Bob wythnos, byddwn yn ymweld â rhai o’n trefi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, a phori drwy rhai o’r ffeithiau diddorol o’r gorffennol sydd wedi eu siapio i beth ydynt erbyn heddiw.
Heddiw, rydym yn edrych ar Langollen.
Mae Llangollen yn dwyn ei enw o ‘Llan’ sy’n golygu “anheddiad crefyddol” a Sant Collen, mynach o’r seithfed ganrif a sefydlodd yr eglwys ar lannau’r afon. Dywedir bod Sant Collen wedi cyrraedd Llangollen mewn cwrwgl. Mae Llangollen yn dref boblogaidd ymysg ymwelwyr, gyda’i lleoliad darluniadwy ar Lannau Dyfrdwy, wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd, a Dinas Brân yn edrych dros y cyfan. Nid ni’n unig sy’n meddwl hynny, ac mae’r dref wedi ennill sawl gwobr, gyda AOHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn amgylchynu Llangollen i gyd, yn ogystal â bod yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.
A wyddoch chi?
Mae gan Langollen ei amgueddfa foduron ei hun, sydd wedi’i lleoli yn hen weithfa torri llechi Pentrefelin (milltir i ogledd Llangollen ar yr A542 tuag at Fwlch Yr Oernant) – mae’n gartref i tua 50 o geir a beiciau modur yn dyddio o 1912 i 1970, gan gynnwys Model T Ford.
Yn ystod yr ail ryfel byd, cafodd y mynyddoedd o amgylch Llangollen eu rhoi ar dân i ddrysu’r Luftwaffe Almaenig a’u hudo i ffwrdd rhag bomio Lerpwl. Ers hynny, mae ffermwyr lleol wedi adrodd canfod bomiau nad oedd wedi ffrwydro’n llechu ymysg y grug.
Roedd Rheilffordd Llangollen yn cynnig trên stem ar gyfer angladdau yn y gorffennol, ar ffurf gwylnos symudol. Serch hynny, daeth yr arfer i ben yn sgil gwrthwynebiad lleol, a oedd yn ofni y byddai’r llwch yn cael ei wasgaru drwy’r blwch tân ac yn lledaenu dros y dyffryn i gyd.
Yn 1739, trigai farbwr o’r enw Thomas Edwards mewn bwthyn ger safle gardd Gwesty’r Hand. Fo oedd yr ysgolfeistr hefyd, ac nid oedd yn adnabyddus iawn am fod yn wresog. Un diwrnod, ar ôl ffrae am sgiliau coginio ei wraig Maria, fe dynnodd ei rasel ar draws ei gwddf, gan adael iddi waedu i farwolaeth. Cafodd ei chanfod yn ddiweddarach gan blant yr ysgol. Fe ffodd dros Lôn Groes i’r caeau agored, ond cafodd ei ddal yn golchi ei ddwylo gwaedlyd yn ffynnon y wyrcws a chafodd ei gondemnio i gael ei grogi ar gopa Moel y Geraint. Ar ei ffordd i’r crocbren, cafodd jwg o gwrw gan Mrs Parry, lletywraig yr Hand, ac wrth i’r bobl leol redeg i fyny’r Geraint i’w weld yn cael ei grogi, trodd atynt, gan ddweud: “Peidiwch â brysio, ni fydd sbort yno nes i mi gyrraedd”. Galwyd Moel y Geraint yn Moel y Barbwr neu Fryn y Barbwr hefyd ers hynny.
Mae gan Langollen sawl nodwedd ddiddorol, dyma rhai ohonynt.
Mae Abaty Valle Crucis (Glyn y Groes) yn abaty Sistersaidd, wedi’i leoli ar yr A542 tuag at Fwlch Yr Oernant. Cafodd ei adeiladu yn 1201 gan Madog ap Gruffydd Maelor, Tywysog Powys Fadog, ond bu iddo gau yn 1537 yn ystod Diddymiad y Mynachlogydd. Mae rhannu enfawr o’r strwythurau gwreiddiol wedi goroesi hyd heddiw dan ofal Cadw. Mae’n hawdd dychmygu’r man myfyriol, tawel hwn fel y bu yn y gorffennol, gan fod cyseinedd heddychon i’r olion. Roedd Turner wedi paentio Glyn y Groes ac mae’r llun i’w weld yn yr Amgueddfa Brydeinig heddiw.
