Mae mwyafrif yr atyniadau yn agor eu drysau cyn gwyliau’r Pasg felly bydd digon o bethau i chi eu gwneud. Os ydych chi eisiau gwneud mwy na bwyta wyau Pasg, yna Gogledd Ddwyrain Cymru yw’r lle delfrydol i chi dreulio’r gwyliau.
Cewch eich synnu o’r ochr orau gan y tywydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r dyddiau’n oleuach ac yn hirach – felly gallwch wneud y mwyaf o’ch arhosiad. Wrth i’r tywydd gynhesu, nid yw gweithgareddau awyr agored mor heriol, a cofiwch os cewch chi gawod Ebrill, ein hoff ddywediad yw ‘Nid oes y fath beth â thywydd gwael dim ond y dillad anghywir!’
Os ydych yn dod â’r plant, mae digonedd o helfeydd wyau Pasg a digwyddiadau ar thema’r Pasg.
Here are just a few of our favourite family attractions.
Dyma rywfaint o’n hoff atyniadau i deuluoedd.
SeaQuarium yn y Rhyl.
Mae’r SeaQuarium yn cynnig taith archwilio tanddwr, ble gallwch archwilio bywyd dyfrol o sawl rhan o’r byd yn cynnwys yr Amazon, y Môr Tawel, Cefnfor yr India, y Môr Coch a’n moroedd ein hunain o amgylch Prydain.
Llyn Morol y Rhyl
Yn y Llyn Morol, caniateir sgïo dŵr a thonfyrddio drwy Glwb Sgïo Dŵr Ocean Beach, ond os yw’n well gennych beidio gwlychu, gallwch gerdded o amgylch y llwybr amgylcheddol newydd neu fynd â’r plant i’r man chwarae neu ar y Rheilffordd Fechan.
Pwll Brickfield , Y Rhyl
Mae Pwll Brickfield, yng Ngorllewin y Rhyl yn warchodfa natur leol sy’n boblogaidd am ystod o weithgareddau hamdden, yn cynnwys taith gerdded gylchol 1km o amgylch y pwll. Y lle perffaith i fwydo’r hwyaid a chael cipolwg ar amrywiaeth o adar y dŵr, yn cynnwys yr hwyaden wyllt, elyrch dof ac iâr ddŵr. Weithiau, gallwch weld glas y dorlan, crëyr las a gwennol y glennydd hefyd.
Rhaeadr Dyserth
Mae rhaeadr Dyserth , ble mae’r Afon Ffyddion yn syrthio 70 troedfedd ar ei thaith i Afon Clwyd, mewn pentref bychan ar gyrion y Rhyl. Yn ôl y sôn, y tu mewn i’r waliau canoloesol roedd olwyn ddŵr anferthol, yn cael ei rhedeg gan Raeadr Dyserth, a chodwyd sawl melin ar hyd yr afon yn ystod y blynyddoedd.
Castell Dinbych
Adeiladwyd Castell Dinbych a waliau’r dref rhwng 1282 a 1311. Adeiladwyd y castell i Henry de Lacy, Iarll Lincoln a gafodd arglwyddiaeth Dinbych gan y brenin Edward y 1af yn ystod ei ymgyrch yn erbyn y Cymry.
Bellach yng ngofal CADW, mae’r castell ar agor drwy gydol y flwyddyn , ond mae’r amseroedd a’r dyddiau’n amrywio drwy’r flwyddyn. Mae canolfan ymwelwyr ar y safle ac mae parcio ar gael. Gallwch hefyd fenthyg allwedd o Lyfrgell Dinbych i archwilio ar eich pen eich hun.
Cwch Camlas wedi’i dynnu gan Geffyl
O Lanfa Llangollen, gallwch fynd ar daith mewn cwch wedi’i dynnu gan geffyl neu daith ar gwch modur ar y draphont ddŵr, mae’r ddau yn eich tywys ar hyd golygfeydd a synau hudolus Camlas hardd Llangollen.
Llyn Brenig
Llun Brenig
Archwiliwch dros 2500 erw o goedwigoedd, rhostir a llynnoedd ymhlith golygfeydd godidog o’r ucheldir. Gyda Chanolfan Ymwelwyr, Caffi, Siop Anrhegion, Arddangosfa’r Gweilch, Maes Chwarae Antur, Llogi Beiciau, Beicio Mynydd, Llwybrau Cerdded, Hwylio a physgota o safon rhyngwladol. Mae ar agor drwy gydol y flwyddyn, gallwch barcio drwy’r dydd am ddim ond £2.50, felly dewiswch eich Antur Dŵr heddiw. Er bod modd llogi ceufadau a phadlfyrddau ar y llyn, ni chaniateir i chi eu lansio eich hun na nofio yn y dŵr agored yn Llyn Brenig ar hyn o bryd.
Tŷ Nantclwyd y Dre a Gardd yr Arglwydd
Tŷ pren o’r 15fed ganrif a gardd furiog yn dyddio o’r Canol oesoedd.
Mae tŷ tref pren a gardd furiog hynaf Cymru wedi cael eu hadfer yn ddiweddar i adlewyrchu 7 cyfnod o’i hanes a’i ddatblygiad. Gall ymwelwyr deithio yn ôl mewn amser o’r 1940au i 1435.
Yn yr ardd mae pergola rhosod, coed cnau ac mae’r dolydd blodau yn dangos defnydd hanesyddol y gerddi – ar gyfer meddyginiaeth, coginio a phleser synhwyraidd. Mae’r berllan yn cynnwys mathau traddodiadol o afalau a gellyg ac eirin Dinbych. Ar hyd y llwybrau mae llwyni ffrwythau, meryswydd, cwins a mwyar Mair, arddangosfa wych o babi gwyllt a ‘mynwent anifeiliaid anwes’ heb ei chyffwrdd. Gellir mwynhau golygfeydd unigryw o’r dref hanesyddol, y Castell a’r mynyddoedd o safle uchel, cudd y gerddi.
Plas Newydd, Llangollen
Roedd y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby wedi dal dychymyg y gymdeithas Raglywiaeth. Cawsant lu o ymwelwyr yn y bwthyn bach diymhongar, a gafodd ei drawsnewid ganddynt dros y blynyddoedd i ffantasi Gothig o wydr wedi’i staenio a derw wedi’i gerfio’n fanwl. Y tu fewn i Blas Newydd heddiw, mae arddangosfa yn cynnwys rhai o’u heiddo a thaith awdio yn dod â’u stori’n fyw. Gallwch grwydro drwy eu gerddi ac ar hyd eu llwybr ar lan yr afon. A gallwch gael paned o de yn eu hystafelloedd te hyfryd fel y gwnaeth Wordsworth, Syr Walter Scott a Dug Wellington o’ch blaen.