Mae rhanbarth gogledd ddwyrain Cymru yn paratoi ar gyfer tymor yr hydref sy’n wledd o ddigwyddiadau bwyd gydag amrywiaeth o gynhyrchwyr bwyd a diod lleol anhygoel yn arddangos yno.
Mae’r digwyddiadau ardderchog hyn yn cael eu cynnal yn ardaloedd prydferth Bryniau Clwyd, Dyffryn Dyfrdwy a Wrecsam.
Mae nifer o’r busnesau a fydd yn arddangos yn y digwyddiadau hyn yn gleientiaid i Cywain – prosiect sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes. Mae Cywain yn rhaglen sydd wedi ymrwymo i ddatblygu busnesau micro a busnesau bach a chanolig newydd neu sydd eisoes yn bodoli, gan ganolbwyntio ar wneud y mwyaf o gyfleoedd a’r potensial i dyfu. Dywedodd Alex James, arweinydd tîm marchnata a digwyddiadau Cywain, “Rydym yn gweithio gyda chynhyrchwyr mewn sawl ffordd wahanol er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt wrth werthu i’r cyhoedd mewn digwyddiadau. “Mae gan ogledd ddwyrain Cymru ddigonedd o gynhyrchwyr bwyd a diod, ac mae gwyliau bwyd yn ffordd wych o ddenu mwy o gwsmeriaid a hyrwyddo’u brandiau.”
Gwyl Fwyd a Diod Wrecsam – 7 a 8 Medi
Mae Gwyl Fwyd a Diod Wrecsam yn cael ei drefnu gan grwp cymunedol sy’n gweithio ar sail nid er elw a denodd y digwyddiad dros 5,500 o ymwelwyr y llynedd. Bydd yr Wyl yn 2019 yn cynnwys dros 75 o gynhyrchwyr bwyd lleol a rhanbarthol.
Dyma’r tro cyntaf y bydd James Duckers a Leigh Brigham yn gwerthu eu toesenni ffres wedi’u gwneud â llaw yng Ngwyl Fwyd Wrecsam – ac unrhyw wyl arall! Lansiodd y ddau’r fenter – Doughnutology Chester – ym mis Hydref y llynedd gan ddosbarthu i gwsmeriaid o fewn 15 milltir i dref Wrecsam.
Dywedodd Leigh, “Rydym yn derbyn archebion am ein toesenni hyd at ganol nos ac yna’n eu coginio’n ffres y bore canlynol cyn eu dosbarthu. Rydym ni wedi bod mewn rhai marchnadoedd a ffeiriau ond dyma’r tro cyntaf y byddwn yn gwneud unrhyw beth ar raddfa Gwyl Fwyd Wrecsam. Mae Cywain wedi rhoi llawer o gymorth i ni ac rydym ni wedi mynychu cyfarfodydd a gweithdai gyda nhw.”
Gwyl Fwyd a Diod Yr Wyddgrug 21 a 22 Medi
Mae’r wyl hon wedi cael ei chynnal ers 14 mlynedd ac mae’n cynnig cyfuniad o fwyd, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu. Bydd cynhyrchwyr poblogaidd a chynhyrchwyr newydd yn mynychu’r wyl sydd hefyd yn dod â’r gymuned ynghyd.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn ardal Delaney’s Gluten Free Bakehouse.
Wedi’i sefydlu gan Elaine Delaney yn 2018, Gwyl Fwyd Yr Wyddgrug oedd y digwyddiad cyntaf i’r busnes ei fynychu.
Dywedodd Elaine, “Yr wyl hon y llynedd oedd ein digwyddiad cyntaf ac roedd e’n anhygoel. Mae’n ddigwyddiad gwych ac fe gawson amser da iawn. Yr Wyddgrug yw ein cartref felly roedd y gefnogaeth gan ffrindiau, teulu a’r bobl leol yn arbennig.
“Mae ein cynnyrch yn cael eu pobi’n ffres ac rydym yn awyddus i roi mwy o ddewisiadau o gynnyrch heb glwten na chynnyrch llaeth i gwsmeriaid. Mae’n bwysig medru gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd ac roedd hi’n hyfryd gweld bod y cwsmeriaid yn gwerthfawrogi ein bod yn creu rhywbeth newydd a chyffrous.”
Gwledd Eirin Dinbych 5 Hydref
Mae Gwledd Eirin Dinbych bellach wedi cael ei chynnal ers 11 mlynedd, ond dyma’r un gyntaf ers i’r ffrwyth ennill statws Enw Tarddiad Gwarchodedig ym mis Chwefror, o dan Gynllun Enwau Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd (EUPFN).
Mae’r daith i dderbyn statws Enw Tarddiad Gwarchodedig ar gyfer Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd wedi bod yn un hir – mae’n broses dechnegol sy’n cymryd blynyddoedd i ddwyn ffrwyth. Felly bydd ymdeimlad o ddathlu yn y Wledd eleni.
Er iddo ddechrau dirywio ar un adeg, mae’r ffrwyth wedi cael ei adfywio yn y blynyddoedd diweddaraf ac mae’n cael ei ddefnyddio gan nifer gynyddol o gynhyrchwyr lleol mewn ffyrdd arloesol amrywiol.
