Bydd trefi Sir Ddinbych yn cael eu goleuo ym mis Rhagfyr i gefnogi ymgyrch siopa’r gaeaf a lansiwyd i gefnogi busnesau lleol.
Yn sgil absenoldeb gweithgareddau arferol y Nadolig yn nhrefi’r sir o achos y pandemig, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio ar sypreis bach i roi hwb yn lleol gydag ychydig o oleuni a disgleirdeb Nadoligaidd.
Mae disgwyl y bydd y goleuadau’n cael eu troi ymlaen ar 4 Rhagfyr a byddant i fyny am fis er mwyn ceisio manteisio ar yr ymwelwyr ychwanegol wrth i ni agosáu at y Nadolig ac yn y Flwyddyn Newydd hefyd.
Y lleoliadau a fydd yn cael eu goleuo ydi:
Eglwysi a chapeli Prestatyn
Castell Rhuddlan
Neuadd y Dref, Y Rhyl
Castell Dinbych
Sgwâr San Pedr ac Eglwys San Pedr Rhuthun
Cadeirlan Llanelwy
Goleuadau ychwanegol ar y bont a’r Sgwâr Coffa yn Llangollen
Goleuo Eglwys Sant Sulien a St Mael y Sgwâr yng Nghorwen
Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Fe fydd y cyfnod cyn y Nadolig yn wahanol eleni, ac ni fydd modd cynnal y digwyddiadau sy’n arfer cael eu cynnal cyn troi goleuadau’r trefi ymlaen.
“Er y bydd y goleuadau Nadolig traddodiadol yn y trefi, cafodd y Cyngor syniad o ychwanegu ychydig o ddisgleirdeb a hwyl Nadoligaidd trwy oleuo adeiladau a strwythurau hanesyddol ac eiconig yn ein prif drefi. Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn cefnogaeth gan gynghorau tref a dinas ar draws Sir Ddinbych er mwyn bwrw ymlaen â’r prosiect yma.
“Ein nod yw denu pobl i’r dref a hyrwyddo ein hymgyrch marchnata Siopa’r Gaeaf, sydd wedi’i ddylunio i annog preswylwyr i gefnogi eu siopau lleol yn ystod y cyfnod prynu hollbwysig yma. Bydd y fenter #CaruBusnesauLleol yn edrych ar weithgareddau busnesau ehangach hefyd, yn cynnwys gwerthu ar-lein.
Felly, estynnwch eich camerâu a’ch ffonau er mwyn rhannu eich lluniau gyda ni o’ch tref leol Nadoligaidd gan ddefnyddio’r hashnod #GogleddDdwyrainCymru a #CaruBusnesauLleol Allwn ni ddim aros i’w gweld nhw!