Mynydd Sleddog Adventures Ltd yw atyniad cŵn sled cyntaf Cymru, yn cynnig anturiaethau hysgwn a chŵn sled i bobl o bob oedran!  O hyn ymlaen does dim rhaid i chi neidio ar awyren i fwynhau’r profiad unigryw hwn.

Gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi darparu rhan o goedwig iddynt weithredu, dechreuodd Mynydd Sleddog Adventures fasnachu ym mis Rhagfyr 2019. Yn fuan wedyn ym mis Mawrth 2020, pan oeddent newydd ddechrau cael llif cyson o archebion, fe aeth y wlad i gyfnod clo oherwydd y pandemig, ac yn anffodus bu’n rhaid iddynt gau eu busnes am y tro.

Fel busnes newydd roedd hyn yn peri gofid iddynt, yn enwedig gyda 16 ci sled weithiol i’w bwydo heb incwm, ond ni wnaethant adael i hyn rhoi stop arnynt yn gyfan gwbl.

Roedd y cyfnod clo yn gyfle iddynt greu gwefan newydd sbon ar gyfer y busnes ac maent wedi creu ychydig o ffilmiau anhygoel yn ogystal â gweithio ar eu presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol a’u strategaeth farchnata.

Maent wedi llunio Canllaw Cadw’n Ddiogel  a fersiwn ar-lein o’u ffurflen cydsyniad i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn cadw mor ddiogel â phosib.

Am y tro; dim ond i bobl o’r un cartref neu swigen gofal y byddant yn darparu anturiaethau cŵn sled (1 car llawn).

Darllenwch y blog yma sy’n dweud stori ffeithiol am sut achubodd y cŵn sled bentref oedd yn marw ar ôl i epidemig Difftheria daro’r pentref mwyaf anghysbell yn Alaska yn 1925. Mae’n hynod o berthnasol a byddai’n bendant yn ysbrydoli pobl i ymweld â’r ardal leol

 

Os ydych chi’n fusnes twristiaeth ac os hoffech chi ymddangos yma, cysylltwch â ni.