Elisabeth Jones yw un o’r cynhyrchwyr hyn sy’n mwydo jin a fodca gyda ffrwythau – gan gynnwys Eirin Dinbych – er mwyn creu ystod o wirodydd a siocledi Shlizzy.
Mae ei Gwirod Jin Eirin Dinbych Shlizzy yn boblogaidd gyda’r cwsmeriaid.
Dywedodd, “Rydych chi’n medru blasu’r gwahaniaeth rhwng y gwirodydd sydd wedi’u gwneud ag Eirin Dinbych a’r rhai sydd wedi’u gwneud â’r eirin eraill. Mae pawb sydd wedi’i flasu’n ffafrio’r gwirod gydag Eirin Dinbych.
“Dyma fy nhrydedd flwyddyn yng Ngwledd Eirin Dinbych. Mae’n un o fy hoff wyliau ac mae ganddo awyrgylch gymunedol hyfryd. Mae’r wyl wedi bod yn cael ei chynnal am 11 mlynedd ac mae’n mynd o nerth i nerth. Mae’n gefnogol iawn o gynhyrchwyr bwyd a diod lleol ac mae’n ffordd wych o ddangos yr amrywiaeth o gynnyrch sydd yn yr ardal.”
Gwyl Fwyd Llangollen 19 a 20 Hydref
Mae ymwelwyr yr Wyl Fwyd hon, a gynhelir ym Mhafiliwn byd enwog Llangollen, yn canu ei chlodydd.
Mae Llangollen yn dref brydferth ar lannau’r afon Dyfrdwy ac mae’r twristiaid yn cael eu denu yno gan y golygfeydd godidog, y trên stêm a’r digwyddiadau diwylliannol gan gynnwys yr Eisteddfod Ryngwladol.
Bydd Aballu, cynhyrchwr siocledi crefft sy’n boblogaidd mewn gwyliau bwyd ledled Cymru a’r cyffiniau, ac wedi’i leoli yn Yr Orsedd, yn cymryd rhan yng Ngwyl Fwyd Llangollen unwaith eto.
Dywedodd Jo, “Mae Gwyl Fwyd Llangollen yn denu amrywiaeth eang o bobl – gan gynnwys pobl o dramor. Llynedd, fe wnes i gyfarfod â rhywun nad oeddwn wedi’i weld ers pan oeddwn yn arfer gweini y tu ôl i far mewn tafarn yng Nghaerdydd 20 mlynedd yn ôl!”
Mae Aballu, a sefydlwyd 13 mlynedd yn ôl gan Jo Edwards, hefyd yn cyflenwi manwerthwyr a’r sector lletygarwch gyda’i siocledi moethus.
Dywedodd Jo, “Mae braidd yn gynnar eto, ond rydym yn gweithio gyda Cywain i sefydlu siop ar-lein. Maen nhw wedi bod yn wych ac rydym ni wedi bod ar nifer o gyrsiau gyda nhw er mwyn gwella ein sgiliau gwerthu a marchnata. Mae’n dda bod rhywun yna y gallwn gysylltu â nhw ac a fydd yn medru ein rhoi ar y trywydd iawn – mae hynny’n help mawr i fusnesau bach”
Am fwy o wybodaeth am y gwyliau bwyd anhygoel hyn dilynwch y dolenni isod:
Gwyl Fwyd a Diod Wrecsam
Gwyl Fwyd Yr Wyddgrug
Gwledd Eirin Dinbych
Gwyl Fwyd Llangollen
Cywain
Eleni (2019) mae Cywain yn dathlu ei 10fed blwyddyn o weithio gyda chynhyrchwyr bach a chanolig i ddatblygu, tyfu a chodi ymwybyddiaeth o fwyd a diod o Gymru. Mae’r prif feysydd yn cynnwys helpu i ddatblygu gweledigaeth a gallu, ychwanegu gwerth at gynnyrch, cynyddu gwerthiant a thargedu marchnadoedd newydd. Ceir rhagor o fanylion am Cywain yma: www.menterabusnes.co.uk/cywain.
Mae Cywain yn brosiect a luniwyd ac a ddatblygwyd gan Menter a Busnes, ac mae wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru -Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Menter a Busnes
Sefydlwyd Menter a Busnes ym 1989, ac mae wedi datblygu i fod yn un o brif gwmnïau datblygu economaidd Cymru. Mae’r brif swyddfa wedi ei lleoli yn Aberystwyth ac mae’n dathlu 30 mlynedd o arbenigo mewn cefnogi busnesau newydd, twf busnes, amaethyddiaeth, datblygu sgiliau a sectorau bwyda diod ledled Cymru. Mae’n rheoli nifer o raglenni ar ran Llywodraeth Cymru gan gynnwys Cyswllt Ffermio a Cywain.
Cysylltwch â’r canlynol am fwy o wybodaeth:
Rhiain Williams
Swyddog Marchnata Cywain
rhiain.williams@menterabusnes.co.uk
01970 600168 / 07508 505333