Yr wythnos hon buom yn cyfweld â Kirsty Wild, Cydlynydd Clwb Bwyd a Diod Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, i ganfod mwy am y prosiect.

 

 

Helo Kirsty, allwch chi sôn wrthym am eich rôl fel Cydlynydd y Clwb?

Fel Cydlynydd Clwb Bwyd a Diod Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, rydw i’n cwrdd â llawer o dyfwyr, cynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd a diod a busnesau lletygarwch sy’n gwneud Gogledd Ddwyrain Cymru yn ardal mor wych i fwyta, yfed, ymweld a byw ynddi.  Mae’r Clwb yn cynrychioli tua 40 o fusnesau bwyd a diod yn Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, ac mae’n cydweithio’n agos â Grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd sydd â 30 o aelodau hefyd.  Mae’r ddau grŵp yn gweithio i hyrwyddo bwyd a diod lleol i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd; cefnogi rhwydweithio a chydweithio rhwng busnesau, a byrhau taith bwyd a chynyddu arferion cynaliadwy.  Fel arfer rydym yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi, yn ogystal â digwyddiadau hyrwyddo wyneb yn wyneb, megis Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, Light Up Local, a’n digwyddiad blynyddol ‘Cwrdd â’r Cynhyrchwyr’, yn ogystal â gweithio gyda Gŵyl Fwyd Llangollen.

Mae eich brwdfrydedd yn disgleirio, sut mae trafferthion y flwyddyn ddiwethaf wedi effeithio arnoch chi?

 

Wrth gwrs, mae pob un o’n haelodau wedi cael eu heffeithio gan y pandemig, ac mae’r rhan fwyaf o’n digwyddiadau wedi gorfod cael eu canslo neu eu gohirio.  Ond roedd ein Pwyllgor o berchnogion a rheolwyr busnesau bwyd a diod yn teimlo’n gryf bod angen mewnbwn a chymorth ar ein haelodau rŵan yn fwy nac erioed!  Yn hytrach na chynnal ein digwyddiad Cwrdd â’r Cynhyrchwyr wyneb yn wyneb, llwyddom i gael cyllid gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint i gomisiynu cwmni cynhyrchu lleol, sef Eastwood Media o Landegla, i ffilmio cyfres o fideos o gynhyrchwyr bwyd a diod lleol.  Y syniad yw rhoi fideo a lluniau proffesiynol i gynhyrchwyr er mwyn hyrwyddo eu cynnyrch a’u busnesau.  Byddant yn gallu defnyddio’r rhain ar eu cyfryngau cymdeithasol, eu gwefannau ac wrth gyfathrebu â darpar gwsmeriaid.  Gall y grwpiau hefyd eu defnyddio i arddangos yr amrywiaeth arbennig o fwyd a diod sy’n cael eu creu yma yng ngogledd ddwyrain Cymru: a dangos o ddifrif ei fod yn gyrchfan bwyd!

 

 

Mae’n hyfryd gweld cynifer o aelodau yn brysur unwaith eto o’r diwedd.  Mae’r Clwb yn disgwyl ail-gydio mewn mwy o weithgareddau yn fuan, gan gynnwys rhwydweithio a hyfforddi wyneb yn wyneb yn ogystal â chynnal y digwyddiadau bwyd a diod yr ydym wedi gweld eu heisiau yn fawr!  Rydym yn falch iawn bod y Clwb wedi gallu parhau i roi gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â busnes, cyllid a’r diwydiant a chyfleoedd hyfforddi yn ystod y pandemig; mae wedi cynnal cysylltiadau rhwng aelodau, a rhwng y Clwb a Chynghorau lleol, cyrff a sefydliadau bwyd a diod, ac mae wedi parhau i hyrwyddo buddiannau a chynigion ei aelodau, cefnogi eu busnesau trwy’r cyfnodau anodd hyn. Mae’r Pwyllgor wedi penodi cynrychiolwyr i aelodau ac mae cyfarfodydd wedi parhau i gael eu cynnal dros y we trwy gydol y cyfnodau clo.

