Mae Tîm Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru unwaith eto’n lansio her goginio newydd sbon i ddathlu dechrau Blwyddyn Awyr Agored Cymru.
Gyda dull newydd i’r gystadleuaeth, bydd her 2020 yn gweld bwyty a hyd at caffi, siopau coffi neu ystafell de yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth gyfeillgar i arddangos eu cynnyrch lleol gorau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru!
Yr her i fwytai fydd creu plât drwy ddefnyddio barbeciw neu gril i arddangos cynhyrchwyr lleol o Ogledd Ddwyrain Cymru, er mwyn cyffroi’r synhwyrau a helpu pobl i ddysgu mwy am Flwyddyn Awyr Agored Cymru 2020.
Bydd yr her i gaffis / siopau coffi ac ystafelloedd te ychydig yn wahanol, ac yn annog dyluniad picnic i fynd, neu i eistedd i mewn, a fydd eto’n defnyddio gymaint o gynnyrch lleol Gogledd Ddwyrain Cymru â phosib, yn ogystal ag ymgorffori hyrwyddo taith gerdded leol i annog pobl i archwilio ein hardal, gan fwynhau eu picnic ar yr un pryd.
Yr Her
Rhwng 6 a 27 Mawrth dylai bwytai ledled y rhanbarth weini eu cynigion bob dydd (yn ystod oriau arferol), a bydd ciniawyr dirgel yn ymweld â nhw ddwywaith er mwyn rhoi sgôr i’r bwyd, y modd y caiff ei hyrwyddo ac i ba raddau y mae’n bodloni meini prawf y gystadleuaeth.
Bydd y tri phlât barbeciw / gril sy’n sgorio orau yna’n cael eu gwahodd i gystadleuaeth goginio ar ddechrau mis Ebrill gyda gwobrau’n cynnwys y cyhoeddusrwydd sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad, ynghyd ag arddangosiad coginio mewn Gwŷl Fwyd a Diod lleol yn ddiweddarach yn y flwyddyn – gyda chaffis gyda’r cyfuniadau picnic / taith gerdded gorau yn cael cyhoeddi eu cynhwysion a’u teithiau mewn llenyddiaeth o fewn Gogledd Ddwyrain Cymru cyn cyfnod prysur yr haf.
Gan siarad am y digwyddiad, dywedodd Sam Regan; “Gyda Blwyddyn Awyr Agored Croeso Cymru yn cael ei lansio fis diwethaf, mae’n wych gweld ein partneriaid twristiaeth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn cynnal cystadleuaeth goginio arall, sy’n boblogaidd iawn – ac yn magu perthnasau newydd rhwng cynhyrchwyr a’n hunain yn y fasnach bwytai, sy’n hanfodol. Mae’r ddwy gystadleuaeth newydd yn cynnig cyfle i fwytai a chaffis / ystafelloedd te gystadlu ar blatfform cyfartal, gan greu cynnyrch newydd i ymwelwyr i’r rhanbarth hon.”
Sut i gystadlu
Os ydych yn gogydd neu’n cadw bwyty o fewn Wrecsam, Sir y Fflint neu Sir Ddinbych ac yn dymuno derbyn yr her, byddwch angen anfon manylion eich plât i tourism@wrexham.gov.uk erbyn 9.00am ar 28 Chwefror. Dylech gynnwys enw’r blât, manylion yr holl gyflenwyr a ddefnyddir ac unrhyw fanylion eraill y credwch a fydd yn gwneud i’ch cynnig sefyll allan. Oherwydd bod cynigion wedi’u cyfyngu i ddeuddeg i bob categori, os yw’r categori hwnnw’n llawn, byddwch yn cael eich hysbysu os ydych yn llwyddiannus y diwrnod canlynol, a bydd angen i fusnesau sy’n cael eu cynnwys fynd i sesiwn friffio fer ar 3 Mawrth.
Cyhoeddir manylion yr holl seigiau yn yr her ar 5 Mawrth, a bydd modd eu gweld ar www.northeastwales.walesa chyfrifon cyfryngau cymdeithasol Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ar yr un dyddiad.