Cwrs Golff a Maes Ymarfer Parc Llannerch
Wedi’i leoli wrth ymyl Canolfan Siopa Tweedmill, mae’r cwrs hwn yn gwrs perffaith i ddechreuwyr. Mae ganddo’r holl gyfarpar y gallwch eu llogi a hefyd maes ymarfer golff.
Gyda maes ymarfer 14 bae, cwrs ymarfer 9 twll a Stiwdio Efelychydd Golff GC2…byddwch yn cael twll mewn un mewn dim o dro!
Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0BD
01745 730805
Clwb Golff Llaneurgain
Mewn dros 250 erw o diroedd parc hyfryd gyda golygfeydd ar draws Moryd Dyfrdwy. Mae Clwb Golff Llaneurgain yn cynnig cwrs pencampwriaeth sydd ar gael i chwarae arno am 12 mis o’r flwyddyn, gydag ardaloedd tïo amrywiol, mae’r cwrs yn addas i bob lefel a gallu.
Gyda chwrs 18 twll, mae Clwb Golff Llaneurgain yn gwrs godidog sy’n gwneud penwythnos perffaith o golff yng Ngogledd Cymru.
Llaneurgain, Sir y Fflint CH7 6WA
001352 840440
Clwb Golff Prestatyn
Ewch am gwrs yr arfordir yng Nghlwb Golff Prestatyn, sy’n rhoi croeso cynnes i’w holl ymwelwyr. Ar gael ar gyfer grwpiau ffrindiau neu fwy swyddogol, mae Clwb Golff Prestatyn yn gwneud diwrnod allan gwych, gan herio hyd yn oed y golffwyr gorau yn eich grŵp.
Ac ar ôl diwrnod gwych o chwarae golff, gallwch eistedd yn ôl ac ymlacio yn Nhŷ’r Clwb a gweld yr haul yn machlud dros y môr
Marine Road East, Prestatyn, Sir Ddinbych LL19 7HS
01745 854320
Clwb Golff Bro Llangollen
Chwarae golff o fewn Dyffryn yng Nghymru….a oes cwrs gwell?
Chwaraewch ein rownd o golff o fewn Dyffryn Dyfrdwy, lleoliad anhygoel yng Nghlwb Golff Llangollen. Mae Clwb Golff Bro Llangollen wedi’i ddyfarnu â Statws Aur gan system sgorio HSBC ac yn cael ei ystyried fel y cwrs mewndirol gorau yng Ngogledd Cymru, gyda’r 9fed twll yn cael ei ystyried fel y twll gorau yng ngolff Prydain.
Ffordd Caergybi, Llangollen, Sir Ddinbych, LL20 7PR
01978 860906
Clwb Golff Padeswood a Bwcle
Pam chwarae yng Nghlwb Golff Padeswood a Bwcle?
Wel, mae meysydd rhagorol a ffordd deg llawn coed, a llynnoedd a golygfeydd i fryniau pell Cymru, ynghyd â phrydau gwych ein bwyty neu groeso cynnes ein haelodau a staff.
Y cwestiwn i’w holi yw pam nad ydych chi wedi chwarae yng Nghlwb Golff Padeswood a Bwcle eto?
Station Lane, Padeswood Lake Road, Padeswood, CH7 4JD
01978 860906
Clwb Golff yr Wyddgrug
Mae Clwb Golff yr Wyddgrug yn fwy na bodlon i ffurfio pecyn o golff ac arlwyo pwrpasol i ofynion penodol grŵp neu gymdeithas, a gallant eich cynghori ar argymhellion lleol.
Mae’r cwrs yn gwrs 18 twll ar uwchdiroedd, gyda golygfeydd bendigedig o Fryniau Clwyd a’r Peak District. Caiff ei ystyried yn drysor cudd ymhlith sîn golff Gogledd Cymru, ac mae modd mynd yno i chwarae drwy gydol y flwyddyn.
Cilcain Rd, Pantymwyn, Ger Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 5EH
01352 741 513