Soniwch fwy wrthym am y prosiect ffilmio, mae’n swnio’n gyffrous iawn.

Dechreuodd y prosiect ar ddiwedd mis Ebrill a daeth y gwaith ffilmio i ben ar 9 Mehefin.  Mae Eastwood Media wedi gwneud gwaith arbennig, gan ymweld â mwy nag un safle bob dydd ym mhob tywydd, tawelu nerfau pobl a oedd yn cael eu ffilmio, a dangos y lleoliadau a’r cynnyrch yn y golau gorau posibl.  Mae’r adborth gan fusnesau hyd yma wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol, ac mae nifer ohonynt yn ddiolchgar am y cyfle a fyddai wedi bod y tu hwnt i’w cyrraedd ar hyn o bryd pe baent wedi comisiynu gwaith ffilmio unigol.  Gan i ni gael cyllid llawn ar gyfer y prosiect, roedd yn rhad ac am ddim i’n haelodau sy’n gynhyrchwyr a chymerodd 29 ohonynt ran.  Rydym wedi cael cannoedd o luniau anhygoel gan Eastwood Media hyd yma, ac maent yn y broses o olygu’r gwaith fideo, felly gwyliwch allan amdano!  Byddwn yn siŵr o’i rannu ar ein cyfryngau cymdeithasol @tastedeevalley, @clwydianrangefoodanddrink a @tastenortheastwales

Rwy’n deall eich bod wedi bod yn brysur er gwaethaf y cyfyngiadau lleol, pa fath o weithgareddau ydych chi wedi bod yn eu gwneud?

Yn ogystal â’n Prosiect Fideo Cwrdd â’r Cynhyrchwyr, mae ein prosiect Tyfu Llangollen yn brosiect newydd sy’n cefnogi rhwydwaith o dyfwyr yn Nyffryn Dyfrdwy, ac rydym wedi sicrhau bron i £60,000 o gyllid grant mewn partneriaeth â Grŵp Bwyd a Diod Dyffryn Clwyd i benodi ymgynghorwyr arbenigol yn y diwydiant a chydlynydd digwyddiadau i gynorthwyo aelodau i adfer ar ôl y pandemig tan fis Ionawr 2023.

Sut ddylai pobl gysylltu os ydynt am gymryd rhan?

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ac ymrwymiad parhaus yr aelodau i’r Clwb a’i nodau, sy’n teimlo hyd yn oed yn bwysicach rŵan ar ôl i ni weld cymaint o enghreifftiau o fanteision cadwyni cyflenwi lleol byr, gweithio ar y cyd a chymuned.  Bydd llawer o’r darllenwyr yn adnabod tyfwyr, cynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd a diod a busnesau lletygarwch yn AHNE Dyffryn Dyfrdwy a Bryniau Clwyd a fyddai’n elwa o ymuno â ni, felly anogwch nhw i gysylltu â mi, rwy’n fwy na bodlon cael sgwrs gydag unrhyw un sydd â diddordeb yn y Clwb i roi gwybod iddyn nhw beth allwn ni ei wneud iddyn nhw : dim ond £60 y flwyddyn yw ein ffi aelodaeth.  Rydym yn gryfach gyda’n gilydd, a byddem wrth ein bodd yn croesawu aelodau newydd i hyrwyddo mwy o gydweithio lleol a’r holl fuddion sy’n tarddu o hynny. Edrychwn ymlaen at flwyddyn well i ddod!

 

 Os allech chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod elwa o fod yn rhan o’r gydweithfa hon, cysylltwch â Kirsty heddiw ar hello@tastedeevalley.wales

 

Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl gydag arian grant gan

Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog

Cadwyn Clwyd AHNE Bryniau Clwydian a Dyffryn Dyfrdwy

Cyngor Sir Dinbych

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

 

This blog is written as part of the Denbighshire County Council Destination Management Plan 2021.