gwblhau fesul adran.
Mae Lonely Planet wedi enwi Llwybr Clawdd Offa fel un o’r teithiau cerdded gorau yn y byd –
‘ranks as one of the world’s most beautiful walks, offering breath-taking views and glimpses into centuries of history.’
Mae eleni yn nodi pen-blwydd llwybr eiconig Clawdd Offa yn 50. Agorwyd y llwybr yn swyddogol yn Nhrefyclo gan yr Arglwydd Hunt (a ddaeth yn enwog am ei daith i fyny Everest) ar 10 Gorffennaf, 1971. Ar ddiwedd y 1960au a dechrau’r 1970au, cwblhawyd y gwaith arloesol o greu a chwblhau’r llwybr drwy bartneriaeth rhwng asiantaethau’r llywodraeth, awdurdodau lleol a gwirfoddolwyr Cymdeithas Clawdd Offa a oedd newydd ei ffurfio bryd hynny. Meddai Rob Dingle ‘un o’r newidiadau amlycaf dros y 50 mlynedd ddiwethaf ar y llwybr hwn yw’r gostyngiad mewn campfeydd. Ar ddiwedd y 60au/70au cynnar, pan agorwyd y llwybr yn swyddogol, mae sôn fod 900 o gampfeydd ar hyd y daith, ar ôl derbyn nifer o sylwadau gan gerddwyr, rydym wedi gweithio’n galed dros y 10 mlynedd ddiwethaf i newid hyn, ac erbyn heddiw, mae llai na 250 o gampfeydd ar ôl. Bob blwyddyn, rydym yn gweithio’n galed i geisio gwaredu rhagor o’r rhain a gosod mwy o giatiau. Rydem wrthi’n paratoi ar gyfer y dathliadau, ac rydym yn awyddus i weld lluniau o’ch adran leol chi o’r Clawdd Offa gan ddefnyddio’r hashnod #llwybrclawddoffa50 ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol. Os hoffech ragor o wybodaeth am Ben-blwydd Llwybr Clawdd Offa yn 50 a sut i gymryd rhan, ymwelwch â linc yma.
Fel rhan o’r dathliadau mae cyfres o deithiau cerdded yn cael eu trefnu gan Mike Smart, tywysydd profiadol iawn a sefydlydd Gŵyl Gerdded Llangollen, ar gyfer Cyfeillion Bryniau Clwyd.
Gall Aelodau o Gyfeillion Bryniau Clwyd fynychu am ddim, gyda chyfraniad o ryw £10-£15 i eraill nad ydynt yn aelodau. Bydd cacen ar ddiwedd pob taith i ddathlu’r cyflawniadau, ac un arbennig ar ddiwedd Clawdd Offa ym Mhrestatyn.
Mae’r teithiau cerdded fel a ganlyn:
Dydd Sul Awst 22 TAITH GERDDED 1: Melin y Waun – Llangollen 10 milltir
Dydd Sul 29 Awst TAITH GERDDED 2: Llangollen – Llandegla 10 milltir
Dydd Sul 5 Medi TAITH GERDDED 3: Llandegla – Bwlch Penbarras 10 milltir
Dydd Sul 24 Hydref TAITH GERDDED 4: Bwlch Penbarras – Bodfari 10 milltir
Dydd Sul 31 Hydref TAITH GERDDED 5: Bodfari – Prestatyn 12 mill
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma
Cofiwch parchu y Cod Cefn Gwlad os gwelwch yn dda pan yr ydech yn cerdded.