Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen sy’n fyd enwog yn dychwelyd eleni gyda rhaglen ddiwylliannol amrywiol newydd sydd wedi’i gomisiynu i  ddathlu neges heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol a oedd yn sylfaen pan sefydlwyd yr Eisteddfod dros 70 mlynedd yn ôl ond fel pawb arall mae’n rhaid gwneud pethau ychydig yn wahanol eleni ar ôl gohirio’r llynedd oherwydd y pandemig.

 Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd yr Eisteddfod eleni yn dathlu’r ystod ehangaf posibl o genres o gerddoriaeth glasurol, corawl, hip hop, dawns a byd, bydd yr ŵyl ar-lein yn bennaf, gyda’r brif raglen yn rhad ac am ddim dros benwythnos 9-11 Gorffennaf.

 I gysylltu â’r cynulleidfaoedd presennol a newydd gan baratoi at ddychwelyd yn y cnawd yn 2022 maent wedi comisiynu gosodiad celf cyffrous gan yr artist byd enwog Luke Jerram, sy’n gorchuddio pont Llangollen, sy’n eitem restredig gradd 1, gyda chlytwaith o ddeunyddiau yn cynrychioli Cymru a’r gwledydd sydd fel arfer yn mynychu’r Eisteddfod.

 Dyma gomisiwn cyntaf Luke yng Nghymru, mae’n adnabyddus am osodiadau celf cyhoeddus ar draws y byd yn cynnwys Museum of the Moon a phiano stryd Play Me, I’m Yours  a cherfluniau Gwydr Microbioleg yn dangos coronafeirws a’i frechlyn.  Bydd y gwaith celf a elwir yn Bridges, Not Walls ar gael i’w weld tan 5 Awst.

 

 

Bydd rhaglen Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2021 yn cynnwys  

Tangnefedd gan Paul Mealor a Mererid Hopwood

Cyflwyniad cyntaf darn corawl newydd gan Paul Mealor, un o’r cyfansoddwyr byw a berfformiwyd fwyaf yn y byd, a Mererid Hopwood, bardd Cymreig adnabyddus a’r fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.  Bydd y perfformiad yn cynnwys corau o bob cwr o’r byd sydd wedi cystadlu’n llwyddiannus yn yr Eisteddfod, o’r DU, yr UDA ac Affrica.  Ystyr y gair Tangefedd yw canlyniad uno dwy elfen mewn heddwch a harmoni.

Curiad Calon/Heartbeat gyda Horizons (BBC/ACW), Rachel K Collier, Magugu a Lily Beau

Trac dawns newydd a gomisiynwyd ar gyfer Eisteddfod Llangollen gan gynhyrchydd a pherfformiwr electronig newydd Rachel K Collier, rapiwr avant-garde o Nigeria Magugu a chyfansoddwraig, cantores ac actores ifanc o Gymru, Lily Beau.  Mae’r trac wedi’i ddylunio i ysbrydoli cymuned gerddoriaeth a dawns ryngwladol yr Eisteddfod a’r cyhoedd i ymateb gyda’u symudiadau eu hunain ar gyfryngau cymdeithasol.  Dyma’r tro cyntaf hefyd lle y cyfunwyd ieithoedd rap bratiog Saesneg, Cymraeg a Nigeraidd.

Catrin Finch a Gwesteion

Cyfansoddiad cerddorol newydd yn archwilio neges heddwch gyda thelynores a chyfansoddwraig sy’n enwog yn rhyngwladol – Catrin Finch, rapiwr a bît-bocsiwr arloesol Mr Phormula (Ed Holden), cerddor Prydeinig –Asiaidd a chwaraewr tabla Kuljit Bhamra, Eliza Marshall a Nick Ellis ar Bansuri, Lee House, electroneg a drwm RAV a chôr ffoaduriaid a cheiswyr Lloches Oasis One World, o Gaerdydd.

 

 

Prosiect Ysgolion Beth Yw Heddwch?/What is Peace?

Prosiect yn archwilio syniadau plant am heddwch drwy air ysgrifenedig, dawns, symudiad a sesiynau drama yn cynnwys 1,000 o ddisgyblion o dair ysgol yn y Rhyl, Llanberis a Llangollen.  Bydd fideo creadigol yn  cael ei gynhyrchu ac arddangosfa o gardiau post yn arddangos safbwyntiau plant am heddwch i’w gweld ledled y dref.

 

Rhaglen Pafiliwn Heddwch

Rhaglen sy’n cynnau’r meddwl yn llawn sgyrsiau a gweithgareddau gydag Academi Heddwch Cymru yn archwilio heddwch a chreu heddwch.  Mae’r rhaglen yn cynnwys ‘The Peace Lecture’ gan Begoña Lasagabaster, Pennaeth Arweinyddiaeth a Llywodraethu Merched y Cenhedloedd Unedig, ‘The Art of Peacebuilding’; ‘Peace Poems’ a llawer mwy.  Ar gyfer pobl ifanc, mae’r gyfres yn cynnwys cyfnewid diwylliannau rhithiol a seremoni Gwobrau Gwneuthurwyr Heddwch Ifanc.

Bydd Eisteddfod ddigidol Llangollen yn cynnwys fideos o berfformiadau cyntaf erioed, nifer ohonynt wedi’u ffilmio yn y dref.  Nos Sadwrn, bydd perfformiad o Dangnefedd gan gôr mawr, rhai yn ymddangos yn ddigidol ar draws y byd ac eraill ar lwyfan y pafiliwn lle cynhelir yr Eisteddfod fel arfer, ar gyrion y dref.  Gwahoddir pobl sy’n byw yn lleol, yng Nghymru a ledled y byd i archwilio’r rhaglen, yn rhad ac am ddim.

 

Mae Betsan Moses, prif weithredwr dros dro Eisteddfod Llangollen ar gyfer 2021 yn arwain ar greu rhaglen ddiwylliannol newydd, amrywiol ac o’r radd flaenaf i gysylltu â chynulleidfaoedd presennol a newydd, ar ôl gohirio’r digwyddiad y llynedd.

 

Meddai: “Sefydlwyd Eisteddfod Llangollen ar y syniad o ddod â heddwch, ac eleni mae’r rhaglen ddiwylliannol yn mynegi beth sy’n bwysig; heddwch, creadigrwydd ac undod.  Rydym yn edrych ymlaen at rannu rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein sy’n amrywiol ac sy’n ysbrydoli, gydag ystod o berfformwyr gorau’r byd ar draws genres cerddorol ac artistig a chomisiynau newydd cyffrous i ddiddanu cynulleidfaoedd presennol a newydd ym mhob cwr o’r byd.

 

“Bydd tref hardd Llangollen, sydd fel arfer yn derbyn hyd at 35,000 o ymwelwyr yn ystod yr Eisteddfod, hefyd yn croesawu ymwelwyr sy’n dod i weld trawsnewidiad Pont Llangollen i fod yn ddarn enfawr o waith celf gan Luke Jerram, wedi’i haddurno a chlytwaith o ddeunydd o bob cwr o’r byd”.