Mae’r coridor Safle Treftadaeth y byd 11 milltir o hyd, yn ymestyn o Fwlch yr Oernant yn Llantysilio ar hyd y gamlas, ar draws Dyfrbont Pontcysyllte, sy’n codi’r gamlas drosodd o Ddyffryn Dyfrdwy i’r Waun. Mae’r ddyfrbont yn gamp beirianyddol, 126 troedfedd o uchder a 1007 troedfedd o hyd. Adeiladwyd ei bileri pigfain o dywodfaen, o chwarel Cefn gerllaw. Mae’r bwâu haearn bwrw yn ymestyn 45 troedfedd yr un ac maent yn cario cafn haearn bwrw cul, sydd a thrwch o 1 modfedd yn unig. Gan roi enw camlas yn y nen iddi. Mae’r safle cyfan yn cynnwys grŵp parhaus o nodweddion peirianneg sifil, a adeiladwyd rhwng 1795 ac 1808. Mae’n gampwaith o ddatblygiad trafnidiaeth hanesyddol, a’n enghraifft o waith gorau dau ffigwr rhagorol yn hanes peirianneg sifil: Thomas Telford a William Jessop.
Mae Castell Dinas Brân yn olion erbyn heddiw o gastell canoloesol, sy’n meddiannu safle pen bryn amlwg uwchben y dref. Adeiladwyd y castell yn y 1260au gan y Tywysog Gruffudd ap Fadog, ar safle sawl strwythur blaenorol, gan gynnwys bryngaer o Oes yr Haearn, sy’n dyddio’n ôl i 600 BC. Dim ond bywyd gweithredol byr iawn a gafodd y castell, ar ôl cael ei losgi gan amddiffynwyr Cymreig yn 1277, yn sgil bygythiad o ymosodiad gan y Saeson. Roedd yn nwylo’r Saeson am gyfnod byr, nes cafodd ei adael yn 1282. Bu’n ganolbwynt i sawl chwedl, ac mae ymwelwyr sy’n gallu dringo i’r copa yn parhau i heidio yno hyd heddiw. Ar ddiwedd Oes Fictoria, bu caban lluniaeth a Chamera Obscura yno (a oedd yn taflu golwg panoramig ar sgrin du mewn), ond mae’r rheiny wedi hen ddiflannu.
Roedd Plas Newydd yn gartref i ferched enwog Llangollen. Roedd teulu Eleanor Butler am iddi fynd i leiandy tra’r oedd Sarah Ponsonby yn ceisio ymdopi â sylw diofyn ei gwarcheidwad. Yr unig beth roedd y ddwy am ei wneud oedd ymroi eu bywydau i’w gilydd, ac yn 1788 bu iddynt ffoi o’u cartrefi aristocrataidd yn yr Iwerddon i setlo ym Mhlas Newydd. Gan ymroi eu hunain i ‘neilltuaeth flasus’ a ‘chyfeillgarwch rhamantus’. Eleanor, gyda’i chymeriad egnïol, addysg Ffrengig a’r feigryn annioddefol, a Sarah, llawer iau, ac yn swil, ond yn benderfynol yn dawel bach, yn ogystal â gofalgar. Nid oedd eu llwybr dewisol yn un hawdd: cawsant eu diarddel gan eu teulu, ac wedi arfer gyda bywyd cyfforddus, roeddent yn fuan mewn dyled. Ni wnaeth hyn eu hatal rhag trawsnewid Plas Newydd, eu bwthyn bach dewisol, yn breswylfa Gothig eu breuddwydion, gyda llyfrgell eang a gerddi addurniadol, gan droi eu llaw at ychydig o ffermio, a chynnal llawer o ohebiaeth a gwella ar eu hunain yn sylweddol. Cafodd eu penderfyniad i fyw oddi wrth llygad y gymdeithas ei gyfaddawdu gan eu henwogrwydd cynyddol, ac roedd gwesteion enwog yn aml yn canfod eu hunain ym Mhlas Newydd i fwynhau eu cwmni, eu ffraethineb ac i edmygu eu cyflawniadau. Bu i’r Merched fyw i fod hen, gan ymroi a gofalu am ei gilydd tan y diwedd, gan drawsnewid i fod yn enwogion lleol.
*Cofiwch o dan y cyfyngiadau presennol mai dim ond teithio hanfodol a ganiateir a dim ond o fewn pellter cerdded y caniateir ymarfer corff. Mae’r swydd hon i ennyn diddordeb ar gyfer ymweliadau yn y dyfodol pan fydd cyfyngiadau’n caniatáu ac yn rhoi rhywfaint o fewnwelediad hanesyddol i’n hardal.