Mae na deimlad o dyma ni unwaith eto, ond mae’n bwysig peidio â cholli golwg pam y gofynnir i ni wneud hyn. O 6yh ddydd Gwener bydd Cymru unwaith eto’n dechrau cyfnod chloi, pan na chaniateir unrhyw teithio nad yn hanfodol er mwyn atal lledaeniad cyflym y feirws. Dim ond am bythefnos y mae hyn felly gobeithio y gallwn weld y goleunni.
Fodd bynnag, bydd dal angen gofalu am blant a’u diddanu yn ystod hanner tymor a gall hyn fod yn anodd pan fydd diwrnodau allan ac ymweliadau ag atyniadau ddim yn bosibl. Ond gan edrych ar yr ochr orau dylai hanner tymor gostio llawer llai nag y mae fel arfer.
Felly beth allwn ni ei wneud gyda’n plant bach i ddiddanu a meiddio ni ddweud eu blino allan?
Dyma rai syniadau syml i dechrau:
- Estynnwch y paent a’r glud a’r gliter allan a chreu eich mygydau a’ch addurniadau Calan Gaeaf eich hun. Ewch gam ymhellach a chasglwch dail a gwerin o’r gwrychoedd ar daith gerdded i ychwanegu at y gwaith celf. Mae lliwiau’r dail mor amrywiol a hardd yr adeg hon o’r flwyddyn.
c
- Cerfio’r pwmpenni am eich difyrrwch eich hun (nid yw mor hawdd ag y mae’n edrych) neu os ydych yn teimlo’n gystadleuol mae llawer o drefi a phentrefi yn rhedeg y ‘gystadleuaeth cerfio pwmpen orau’.
Rydyn ni’n arbennig o hoff o’r un hwn, does dim rhaid iddyn nhw fod yn frawychus.
- Rhowch babell i fyny yn yr ardd os nad yw’n rhy wynt gnewch siocled poeth neu picnic ar lawr yr ystafell fyw wrth wylio hoff ffilm deuluol.
- Gwnewch ychydig o goginio hwyliog, gwnewch eich cŵn poeth eich hun ac afalau toffi, gollewch sparclars a cynnwch tan os oes ganddoch pwll tân ty allan tostiwch marshmalws a syllwch ar ein awyrau tywyll gwych (oeddech chi’n gwybod bod Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy AHNE yn gwneud cais achrediad rhyngwladol am ansawdd ei awyrau tywyll) sgwrsiwch am y sêr a chael eich noson awyr agored i’ch teulu bach eich hun.
- Dysgwch sgìl newydd i’ch plant , mae plant wrth eu bodd â sylw un i un ac nid ydych byth yn gwybod y gallech eu dechrau gyda diddordeb sy’n para hyd oes.
- Mae sawl ffordd o wneud ‘mynd a dro’ yn fwy diddorol, llunio stori wrth cerdded am y pethau a welwch. Os oes ganddyn nhw ffôn gyda chamera rhowch restr o bethau iddyn nhw dynnu llun ar daith ac unwaith adref dewiswch y llun gorau i argraffu neu greu collage neu stori amdanyn nhw.
- Mae geostorfa hefyd yn ffordd wych o’u cael i ddilyn cyfarwyddiadau, cliwiau a dod o hyd i drysor. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.
Mae’n siŵr y byddwch eisoes wedi meddwl am syniadau creadigol eich hun! Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich hanner tymor felly tynnwch luniau a rhannwch gyda ni gan ddefnyddio #northeastwales a chofiwch…
‘There is no such thing as bad weather, only the wrong clothes’
Alfred Wainwright
Llun clawr gan@ilovellan